Tybed a oes rhywbeth arbennig yn y dŵr yng ngogledd sir Gaerfyrddin? O fewn rhyw ddeng milltir i bentref Llanwrda, ac o fewn llai na hanner can mlynedd i’w gilydd, ganwyd rhai o emynwyr gorau Cymru: Dafydd Jones, John Dafydd, a Morgan Dafydd (Caeo); Morgan Rhys (Cil-ycwm); Ioan Thomas (Myddfai); a Thomas Lewis (Talyllychau).
Ond y mwyaf ohonynt o bell ffordd oedd William Williams Pantycelyn, a anwyd union dri chan mlynedd yn ôl (11 Chwefror, 1717) Yn ddiamau ef yw emynydd mwyaf Cymru, ond gellid dadlau ei fod hefyd ymhlith llenorion pwysicaf ein cenedl yn gyffredinol. Arwydd o’i ragoriaeth yw’r ffaith nad oes fel arfer angen rhoi ei enw llawn: gwna ‘Pantycelyn’ neu ‘Williams’ y tro’n iawn. Yn wir, bodlona llyfr emynau’r Methodistiaid (1930) ar ‘W.’ yn unig: nid oes angen dweud mwy.
‘Gwŷs oddi uchod’
Myfyriwr ifanc oedd Williams, a’i fryd ar fynd yn feddyg, pan drowyd ei fywyd wyneb i waered. Rywbryd yn 1737 (neu 1738) safodd i wrando ar Howel Harris yn pregethu ym mynwent eglwys Talgarth. Fel hyn y disgrifia’r hyn a ddigwyddodd:
Dyma’r bore fyth mi gofiaf,
Clywais innau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
Gan ei sŵn dychrynllyd ef.
Er ei fagu yn Eglwys Annibynnol Cefnarthen, ger Llanymddyfri, drwy bregeth Harris y daeth i wir ffydd yn Iesu Grist. Ac ni fu’r un fath byth wedyn: o hynny ymlaen ni allai ond gwasanaethu’r Un a’i daliodd wrth y ‘wŷs oddi uchod’.
Drwy ddylanwad Harris, mae’n debyg, ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Eglwys Loegr yn 1740, a’i benodi’n gurad i Theophilus Evans – llenor enwog ond gwrth-Fethodistaidd – yn ardal Llanwrtyd. Digon cythryblus oedd ei amser yno: fe’i cyhuddwyd o esgeuluso’i ddyletswyddau eglwysig oherwydd ei weithgarwch Methodistaidd. Pan wrthodwyd urddau offeiriad iddo yn 1743, penderfynodd aros yn Eglwys Loegr ond ymroi’n gyfan gwbl i weithio gyda’r mudiad Methodistaidd.
Pregethwr a bugail
Digon hawdd anghofio pwysigrwydd cyfraniad pregethu Williams i’r mudiad hwn. Yn ôl Howel Harris, ‘Hell trembles when he comes, and souls are daily taken by Brother Williams in the Gospel-net’. Teithiai’n ddiflino i daenu’r rhwyd hon.
A theithiai’n ddiflino hefyd i sefydlu ac arolygu seiadau, gan ei ddangos ei hun yn fugail craff a gofalus. Fel y dengys ei lyfr enwog Drws y Society Profiad(1777), rhagorai wrth adeiladu’r aelodau yn y ffydd a’u helpu i ddeall eu profiadau ysbrydol, gan fod yn sensitif gyda’r gweiniaid ond yn barod i geryddu rhagrithwyr. Drwy waith Williams yn bennaf y daeth y seiat yn bwerdy ysbrydol.
Llenor
Lluniodd Williams ddwy gerdd hir arloesol. Sofraniaeth Crist yw testun Golwg ar Deyrnas Crist: cyhoedda’n gynhyrfus fod Crist yn teyrnasu dros bawb a phopeth. Olrhain pererindod ysbrydol gwir Gristion o’r dechrau i’r diwedd a wna’r gerdd arall, sef Bywyd a Marwolaeth Theomemphus. Nid yw’r naill na’r llall heb eu gwendidau fel cerddi, ond ceir ynddynt ddarnau rhagorol sy’n taflu goleuni gwerthfawr ar fywyd y Cristion.
