Diarhebion 6:20-35
‘Y MAE GORCHYMYN YN LLUSERN’
Patrwm amlwg Solomon wrth gyfarch ei ‘fab’ yw mynegi egwyddorion cyffredinol – e.e. pwysigrwydd gwrando ar y ‘tad’ a dilyn ei gyngor – cyn troi at faes neu feysydd penodol lle mae’r cyngor hwn o werth arbennig. Dyma’r drefn eto yn y darn hwn.
Goleuni
Mae’r mab i gadw gorchymyn ei dad – a chyfarwyddyd ei fam hefyd (20) – oherwydd wrth i rieni duwiol geisio magu a dysgu eu plant ‘y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni’ (23). Yn hyn o beth mae’r rhieni’n cynrychioli Duw ei hun. ‘Goleuni yw Duw’ (1 Ioan 1:5), a ‘goleuni’r byd’ yw Iesu Grist (Ioan 8:12). O fod mewn perthynas iawn â Duw, felly, bydd ei Air yn oleuni inni ar ein taith drwy’r byd, gan wasgaru’r tywyllwch ac agor y llwybr o’n blaen (Salm 119:105). ‘Plant y goleuni’ yw un o ddisgrifiadau’r Beibl o Gristnogion (Ioan 12:36; Eff. 5:8). Mae’r Cristion wedi ei waredu oddi wrth dywyllwch ei bechod gynt; cerdded yn y goleuni a ddaw drwy Air ei Dad nefol yw ei ddymuniad yn awr.
Godineb
Gwaetha’r modd, mae llaweroedd mor gaeth i’w tywyllwch fel na sylweddolant mai tywyllwch ydyw. Mae Iesu Grist yn mynd ymhellach: ‘y mae pob un sy’n gwneud drwg yn casáu’r goleuni’, am fod y goleuni hwnnw’n dangos ac yn condemnio eu drygioni (Ioan 3:20).
Gwelir hyn yn amlwg yn achos materion rhywiol. Duw a greodd berthynas rywiol, yn beth hyfryd ac anrhydeddus (Gen. 2:23-25; Heb. 13:4); ond yn eu tywyllwch pechadurus mae pobl wedi mynnu camddefnyddio’r rhodd ddaionus hon. Yn adnodau 24-35, felly, cyhoedda Solomon rybudd arall rhag godineb. Dyma neges gyson yn y llyfr (e.e. 2:16-19; 5:3-14; 7:6-27), am fod tuedd i bob oes a phob cymdeithas lygru perthynas rywiol. Pwysleisia Solomon fod anufuddhau i orchymyn Duw nid yn unig yn ddrwg ynddo’i hun ond hefyd yn sicr o ddwyn canlyniadau trist (cymharer 1 Cor. 6:9-10). O gael ei ddwyn i’r goleuni yng Nghrist, felly, rhaid i’r Cristion ymwrthod â phob temtasiwn i fynd yn ôl i’r tywyllwch. Gorchymyn Duw, nid ysbryd yr oes, sydd i lywio ei agwedd a’i ymddygiad ym mhob dim.