Diarhebion 8:1-36
‘FI, DOETHINEB’
Dyma un o benodau mwyaf trawiadol yr Hen Destament. Ynddi caiff doethineb ei phortreadu fel gwraig sy’n galw’n daer ar bobl i wrando arni. Wrth fyfyrio uwchben y darn hwn, ni allwn ond rhyfeddu at harddwch a gwerth gwir ddoethineb.
Cri
Yn adnodau 1-3 ceir darlun o ddoethineb yn llefain yn uchel. Pam y gri ingol hon? Oherwydd mai ‘rhai gwirion’ a ‘ffyliaid’ yw pobl wrth natur (5). Crëwyd yr hil ddynol yn dda (Gen. 1:26-27, 31), ond oherwydd anufudd-dod Adda daeth tro ar fyd. O ganlyniad, gwell gan bobl bethau materol – arian, aur, gemau – na gwerthoedd ysbrydol (10-11), a rhaid galw arnynt i newid eu ffyrdd ar fyrder.
Casáu
Mae elfen foesol mewn gwir ddoethineb (1:3). ‘Ofn yr Arglwydd’ yw nid yn unig ‘casáu drygioni’ (13) ond hefyd dechreuad gwybodaeth a doethineb (1:7); mae’n dilyn, felly, fod doethineb yn golygu ymwrthod â phob drwg. Mae rhai o athronwyr adnabyddus y cyfnod modern wedi bod yn bobl anfoesol; ond nid felly y rhai sy’n ddoeth yng ngolwg Duw. Gweler Salm 97:10.
Cyngor
Honna doethineb mai ‘Fy eiddo i yw cyngor’ (14); o’i dilyn hi ar hyd ‘ffordd cyfiawnder’, felly, daw arweiniad sicr a bendith helaeth (20-21). Cadarnheir yma egwyddor 3:5-8. Ymbalfalu yn y tywyllwch a wnawn wrth ddilyn ein ‘goleuni’ ein hunain. Os am gyngor buddiol, rhaid mynd at yr Un sy’n gweld ac yn deall y cyfan.
Crist
Anodd darllen y bennod hon, ac yn enwedig adnodau 22-36, heb weld yma ddarlun rhyfeddol o Iesu Grist. Roedd y Mab gyda’r Tad ‘yn y dechrau, cyn bod daear’ (22-26; Ioan 1:1-2), ac yna yn y creu ei hun (27-29; Ioan 1:3). Mae perthynas hyfryd, agos, rhwng y Tad a’r Mab, a rhwng y Mab a’i bobl (30-31; Ioan 17:23, 26). Yn Iesu Grist yn unig y mae gwir ddedwyddwch (32-34; Ioan 15:11; 17:13) a bywyd (35; Ioan 10:10; 17:3); barn sy’n aros y sawl sy’n ei wrthod (36; Ioan 3:18-19). Dim rhyfedd, felly, iddo alw’n daer ar bobl i wrando arno a throi ato tra bo cyfle (1-6, 32-36).