Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 10:17-32

15 Mawrth 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 10

Diarhebion 10:17-32

‘NODDFA I’R UNIAWN’

Gwrthod

Rhoddwyd anogaeth droeon yn y penodau blaenorol i beidio â gollwng gafael ar gyngor doeth. Ond pan gawn ein ceryddu am ryw fai – mawr neu fân – mae rhywbeth ynom i gyd sy’n mynnu gwrthryfela. Ein tuedd yw ystyried cerydd yn rhyw fath o sarhad – ac mae hyn yn peri i’n balchder godi i’n hamddiffyn. Yn ôl adnod 17, fodd bynnag, mae perygl difrifol o wrthod cerydd. Bydd gwir Gristnogion yn barod i syrthio ar eu bai a chroesawu cyngor gan eraill. Dim ond y rhai ynfyd sy’n tybio eu bod uwchlaw cerydd. Gweler Hebreaid 12:5-13.

Geiriau

Pwysigrwydd gwylio ein geiriau yw prif ergyd yr adnodau hyn. Ein geiriau sy’n datgelu’r hyn sydd yn ein calon. Ni fedr neb dynol weld y galon fel y cyfryw; ond daw ei gwir gyflwr i’r golwg drwy ein geiriau.

Yng ngoleuni hyn, rhoddir nifer o rybuddion. Mae angen gwylio rhag ‘gwefusau twyllodrus’ ac enllib (18). Bydd y deallus hefyd yn ofalus i ‘atal ei eiriau’ (19; cymharer Math. 12:36-37), gan fod amlder geiriau’n gallu arwain at ddweud mwy nag sy’n ddoeth neu’n weddus. Mae amser a lle i siarad – a chadw’n dawel (Preg. 3:7); mae’n bwysig dirnad y gwahaniaeth rhyngddynt.

Ond rhoddir anogaeth gadarnhaol yma yn ogystal. Mae gwerth arbennig i eiriau’r cyfiawn (20), a bydd eraill yn cael lles oddi wrthynt (21). Fe’u nodweddir gan ddoethineb (31) a dealltwriaeth o’r hyn sy’n dderbyniol ac yn adeiladol (32; cymharer Phil. 4:8; Iag. 3:17). Dyma her amlwg: ai o ffynnon dŵr chwerw ynteu o ffynnon dŵr peraidd y daw ein geiriau (Iag. 3:9-12)?

Gobaith

Mae thema bwysig arall i’w chanfod yn yr adnodau hyn. ‘Derfydd gobaith y drygionus’ (28), er pob ymgais i’w gynnal. Ni fedr sefyll yn erbyn barn Duw (24, 25, 27, 29, 30; cymharer Salm 1:4-6). Gwahanol iawn, ar y llaw arall, yw gobaith y cyfiawn. Gobaith yn Nuw yw hwn, ac ni chaiff ei siomi (22, 24). Mae rhyw gadernid diysgog yn perthyn i’r Cristion er pob gofid (29-30), a daw llawenydd i’w ran yn y pen draw (28; cymharer Salm 30:5, 11). Dyma obaith gwerth ei gael yn wir!

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF