Diarhebion 1:8-33
‘OS NEWIDIWCH EICH FFYRDD DAN FY NGHERYDD…’
Yn adnod 7 cyflwynwyd dwy ffordd neu ddwy agwedd sy’n llywio bywyd pawb. ‘Ofn yr Arglwydd’, sef gwreiddyn gwir ddoethineb, yw’r naill; ffordd ‘ffyliaid’, sy’n anwybyddu Duw a’r ddoethineb a geir ynddo ef, yw’r llall. Yng ngweddill y bennod gwelwn oblygiadau’r ddwy ffordd hon yn dechrau dod i’r amlwg.
Denu a dirnad
Mae grym anghyffredin yn y temtasiwn yn adnodau 10-14, yn enwedig i bobl ifainc. Cynigir modd i gael gafael ar bopeth dymunol a deniadol yn sydyn, heb gostio dim (13). Ar ben hynny, mae ‘perthyn i’r criw’ yn golygu cael eich derbyn ganddynt ac yn cynnig statws yn eu plith (11, 14). Dim ond drwy ddirnad yn ofalus y gwelir perygl y ffordd honno. ‘Drwg’ sydd yn ei chanol (16). Mae unrhyw fantais a ddaw drwyddi i ni ar draul colled ddirfawr i rywun arall (11-12). Dinistr yw ei diwedd (18-19; Math. 7:13). Pe sylwai aderyn ar rywun yn paratoi rhwyd i’w ddal, byddai’n siŵr o gadw draw (17). Yn yr un modd rhaid dirnad hanfod a diwedd unrhyw beth sy’n ein denu – a bod yn barod i wrando’n astud ar rybuddion rhai sy’n ddoethach na ni (8-9).
Gwahodd a gwrthod
Ni ddymuna Duw inni aros mewn ffolineb. Yn adnodau 20-33 caiff doethineb ei phortreadu fel gwraig sy’n galw ar bobl i ddod ati er eu lles eu hunain (gweler pennod 8 am ddarlun tebyg). Mae’r gwahoddiad yn un cyffredinol a chyhoeddus (20-21): mae croeso i bawb ddod ati. Dengys adnodau 24-25, fodd bynnag, mai gwell gan lawer barhau yn eu ffolineb na dod at y goleuni (Luc 13:34-35; Ioan 3:19-21). Nid cyflwyno ffeithiau sydd wrth wraidd gwir addysg, ond newid calonnau.
Hau a medi
Yng ngweddill y bennod cawn enghraifft o egwyddor hau a medi (cymharer Gal. 6:7-8). Rhaid i’r sawl sy’n gwrthod gwahoddiad doethineb wynebu’r canlyniadau difrifol (26-32). O ddirmygu doethineb Duw, fe wnawn niwed mawr i ni ein hunain yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw. Dim ond drwy dderbyn ei gwahoddiad yn ostyngedig a gwrando arni’n eiddgar y ceir gwir ddiogelwch a dedwyddwch (33).