Diarhebion 7:1-27
‘FEL YCH YN MYND I’R LLADD-DY’
Fe’n rhybuddiwyd eisoes rhag ildio i demtasiynau rhywiol (2:16-19; 5:3-14; 6:24-35). Gŵyr Solomon mor hawdd yw inni gael ein denu ganddynt, ac mewn oes sydd wedi troi rhyw’n obsesiwn, mae gwir angen inni gymryd ei rybuddion o ddifrif.
Rhybudd 1
Gall cwmni cyfeillion annuwiol fod yn fagl (7; cymharer 1:10-19). Rhaid cydnabod mai dyma un o ffynonellau amlwg temtasiwn. O ddewis rhai ‘gwirion’ yn ffrindiau, ni ellir disgwyl ond helynt. Cyferbynner Salm 1:1.
Rhybudd 2
Ymhlith y ‘rhai ifainc gwirion’ wele ‘un disynnwyr’ (7). Yn lle defnyddio’r meddwl i garu Duw (Math. 22:37), mae pobl yn ymroi i’w nwydau heb ystyried a yw eu hymddygiad yn dderbyniol gan Dduw, a heb roi sylw i’r canlyniadau. Caiff y meddwl ei osod naill ochr; yr unig beth sy’n cyfrif yw pleser y corff dros dro.
Rhybudd 3
Gall temtasiwn ddod gydag arlliw o grefydd ynghlwm wrtho er mwyn iddo ymddangos yn fwy derbyniol. Mae’r butain yn datgan fod heddoffrwm ganddi i’w fwyta, a’i bod wedi talu ei haddunedau crefyddol (14). Ni all y fath un fod yn ddrwg, felly! Ond cofiwn eiriau Iesu ym Mathew 7:15-20.
Rhybudd 4
Nid pleser corfforol sydd i lywio ein bywyd. Mae’r pleser sy’n cael ei addo yn adnod 18 mewn gwirionedd yn golygu gwneud cam difrifol â gŵr y wraig (19), heb sôn am gam â Duw. Mae lle priodol i bleser corfforol o fewn cwlwm priodas, ond mae rhywbeth trist am y rhai sy’n tybio mai dyma nod mawr eu bywyd.
Rhybudd 5
Mae canlyniadau i bob pechod. Awgryma adnodau 22-23 y gall fod canlyniadau corfforol – ac yn oes AIDS a chlefydau gwenerol gwyddom am realiti hyn i gyd. Pwysleisir difrifoldeb y canlyniadau yn adnodau 26-27. Er iddo edrych ymlaen at ymgolli mewn pleser, y gwir yw fod y dyn ifanc ‘fel ych yn mynd i’r lladd-dy’ (22).