RHAGARWEINIAD
Mae lle i amau a yw Llyfr y Diarhebion yn cael y sylw y mae’n ei haeddu. Cofiwn ambell ddihareb unigol, efallai, neu’r disgrifiad o’r wraig fedrus yn y bennod olaf, ond beth am y gweddill? Nid annheg fyddai casglu fod y llyfr ar ei hyd yn eithaf anghyfarwydd i lawer un.
Beth felly yw gwerth Diarhebion i ni heddiw? Yn syml, cyflwynir yma egwyddorion sylfaenol a chanllawiau ymarferol i’n helpu i fyw er clod i Dduw yn y byd sydd ohoni. Er enghraifft, ceir rhybuddion taer rhag diogi, celwyddau, meddwdod, pechodau rhywiol, balchder, a cholli tymer, ynghyd ag anogaethau gwresog i anrhydeddu rhieni, pwyso a mesur cyn siarad, ceisio cyfeillion da, a bod yn dosturiol wrth yr anghenus. Nid oes lle mewn cyfrol fach fel hon i drafod pob agwedd ar y cynnwys, ond gobeithir tynnu sylw at rai o’r themâu pwysicaf.
Wrth ddarllen y llyfr dylid cofio mai dywediadau cryno, bachog sydd yma. Yn null diarhebion yn gyffredinol, tueddant weithiau i gyfleu neges yn ysgubol a diamodol, neu i fynegi dim ond un agwedd ar y gwir. Er mwyn cael darlun mwy crwn a chytbwys o’r gwir, felly, rhaid mynd at rannau eraill o’r Beibl. Serch hynny, nid yw dweud hyn yn gwadu gwerth y diarhebion fel y cyfryw: saethu neges ergydiol, nid cyflwyno astudiaeth drylwyr a dysgedig, yw eu nod.
Yn ôl tystiolaeth 1:1, 10:1, a 25:1, Solomon yw awdur y rhan fwyaf o’r diarhebion; ceir cyfraniadau hefyd gan y ‘doethion’ (22:17; 24:23), Agur (30:1), a Lemuel (31:1). Eglura 25:1 i ysgrifenyddion y Brenin Heseceia gofnodi deunydd penodau 25—29, ond nid oes modd gwybod pwy a fu’n gyfrifol am ffurf derfynol y llyfr.
Ar yr wyneb nid oes llawer o sôn penodol am Dduw yn y llyfr. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw bod y cyfan yn seiliedig ar y datganiad mai ofni Duw yw dechrau gwir ddoethineb (1:7; 9:10; 15:33). Yma mae’n dangos inni’r math o fywyd sy’n dda yn ei olwg (gweler, e.e., 3: 5-8). Rhaid i wir grefydd effeithio ar bob rhan o’n bodolaeth, ac yn y llyfr hwn rhoddir arweiniad gwerthfawr ynghylch sut mae hyn i ddigwydd.
Mae Diarhebion weithiau’n portreadu ‘doethineb’ fel gwraig. Cyfrifir ‘doethineb’ yn fenywaidd yn y llyfr hwn, felly, er mai gwrywaidd ydyw fel arfer.