Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 6:1-19

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 6

Diarhebion 6:1-19

RHYBUDDION

Mechnïo

Rhybudd rhag cytuno i fynd yn gyfrifol am ddyledion rhywun arall sydd yn adnodau 1-5. Os bydd y person hwnnw’n methu â thalu ei ddyledion, syrthia’r baich ar y sawl sydd wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol amdanynt. Gofid fydd y canlyniad, oherwydd y colledion ariannol ond hefyd oherwydd ei fod ‘yn llaw’ y dyledwr (3), h.y. wedi ei glymu wrtho ac felly mewn caethiwed iddo. Nid yw’r rhybudd hwn yn gwahardd helpu rhai mewn angen (e.e., 3:27-28; Gal. 6:10; dameg y Samariad trugarog yn Luc 10:30-37). Ond mae Solomon am inni fod yn gall: nid doeth ymrwymo ffwrdd-â-hi, heb gyfrif y gost ymlaen llaw.

Ni allwn ond cofio i Iesu Grist gael ei alw’n ‘Feichiau’ y cyfamod newydd rhwng Duw a’i bobl (Heb. 7:22). Dyma Un a aeth yn llwyr gyfrifol am ‘ddyled’ ei bobl, gan ei thalu hyd yr eithaf er dirfawr gost iddo’i hun. A dyfynnu David Charles:

Dros droseddwyr fel myfi,
Rhoes ei Hun ar Galfari –
Trwy gyfiawnder fy Meichiau caf fyw.  

Morgrugyn

Rhybudd o fath gwahanol – ac esiampl hefyd – a geir yn adnodau 6-11. Y ddynoliaeth yw uchafbwynt creadigaeth Duw (Gen. 1:26-28); ond oherwydd effaith pechod ar bobl gall hyd yn oed y creaduriaid lleiaf ddysgu gwersi pwysig iddynt. Diogi a’i ganlyniadau trist sydd dan sylw yma (cymharer, e.e., 24:30-34). O’i gyferbynnu â’r diogyn, mae’r morgrugyn bach yn ddiwyd, yn ddygn, ac yn gyfrifol, gan ddeall yr angen i wneud paratoadau ymlaen llaw. ‘Sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth’ (6).

Malais

Seinir rhybudd eto yn yr adran olaf (12-19). Effeithia pechod ar bawb yn ddiwahân, ond ceir rhai sy’n ymhyfrydu mewn malais a drygioni (12-14). Doeth yw cadw draw oddi wrth bobl felly. Ond ar yr un pryd cofiwn fod Duw yn eu gwrthwynebu, a bod barn yn eu disgwyl (15). Rhestrir agweddau ar falais dynol yn adnodau 16-19. Yn y byd sydd ohoni caiff y rhain eu goddef a’u hesgusodi’n aml. Yng ngolwg Duw, fodd bynnag, maent yn ‘gas’ ac yn ‘ffiaidd’ (16). A golwg Duw sy’n cyfrif.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF