Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 3:11-20

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 3

Diarhebion 3:11-20

‘GWYN EI FYD Y SAWL A GAFODD DDOETHINEB’

Cerydd

Cyfeiriwyd droeon at y modd y daw doethineb â lles a llewyrch (e.e. 1:9, 33; 2:21; 3:2, 4, 10), ond nid yw hyn bob amser yn amlwg. Yn wir, gall pobl dduwiol ddioddef mwy o salwch a siom, gofid a galar, na phechaduriaid ysgeler. Cawn yr ateb i’r ‘gwrthddweud’ hwn yn adnodau 11-12: yn ei ddoethineb a’i gariad mae Duw yn gweld yn dda i ‘geryddu’ ei blant. Ni wna hynny mewn modd maleisus: sicrhau ein lles yw ei fwriad. Fel y mae tad yn gweld rhywbeth annymunol yn ei blentyn annwyl, ac yn ei geryddu er mwyn symud y peth hwnnw er lles y plentyn ei hun, felly y mae Duw yn trin ei blant yntau (12). Er nad yw cerydd yn bleserus i’r tad nac i’r plentyn, mae plentyn Duw ar ei ennill o’i herwydd (Salm 119:67, 71, 75; 2 Cor. 12:7-10). Peth annaturiol ac afiach fyddai dyheu am gerydd; ond pan ddaw – fel mae’n siŵr o ddod – ni ddylem synnu na digalonni. Yr ymateb cywir, yn hytrach, yw ei dderbyn yn weithred gan y Duw sy’n ein caru ac yn dymuno ein lles. Gweler Hebreaid 12:5-13.

Cyfoeth

Mae deall diben cerydd Duw yn rhan bwysig o ddoethineb go iawn. Ac mae’r ddoethineb hon yn fwy gwerthfawr na holl gyfoeth y byd (13-18). Nid yw cyfoeth fel y cyfryw yn cael ei ddibrisio (gweler 3:9-10); ond mae doethineb yn anhraethol bwysicach. Ni fedr cyfoeth ynddo’i hun roi hyfrydwch na heddwch, ond gellir eu profi a’u mwynhau drwy gyfrwng doethineb (17). Felly hefyd gyda’r ‘pren bywyd’, sy’n symbol o ddedwyddwch, cadernid, ffrwythlondeb, a defnyddioldeb (18; Dat. 22:1-2). A rhan allweddol o’r ddoethineb gyfoethog hon yw medru ymateb yn gadarnhaol i helyntion a helbulon bywyd.

Creadigaeth

Beth – neu pwy – sydd wrth wraidd y ddoethineb hon? Duw ei hun (19-20). Caiff doethineb Duw ei hamlygu’n ogoneddus yn y greadigaeth, yn destun rhyfeddod i bob un sydd â llygaid i weld (cymharer Salm 19:1; Rhuf. 1:19-20). Wrth geisio doethineb, felly, rhaid ceisio Duw; ac wrth geisio Duw, fe gawn wir ddoethineb.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF