Diarhebion 1:1-7
‘OFN YR ARGLWYDD YW DECHRAU GWYBODAETH’
Yn yr adnodau cyntaf hyn cawn ein cyflwyno i thema fawr y llyfr. Dymuna’r awdur inni weld yn glir beth yw gwerth doethineb, pa mor bwysig yw gwrando’n ofalus er mwyn dod yn ddoeth, a sut mae dod o hyd i wreiddyn gwir ddoethineb.
Gwerth
Diddorol rhestru’r geiriau a ddefnyddir yn yr adnodau hyn i gyfleu gwerth a phwysigrwydd neges yr awdur. Dyma’r geiriau Cymraeg – ac fe ddown ar eu traws yn aml yn y llyfr:
- doethineb (2, 7);
- addysg (2, 3);
- craffter (4);
- gwybodaeth (4, 7);
- synnwyr (4);
- dysg (5);
- medrusrwydd (5);
- disgyblaeth (7).
Ym mhob oes a phob diwylliant, bu bri mawr ar yr hyn y mae’r geiriau uchod yn ei gynrychioli. Maent yn bwysig i iechyd cymdeithas yn gyffredinol, ac yn werthfawr i ddatblygiad ac aeddfedrwydd yr unigolyn. Ond mae’r llyfr hwn am inni wybod fod rhywbeth arall yn hanfodol i wir ddoethineb, sef elfen ysbrydol a moesol (3). Nid mater i’r pen yn unig yw doethineb, ond agwedd ac ymddygiad cywir – ‘cyfiawnder, barn, ac uniondeb’ – ym mhob rhan o fywyd gerbron Duw (gweler 2:6-9).
Gwrando
Er mwyn dod yn ddoeth a thyfu mewn doethineb, rhaid gwrando (5).
Dyma air arall sy’n codi’n aml drwy’r llyfr. Nid apelio at ryw ddoethineb naturiol ynom y mae’r awdur. I’r gwrthwyneb: mae’n cydnabod absenoldeb y fath beth (22:15). Yr hyn sydd ei angen arnom, yn hytrach, yw gwrando’n ostyngedig ar Dduw ei hun ac ar y sawl sydd wedi cael ei ddysgu ganddo. Mae’r egwyddor sylfaenol i’w chael yn 3:5-8.
Gwreiddyn
Cyflwynir yr allwedd i’r egwyddor sylfaenol honno yn adnod 7. Dim ond un gwreiddyn sydd i wir ddoethineb: ofn yr Arglwydd (7; 9:10; 15:33; Job 28:28). Hynny yw, rhaid dechrau gyda Duw, gosod Duw yn y canol, a chofio mai Duw yw’r unig Un sy’n ddoeth ynddo’i hun (Rhuf. 16:27; cymharer 1 Cor. 1:24, 30; Col. 2:3). Parchu Duw, plygu o’i flaen, cydnabod ei hawl a’i allu a’i awdurdod ar bob agwedd ar ein bywyd ni – dyna ystyr yr ‘ofn’ hwn. Dim ond ‘ffyliaid’ (7) sy’n anwybyddu’r ddoethineb sydd i’w chael ynddo ef.