Diarhebion 3:21-35
‘PAID …’
‘Paid â’u gollwng’
Cawsom ein herio eisoes ynghylch cefnu ar gyngor doeth y llyfr hwn (3:1, 3), a daw’r un rhybudd eto yma (21). Mae Solomon yn gwybod i’r dim fod rhywbeth ynom sy’n gweld yr hyn sy’n iawn ond sy’n ysu am gael mynd i’r cyfeiriad arall. (Am brofiad tebyg Paul, gweler Rhuf. 7:18-25.) Oherwydd y duedd groes – h.y. pechadurus – hon sydd ynom i gyd, rhaid ymdrechu hyd yr eithaf i gadw ein gafael ar wersi Gair Duw. Dim ond wrth beidio â gollwng y rhain y cawn wir ddedwyddwch (21-24).
‘Paid ag ofni’
Mae tuedd arall ynom hefyd, sef ofni, ond yng nghanol pob perygl mae gallu a gras Duw yn gysur i’r credadun (25-26). Mae’n naturiol i’r rhai annuwiol ofni, am nad oes ganddynt neb i’w cynorthwyo; ond ‘bydd yr Arglwydd yn hyder’ i’r Cristion (26), ac felly gall wynebu sefyllfaoedd anodd yn dawel a thangnefeddus. Gweler Salm 91.
‘Paid â gwrthod cymwynas’
Yn adnodau 27-28 mae Solomon yn newid cywair. Mae pobl Dduw i ddangos tosturi ymarferol wrth y rhai sydd mewn angen. Yn wir, dylent ymateb yn syth: rhagrith yw gohirio rhoi cymorth pan fedrwn wneud hynny ar unwaith (28). Hanfod Cristnogaeth yw perthynas â Duw, drwy ffydd yn Iesu Grist. Ond mae gwir berthynas â Duw yn golygu hefyd berthynas newydd, gariadus, gymwynasgar â phobl eraill.
‘Paid â chynllunio drwg … Paid â chweryla’n ddiachos’
Mae’r berthynas newydd hon i fod i effeithio ar ein meddyliau, ein geiriau, a’n hagweddau’n gyffredinol (29-30). Byddwn yn dymuno bod yn dangnefeddwyr (Math. 5:9), gan wneud ein gorau i beidio â thynnu’n groes (Rhuf. 12:18-21).
‘Paid â chenfigennu’
A phan welwn y rhai drygionus fel petaent yn llwyddo, byddwn yn teimlo drostynt yn hytrach na chenfigennu wrthynt (31-35). Yn ôl safonau’r byd maen nhw’n ffynnu yn eu hannuwioldeb; ond yng ngolwg Duw y gwrthwyneb sy’n wir (gweler Salm 73:3, 17). Yn y pen draw, barn Duw – ym mhob ystyr – ac nid barn dyn sy’n cyfrif.