Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 9

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 9

Diarhebion 9:1-18

‘I CHWI GAEL BYW’

Dyma’r bennod olaf cyn y casgliad helaeth o ddiarhebion unigol sy’n dechrau yn 10:1, ac ynddi manteisia Solomon ar y cyfle i grynhoi a chadarnhau’r egwyddorion cyffredinol a gafwyd yn y penodau blaenorol.

Gwahoddiad  

Cychwynna drwy gyflwyno ‘doethineb’ unwaith eto fel person. Mae ‘saith golofn’ yn ei thŷ (1). Yn y Beibl rhif sy’n cynrychioli perffeithrwydd yw saith: mae ‘tŷ doethineb’, felly, yn sefyll yn gyfan ac yn gadarn, fel hwnnw a ddisgrifir ym Mathew 7:24-25. Prif neges rhan gyntaf y bennod hon, fodd bynnag, yw fod doethineb yn estyn gwahoddiad i’r ‘rhai disynnwyr’ (4) i ddod ati tra bo cyfle. Nid oes angen gwahodd y doeth: mae’r rheini eisoes yn gwybod gwir werth doethineb. Ond gwelir gras Duw yn llachar iawn yma yn y modd yr estynnir croeso i’r rhai anghenus. Ac ni ellir ond meddwl eto am yr un math o wahoddiad gan Iesu Grist ei hun (e.e. Math. 11:28-30; Ioan 6:35; 7:37), ac am ddameg rymus y wledd fawr (Luc 14:15-24).

Gwatwarwr

Rhoddir y gwahoddiad i’r ‘gwirion’ a’r ‘disynnwyr’ (4), ond fe’n rhybuddir rhag disgwyl ymateb cadarnhaol gan y ‘gwatwarwr’ (7-8). Os gwrthod a gwawdio a wna rhywun, ‘ysgydwch y llwch oddi ar eich traed’ (Math. 10:14; Act. 13:50-51). Crist ei hun sy’n ein rhybuddio rhag taflu ‘perlau o flaen y moch’ (Math. 7:6). Ar y llaw arall, bydd y ‘doeth’ – sef y sawl sy’n cydnabod ei ffolineb cynhenid ynghyd â’i angen am gyfarwyddyd – yn gwerthfawrogi hyd yn oed gerydd, ac yn elwa arno (8-9). Dyma un agwedd ar yr egwyddor a gyhoedda Crist ym Mathew 13:12.

Godineb

Ceir gwahoddiad o fath arall yn adnodau 13-18. Gwahoddiad i fywyd sydd gan ‘ddoethineb’ (6), ond gwahoddiad i farw sydd gan y wraig a ddisgrifir yma (18). Mae hi’n denu ei chwsmeriaid drwy addewid hudolus: ‘Y mae dŵr lladrad yn felys …’ (17). Ond mae mynd yn groes i orchmynion da Duw sanctaidd bob amser yn arwain at wae a gofid. ‘“Pam y byddwch farw, … ? Nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth neb,” medd yr Arglwydd Dduw; “edifarhewch, a byddwch fyw”’ (Esec. 18:31-32).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF