Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 4:10-19

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 4

Diarhebion 4:10-19

‘GOLAU’R WAWR … TYWYLLWCH DUDEW’

‘Golau’r wawr’

Cyflwynir dwy ffordd, neu ddau lwybr, yn y darn hwn. Rhown sylw yn gyntaf i ‘ffordd doethineb’ a’r ‘llwybrau union’ (11). Diddorol nodi fod ‘uniondeb’ yn cyd-fynd â gwir ddoethineb: nid doeth y person hwnnw – pa mor ddisglair bynnag o ran ei allu academaidd – sy’n gaeth i annuwioldeb ac anghyfiawnder. Ond nid llai diddorol yw sylwi nad bywyd diflas mo fywyd y Cristion; yn wir, mae’n profi gwir ryddid (12). ‘Ffordd doethineb’ a ‘llwybrau union’ sy’n cwrdd â’i anghenion dyfnaf, gan roi ystyr, pwrpas, a gwerth i’w fywyd. O rodio’r ffordd hon, daw i brofi bywyd yn ei holl gyflawnder (13; Ioan 10:9-10; 14:6). Er gwaethaf holl helyntion y byd hwn, goleuni, nid tywyllwch, sy’n nodweddu llwybr y Cristion (18). Dyna sydd i’w ddisgwyl, wrth gwrs, o gofio mai Crist ei hun yw goleuni’r byd (Ioan 8:12) a bod ei Air ef yn gwasgaru’r tywyllwch (6:23; Salm 119:105, 130). Braint y Cristion, felly, yw byw fel un o blant goleuni (Eff. 5:8), gan rodio’r ffordd sy’n arwain yn sicr i fywyd (Math. 7:14)

‘Tywyllwch dudew’

Mor wahanol yw llwybr yr annuwiol. Er iddynt frolio eu bod yn ‘oleuedig’ ac yn ‘rhydd’, mewn gwirionedd maent yn gaeth i’r tywyllwch ac yn siŵr o faglu (19). Does dim rhyfedd, felly, fod rhybudd difrifol yma rhag dilyn y llwybr hwnnw (14-17). Pwy yn ei iawn bwyll a fyddai’n dewis rhodio yn y tywyllwch ar draul rhodio yn y goleuni, yn enwedig o gofio pen draw ffordd y tywyllwch (Math. 7:13)? Y gwir amdani, fodd bynnag, yw bod rhywbeth yn y natur ddynol sy’n mynnu gwneud yr union ddewis hwnnw, fel yr eglura Crist yn Ioan 3:19-20. Rhodio yn y tywyllwch yw canlyniad anochel natur bechadurus. Ac ni cheir gwared â’r tywyllwch hwnnw ond drwy droi oddi wrth y ffordd honno a dod at yr Un sy’n oleuni’r byd. Dim ond yn ei oleuni ef y sylweddolwn hyd a lled – ie, a pherygl – ein tywyllwch ni a’r tywyllwch o’n hamgylch. A dim ond yn ei oleuni ef y cawn oleuni i’n harwain ar ein taith drwy’r byd hwn (Salm 36:9).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF