Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 4:1-9

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 4

Diarhebion 4:1-9

‘YN FAB I’M TAD’

Mae Solomon yma’n rhoi inni gipolwg ar ei hanes personol. Nid casgliad o egwyddorion a chynghorion moel sydd yn y llyfr hwn, ond ffrwyth myfyrdod Solomon ar ei brofiad ei hun yn ei ymwneud â Duw a phobl eraill.

Profiad plentyn

Daeth yn amlwg eisoes fod gan Solomon gonsýrn diffuant dros ei blentyn, neu o bosibl dros ei ddisgybl. I gyfleu’r consýrn hwn, mae’n adrodd peth o’i brofiad personol fel plentyn. Yn adnod 3 cawn ddarlun hyfryd o fywyd cariadus yr aelwyd. Mynegir y cariad hwn nid yn unig gan y fam ond hefyd yn benodol gan y tad wrth iddo ofalu am fagwraeth eu mab – yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, yn gymdeithasol, ac yn ysbrydol. Gwelwn yn nes ymlaen enghreifftiau lle mae ffolineb plentyn yn chwalu dedwyddwch y cartref (e.e. 10:1; 17:25; 19:13; 29:15). Yma, ar y llaw arall, dangosir pa mor werthfawr yw parodrwydd y tad i hyfforddi’r plentyn a pharodrwydd y plentyn i wrando. Am iddo wrando pan oedd yn blentyn, mae’r mab yntau bellach mewn ffordd i roi addysg i’w blant ei hun (1-2). Mae’r Beibl yn rhoi cryn bwyslais ar gyfrifoldeb rhieni i addysgu eu plant (e.e. Gen. 18:19; Deut. 4:9; 6:7; 11:19; 32:46; Salm 78:4-6), a hefyd ar gyfrifoldeb plant i dderbyn yr addysg hon yn ostyngedig ac yn frwd – ac wedyn i’w throsglwyddo. Nid rhywbeth i’w adael i’r ysgol seciwlar yn unig yw addysg go iawn.

Pennaf peth

‘Doethineb yw’r pennaf peth,’ medd adnod 7. Mae lle priodol i ddysgu am bob math o bethau, ond ar yr un pryd rhaid cael ein blaenoriaethau’n gywir. Mae ceisio gwir ddoethineb – y ddoethineb honno sy’n seiliedig ar berthynas iawn â Duw (3:5-8; 9:10) – yn rhagori ar hel gwybodaeth yn unig. Drwyddi hi y daw bywyd (4), diogelwch (6), ac anrhydedd (8-9). Does dim rhaid wrth feddwl disglair na gradd brifysgol i feddu’r ddoethineb hon. Yn hytrach, fe’i cawn wrth inni ymwrthod â’n syniadau ein hunain, plygu’n ostyngedig o flaen y Duw hollwybodol, a rhodio’n ufudd ger ei fron yng ngoleuni ei Air. Gweler 1 Corinthiaid 1:25-31.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF