Diarhebion 5:1-23
‘YF DDŴR O’TH BYDEW DY HUN’
Mae cyngor y bennod hon o werth oesol. Yn wir, gyda’r holl sylw a roddir i ryw a rhywioldeb heddiw, gellid dadlau fod mwy o angen neges y bennod nag erioed.
‘Gwraig ddieithr’
Fe’n rhybuddiwyd rhag y ‘wraig ddieithr’ eisoes (2:16-19). Gwelwn yma eto pa mor ddeniadol y gall hi fod, a pha mor atyniadol yw ei gwahoddiad (3). Ni fedr neb amau grym yr apêl yma. Wedi’r cyfan, dyna pam y defnyddia hysbysebwyr ddelweddau rhywiol i werthu eu nwyddau. Dyna pam mae cymaint o fri ar gylchgronau, dramâu, a ffilmiau sy’n cynnwys elfennau rhywiol (yn enw celfyddyd, wrth gwrs). A dyna pam y mae cynifer o blant yn cael eu geni tu allan i briodas, a chynifer o briodasau’n chwalu, gyda’r llanastr personol a chymdeithasol sy’n dilyn.
Y niwed difrifol a ddaw o wfftio’r drefn ddwyfol yw neges Solomon (a Duw) yma. Er mor ddeniadol yw’r ‘wraig ddieithr’ ar y cychwyn, rhaid ystyried ‘y diwedd’ (4). Manylir yn drawiadol ar y canlyniadau gofidus yn adnodau 4-14. Ni ellir cael rhybudd mwy plaen, felly: ‘Cadw draw oddi wrth ei ffordd’ (8).
‘Gwraig dy ieuenctid’
Yn lle cael ein hudo gan y ‘wraig ddieithr’, dylid gwneud yn fawr o drefn Duw. Os ydym yn briod, manteisiwn ar bob cyfle i ymhyfrydu yn ein gŵr/gwraig (15-19). Duw ei hun sydd wedi creu’r greddfau rhywiol, er mwyn iddynt roi llawenydd a boddhad o fewn cwlwm priodas (18-19; gweler hefyd Ganiad Solomon ar ei hyd, yn enwedig 2:16-17; 4:1-16; 5:9-16). Byddai’r ‘wraig ddieithr’ yn colli ei hapêl petai gŵr yn benderfynol o gael mwy o hyfrydwch yn ei wraig briod. Esgeuluso gwraig, neu beidio â’i gwerthfawrogi a’i hanrhydeddu, sy’n agor y drws i demtasiynau rhywiol.
Os nad ydym yn briod, mae gennym gyfrifoldeb er hynny i fod yn bur mewn ystyr rhywiol (Gal. 5:19, 21). Beth bynnag fo agwedd ac ymddygiad pobl eraill, gwyddom fod Duw ‘yn gwylio ffyrdd pob un’ (21; Salm 139:1-5). Ni allwn ond bod ar ein colled o wrthod ei drefn ef (22-23). Dymuniad y Cristion, yn hytrach, yw ei anrhydeddu ym mhob rhan o’n bywyd.