Lefiticus 10:1-20
ANUFUDD-DOD A’I GANLYNIADAU
Mae cynnwys y bennod hon yn wahanol i’r hyn a gawn yn y penodau blaenorol. Ar ôl y cyfarwyddiadau manwl ynghylch yr aberthau ac yna naws sobr a difrifol cysegru’r offeiriaid i’w gwaith, mae’r hanes a welwn yn awr yn peri cryn sioc.
Anufudd-dod Nadab ac Abihu
Nid yw’r Beibl yn dweud yn blwmp ac yn blaen beth yn union oedd pechod Nadab ac Abihu (1-7). Gallwn nodi nifer o bosibiliadau:
- Roeddynt dan ddylanwad alcohol, efallai (9).
- Roeddynt wedi meiddio mentro i’r cysegr sancteiddiaf (16:1-2).
- Roeddynt wedi gwneud arogldarth yn groes i gyfarwyddiadau Exodus 30:34-38.
- Roeddynt wedi cymryd tân o rywle heblaw’r allor.
Yn y bôn, beth bynnag, roeddynt yn euog o ddiffyg parch at Dduw a’i orchmynion (1) drwy fynd yn groes i’r hyn a ordeiniodd Duw ynghylch y modd priodol i’w addoli. Dyma rybudd amlwg: nid syniadau dynol sydd i lywio dulliau addoli, ond Gair Duw.
Canlyniadau
- Yn gyntaf, daw canlyniadau difrifol i Nadab ac Abihu (2; Hebreaid 12:29).
- Yn ail, ni chafodd Aaron a’i feibion eraill alaru’n gyhoeddus dros Nadab ac Abihu, rhag iddynt roi’r argraff eu bod yn cwestiynu barn Duw. Yn hytrach, roeddynt i barhau yn eu gwaith offeiriadol (6-7). Er rhybudd iddynt, pwysleisir bod yn rhaid byw’n sanctaidd (8-11); roedd hyd yn oed eu cyfran o’r offrymau yn sanctaidd (12-15). Yn yr un modd mae Cristnogion – sydd i gyd yn cael eu galw i fod yn offeiriaid i Dduw (1 Pedr 2:5,9) – i ymroi i fyw yn sanctaidd, doed a ddelo (1 Pedr 1:13-16).
- Yn olaf, mae pechod yn peri dryswch cyffredinol. Roedd bwch yr aberth dros bechod i’w fwyta, nid i’w losgi (6:24-30); ond wedi’r farn ar Nadab ac Abihu, roedd Aaron yn ansicr a oedd yn briodol iddo ef a’i feibion eraill ei fwyta, rhag pechu yn erbyn Duw (16-20). Gwelwn sut mae effaith pechod yn ymledu: mae’n creu cymhlethdodau o bob math, ac mae’n siŵr o darfu ar berthynas agos a llawen â Duw.