Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 4:20-27

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 4

Diarhebion 4:20-27

‘CADW HWY YN DY FEDDWL’

Unwaith eto caiff y ‘mab’ ei annog i wrando’n ofalus ar gyngor iachus y ‘tad’ (20-22). Mae’r anogaethau hyn yn ein hatgoffa fod rhywbeth ynom sy’n mynnu gwrthod, anwybyddu, neu anghofio doethineb Duw. O wneud hynny, nyni sydd ar ein colled (22). Daliwn sylw cyson ar eiriau Solomon, felly. Beth bynnag fo agwedd y byd, ffordd Duw sydd bob amser yn iawn – ac er lles inni (Deut. 32:47).

Calon

Mae Solomon yn cydnabod y lle allweddol sydd i’r galon (23; mae ‘calon’ yn well cyfieithiad na ‘meddwl’ yma ac yn adnod 21). Yn yr Hen Destament, nid y rhan emosiynol ohonom yn unig yw’r galon ond y person ei hun, yr hyn sy’n ein gwneud yr hyn ydym. Gwaetha’r modd, nid peth niwtral mo’r galon. Mae drygioni a thwyll yn nythu yno (Jer. 17:9). Yn wir, yn ôl Crist hi yw ffynhonnell pob math o lygredd (Marc 7:20-23). Gwyliwn y galon, felly (23). Ond cofiwn hefyd y medr Duw roi calon newydd – ‘calon lân, yn llawn daioni’ – i ni (Esec. 36:25-28).

Genau

Yn aml iawn ein geiriau sy’n datgelu’r hyn sydd yn ein calonnau. Yn adnod 24, felly, mae Solomon yn trafod y genau a’r gwefusau. Rhaid ymwrthod â ‘geiriau twyllodrus’ a gwylio rhag siarad dichellgar. Dyma hanfod gorchymyn Exodus 20:16, a cheir trafodaeth bwysig ar y mater yn Iago 3:2-12.

Llygaid

Ond gall y llygaid hefyd fod yn achos codwm inni. Drwy’r llygaid yn aml y daw temtasiwn (Gen. 3:6; 2 Sam. 11:2; Job 31:1; 1 Ioan 2:16). Gŵyr Solomon hyn i’r dim. Ac yn oes y teledu a’r ffilm a’r rhyngrwyd, mae ei gyngor yn adnod 25 yn fwy pwysig a pherthnasol nag erioed.

Traed

Ffrwyth cyflwr y galon, ynghyd â thueddiadau’r genau a’r llygaid, yw cyfeiriad ein traed, h.y. ein hymddygiad ymarferol (26-27). Dyna pam mae’r Beibl yn sôn yn aml am ein bywyd yn nhermau ‘ffordd’ a ‘llwybr’. Yn lle ‘dilyn cyngor y drygionus’, felly, rhaid troedio ‘ffordd y cyfiawn’ (Salm 1:1, 6).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF