Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 3:1-10

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 3

Diarhebion 3:1-10

‘CYDNABYDDA EF YN DY HOLL FFYRDD …’

Adran fer yw hon, ond mae hi’n llawn cyngor perthnasol. Yn wir, yn adnodau 5-8 ceir crynodeb gwerthfawr o neges y llyfr cyfan. Dyma adran i fyfyrio ynddi’n ofalus os ydym am ddeall hanfod gwir ddoethineb.

Cofio

Y wers gyntaf sydd yma yw pwysigrwydd cofio cyngor doeth a buddiol (1-4). ‘Paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd’ yw’r rhybudd; yn fwy cadarnhaol, ‘cadw fy ngorchmynion yn dy gof’ (1). Er enghraifft, rhaid cofio glynu wrth egwyddorion sylfaenol teyrngarwch (neu gariad diysgog) a ffyddlondeb (3); yn wir, dylid ymdrechu i sicrhau eu bod yn rhan ganolog o’n bywyd bob dydd. Nid digon rhoi ychydig o sylw iddynt dros dro: rhaid eu cadw’n fyw yn y cof er mwyn eu gweithredu yng nghanol temtasiynau neu ergydion bywyd. O’u cofio felly, gan afael yn dyn ynddynt ym mhob amgylchiad, ceir gwir fodlonrwydd mewn bywyd (2, 4). Am gyngor tebyg, gweler Deuteronomium. 6:1-15.

Ymddiried

Yn adnodau 5-8 ceir calon y cyngor y mae’n rhaid ei gofio. Y cymal cyntaf yw’r allwedd i’r cyfan: ‘Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd.’ Ymddiried yn ein deall ein hunain, bod yn ddoeth yn ein golwg ein hunain (5, 7) – dyna’r perygl mawr. Gwendid a methiant – a phechod – sy’n ein nodweddu ni. Dim ond wrth inni ymddiried yn Nuw a’i wasanaethu mewn parchedig ofn (7), gan gydnabod ei awdurdod a’i hawliau a’i sofraniaeth drosom, y cawn gyfeiriad ac ystyr i’n bywyd (6), ynghyd â llawenydd, dedwyddwch, a bodlonrwydd (8). Dyma gyfrinach byw yn y byd. Peidiwn â chael ein twyllo gan ‘holl ddeniadau cnawd a byd’, chwedl Pantycelyn: yn Nuw yn unig y mae’r allwedd i fywyd go iawn. Gweler Salm 37:1-7.

Anrhydeddu

I lawer un, wrth gwrs, cyfoeth – gwneud arian, gwario arian – yw’r allwedd honno. Yn ôl Iesu Grist, fodd bynnag, ffolineb yw hyn (Marc 8:36). Mae ‘cydnabod’ Duw yn ein holl ffyrdd (6) yn cynnwys ei ‘anrhydeddu’ â’n cyfoeth (9-10), sef diolch iddo am bob bendith a chyflwyno i’w wasanaeth ran hael o’r arian y mae ef wedi ei roi i ni. Nid arian sydd i fod yng nghanol bywyd y Cristion, ond Duw.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF