Diarhebion 10:1-16
‘BYW’N UNIAWN’
Yn yr adran newydd hon ceir casgliad o ddiarhebion unigol sy’n ymwneud ag agweddau ymarferol ar fywyd bob dydd. Nid oes modd trafod pob un o’r rhain mewn cyfrol fach fel hon, ond ceisir tynnu sylw at rai themâu pwysig sy’n codi.
Cyfoeth
Nod llawer yw ennill cyfoeth: nid dod yn filiwnydd, efallai, ond sicrhau digon o arian i fwynhau bywyd hyd yr eithaf. ‘Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn’ (15) – ac mae’r sylw hwn yn berthnasol i bob oes. Ond mae Solomon am inni gofio dau beth. Yn gyntaf, ni fydd ‘trysorau a gaed mewn drygioni’ yn rhoi dedwyddwch parhaol i neb (2-3; cymharer 21:6; Esec. 7:19). Yn ail, bydd Duw yn gofalu am ei bobl er eu bod yn ymddangos yn anghenus a thlawd yng ngolwg y byd (3; Salm 37:25).
Coffadwriaeth
Mae meddwl am sut y bydd pobl yn ein cofio ar ôl i ni farw yn gyfrwng i’n sobri. Er iddynt osod geiriau neis ar y garreg fedd, gall eu hagwedd go iawn fod yn dra gwahanol. Ond ‘Y mae cofio’r cyfiawn yn dwyn bendith’ i’r rhai a adewir ar ôl: cânt eu cofio â pharch ac anwyldeb – yn dra gwahanol i’r rhai drwg (7).
Cariad
Er hynny, mae beiau aml hyd yn oed yn y ‘cyfiawn’. Yn wir, mae rhywbeth ynom ni i gyd sy’n hoffi codi cynnen drwy dynnu sylw at fethiannau a gwendidau pobl eraill. Mae gwir gariad, ar y llaw arall, yn gwneud ymdrech fwriadol i ymatal rhag hyn (12; cymharer 1 Cor. 13:7; 1 Ped. 4:8). Gwell maddau’n llwyr na gadael i ryw bechod cymharol ddibwys suro perthynas rhyngom a phobl eraill.
Cyfiawn
Cyfeirir at y ‘cyfiawn’ droeon yn yr adnodau hyn. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw nad oes neb yn gyfiawn ynddo’i hun. Duw sy’n cyfiawnhau pechadur anghyfiawn, a hynny’n rhad drwy ffydd yn Iesu Grist (Rhuf. 3:23-26). Ond mae’r sawl sydd wedi ei gyfiawnhau i fod i fyw wedyn mewn ffordd ‘gyfiawn’. Ac mae i’r ffordd honno fendithion amlwg (2, 3, 6, 7, 9, 11, 16).