Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 11:1-15

16 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 11

Diarhebion 11:1-15

‘GWAREDIR Y CYFIAWN’

Dichell

Duw da ac uniawn yw Duw’r Beibl (Salm 25:8), a’i ddymuniad yw gweld ei bobl yn debyg iddo. Fel y mae’n ffieiddio twyll (1), felly hefyd dylai’r rhai sy’n ei addoli ymwrthod â phob gair a gweithred sy’n sawru o gamarwain eraill. Mae Cristion sy’n ymroi i ymddygiad dichellgar yn euog o ragrith – rhywbeth a gondemnir gan Iesu Grist dro ar ôl tro (e.e. Math. 23:1-36). Mewn oes sydd wedi cefnu ar Dduw, digon prin yw pobl fel Nathanael, sef ‘Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyll ynddo’ (Ioan 1:47). O ganlyniad, gall ymwrthod â dichell fod nid yn unig yn dda ynddo’i hun ond hefyd yn dystiolaeth i’r byd o’n hamgylch.

Dylanwad

Mae’n sicr fod angen i Gristnogion fod yn dystiolaeth yn y modd hwn, er mwyn ceisio dylanwadu ar gymdeithas er lles iddi. Yn ôl Iesu Grist, maent i fod yn halen i gadw cymdeithas rhag pydru’n llwyr ac yn oleuni yng nghanol tywyllwch pechadurus y byd (Math. 5:13-16). Er pob gwrthwynebiad ac erledigaeth oherwydd eu safiad dros gyfiawnder yn enw Crist (Math. 5:10-12), gall eu dylanwad fod yn werthfawr. Dyma ergyd neges bwysig adnodau 10-11. O fod yn ddoeth drwy ofni Duw, mae’r Cristion yn ymwybodol o effeithiau niweidiol pechod a chanlyniadau llesol daioni, ac ymdrecha i dynnu sylw at yr egwyddorion hyn er lles pawb.

Diogelwch

Yn hwyr neu’n hwyrach dinistr fydd rhan yr annuwiol (3, 5, 6, 7, 8), ond nid felly’r cyfiawn: cant eu harwain (3), eu hamddiffyn (4), eu  cadw (5), a’u gwaredu (6). Does dim diogelwch mewn cyfoeth (4; cymharer Luc 16:19-31), er gwaethaf ysfa pawb amdano. Dim ond cyfiawnder – y cyfiawnder ymarferol hwnnw sy’n ffrwyth y ffaith fod cyfiawnder Crist ei hun wedi ei gyfrif i ni drwy ffydd ynddo – sy’n medru rhoi diogelwch yn wyneb angau (4). Ond ar lefel arall daw peth diogelwch ‘mewn llawer o gynghorwyr’ (14). Nid ymlwybro ymlaen ar ei liwt ei hun y mae’r Cristion, ond perthyn i ‘deulu’r ffydd’ (Gal. 6:10). Ein braint yw elwa ar gyngor a chymorth Cristnogion eraill, gan gynnwys troi at lyfrau sy’n cyflwyno doethineb ac esiampl pobl Dduw ar hyd y canrifoedd.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF