Diarhebion 2:1-22
‘YR ARGLWYDD SY’N RHOI DOETHINEB’
Yn rhan gyntaf y llyfr ceir nifer o isadrannau’n dechrau gyda’r geiriau ‘Fy mab …’. Bwriad y rhain yw gosod sylfeini sicr a diogel cyn symud at y cynghorion mwy penodol yng nghorff y llyfr. Cafwyd yr isadrannau cychwynnol yn 1:8-9 ac yn 1:10-19, a dyma un arall sy’n cynnwys pennod 2 i gyd. Y tebyg yw mai cyngor tad i’w blentyn, neu athro i’w ddisgybl o bosibl, yw’r patrwm a ddilynir yma.
Ceisio
Bod o ddifrif wrth geisio doethineb yw pwyslais adnodau 1-4. Ni ddaw’r rhai difater a di-hid byth o hyd iddi. Am fod doethineb mor werthfawr (4), rhaid ei cheisio o ddifrif – a dal ati nes cael gafael arni. Dymuna llawer un dderbyn doethineb a bendithion ysbrydol eraill, ond anghofiant egwyddor 1 Corinthiaid 9:24-27.
Cyflwyno
Er bod cyfrifoldeb i geisio doethineb o ddifrif, Duw yn unig sy’n medru ei chyflwyno (6). Gydag ef y mae gwir ddoethineb (6-7), ac ef sy’n ei rhoi yn ôl ei ewyllys da. Ffolineb, felly, yw ceisio doethineb yn unman arall: mae’r atebion i gwestiynau sylfaenol bywyd i’w cael yn Nuw yn unig (9). Gweler Iago 1:5.
Canlyniad
Mae derbyn doethineb gan Dduw yn rhoi boddhad a diogelwch inni (7-8). Mae’n peri hyfrydwch (10), ac yn sicrhau diogelwch wrth inni fyw yn y byd (11). Caiff y rhai sy’n ei cheisio a’i chael brofi bywyd ar ei orau (20-21) – y ‘bywyd yn ei holl gyflawnder’ y sonia Iesu amdano (Ioan 10:10). Ond mae gwerth negyddol i’r ddoethineb hon hefyd: mae hi’n ein cadw rhag dilyn ffordd y byd o feddwl ac ymddwyn (12-15). Temtasiwn mawr bob amser yw mynd gyda’r dorf, er bod y dorf honno’n ‘gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch’ (13). Mae doethineb hefyd yn dangos perygl ‘y wraig ddieithr’ – un sy’n cynnig cyffro rhywiol dros dro ond yn peri marwolaeth ysbrydol a moesol yn y pen draw (16-19). Gall ‘pleser mewn gwneud drwg’ (14) ymddangos yn ddeniadol ar y pryd, ond rhaid ystyried ei ddiwedd alaethus (22). Dim ond doethineb Duw sy’n medru ein cadw ar y llwybr iawn (8-12).