Lefiticus 1:1-17
Y POETHOFFRWM A’I WERSI
Mae neges arbennig yng ngeiriau agoriadol llyfr Lefiticus: gair Duw yw hwn (1-2), wedi ei gyflwyno’n benodol i Moses er mwyn dysgu gwersi pwysig i Israel – ac i ninnau. Nid geiriau dynol sydd yma, na defodau dynol chwaith. I’r gwrthwyneb: Duw ei hun sy’n siarad yn y llyfr hwn. Gall y cynnwys fod braidd yn ddieithr i ni ar yr olwg gyntaf, ond mae Duw yn bwriadu’r cyfan er addysg i ni ac er ein lles ysbrydol.
Yr offrwm
Cyflwynir yma fanylion am wahanol fathau o boethoffrwm gwirfoddol, yn ôl amgylchiadau’r aberthwr, ynghyd â gwybodaeth am sut y dylid eu haberthu. Y poethoffrwm oedd yr aberth sylfaenol. Yn y bôn roedd yn arwydd o addoliad, ond roedd hefyd yn mynegi awydd am faddeuant pechodau a chymod â Duw, ac yn datgan ymgysegriad llwyr iddo. Cyflwynai offeiriaid Israel boethoffrwm dros y genedl bob bore a hwyr (Exodus 29:38-42; Numeri 28:1-8), ond yma yn Lefiticus pwysleisir bod croeso i unigolyn hefyd ddod â phoethoffrwm drosto’i hun. Gweler hefyd 6:8-13.
Gwersi
- Yn gyntaf, rhaid wrth aberth cymod i addoli Duw a bod mewn perthynas gywir ag ef. Roedd llosgi’r anifail cyfan yn arwydd o’r condemniad llwyr a haedda’r pechadur. Heb iawn dros ein pechod i symud digofaint Duw, nid oes modd dod ato. Cawn yma ddarlun trawiadol o Iesu Grist ar y groes, yr aberth ‘di-nam’ (3) sy’n iawn digonol ac effeithiol dros bechod ei bobl (4) ac yn ‘arogl peraidd i’r Arglwydd’ (9). Ymddiredwn ynddo, a diolchwn iddo o waelod calon. Gweler Hebreaid 9:12-14; 10:11-14.
- Yn ail, gellid offrymu gwahanol fathau o aberth yn ôl amgylchiadau ariannol yr aberthwr, ond mae Iesu Grist wedi offrymu aberth un waith am byth i ddileu pechod y rhai mwyaf truenus hyd yn oed (Hebreaid 9:26).
- Yn drydydd, mae Duw’n gofyn ymroddiad llwyr gennym. Roedd llosgi’r aberth yn gyfan gwbl (8-9) yn tystio fod Duw’n disgwyl i ni ei garu â’n holl galon (Deuteronomium 6:5), heb ddal dim yn ôl. Gweler Rhufeiniaid 12:1-2.