Cyhoeddodd hefyd weithiau rhyddiaith pwysig sy’n dangos ei ddiwylliant eang, ei ffraethineb naturiol, a’i ddychymyg bywiog. Ei ddiben oedd hyfforddi’r rhai oedd wedi dod yn Gristnogion a rhoi cyngor ymarferol iddynt ynghylch priodi, peryglon cenfigen, eu perthynas â’r byd o’u hamgylch, natur gwir adfywiad ysbrydol, diwedd y byd, ac ati.
Emynydd
Serch hyn i gyd, am ei emynau y cofir Williams yn bennaf. Yr hyn sy’n arbennig amdanynt yw’r modd meistrolgar y cyfunant brofiad ysbrydol a diwinyddiaeth Feiblaidd gadarn. Dangosant ei berthynas real â Iesu Grist, ei adnabyddiaeth o’r galon ddynol, ei ddealltwriaeth o waith yr Ysbryd Glân, a’i ddyled i ddiwinyddion Protestannaidd a Phiwritanaidd.
Gall ei arddull ymddangos braidd yn ddiofal weithiau, ond nid oes amau ei ddoniau fel bardd na’i allu i lunio emynau y gall cynulleidfa eu canu. Yr hyn sy’n amlwg ynddynt yw’r elfen uniongyrchol a dramatig. Llwydda i’n tynnu i mewn i’w brofiad ei hun wrth iddo ddatgan ei gariad at Grist, addo teyrngarwch iddo, hiraethu am ei bresenoldeb, neu gyfaddef ei wendidau’i hun. Wrth olrhain ei berthynas ef â Christ, mae’n rhoi mynegiant byw i’n perthynas ni â’r Gwaredwr. A’r cyfan mewn geiriau hawdd eu deall a’u canu sy’n goleuo’r meddwl ac yn cynhesu’r galon.
Anodd gorbwysleisio gwerth yr emynau i’r credinwyr ifainc ar y pryd. Drwyddynt sicrhawyd bod ffresni ysbrydol y mudiad Methodistaidd yn parhau, hyd yn oed wedi marw Williams. Ac er bod ffasiynau’n newid, rhaid dweud fod eu cyfuniad pwerus o brofiad dwys ac athrawiaeth iach yr un mor ffres – a’r un mor bwysig – heddiw.
Y dŵr?
Ymhlith arweinwyr Methodistiaeth gynnar, Williams oedd perchen y bersonoliaeth fwyaf deniadol. Roedd ganddo ddiddordeb iach yn y byd a grëwyd gan Dduw, ac er ei fod o ddifrif fel Cristion gwyddai hefyd sut i chwerthin. Roedd ei fywyd priodasol yn eithriadol hapus, a chydnabyddai’n agored ei ddyled i Dduw am roi ei wraig iddo.
Ond roedd hefyd yn barod i gydnabod ei ddyled i Dduw am bopeth. Roedd yn ymwybodol iawn fod Duw ar waith – yn y byd, yn nhrefn iachawdwriaeth, ym mywyd y Cristion. Ac o ganlyniad roedd pob rhan o fywyd y Cristion i’w gysegru’n llwyr i’r Duw rhyfeddol hwn.
Na, nid dŵr gogledd sir Gâr sy’n egluro Williams Pantycelyn, ond gwaith grasol a grymus Duw yn Iesu Grist. Yn ei eiriau ei hun:
O! Iesu, pwy all beidio
Â’th ganmol ddydd a nos?
A phwy all beidio â chofio
Dy farwol ddwyfol lo’s?
A phwy all beidio â chanu
Am iachawdwriaeth rad,
Ag sydd yn teimlo gronyn
O rinwedd pur dy wa’d?
Ie,
Mi ganaf tra fwyf byw.
Williams Pantycelyn: y ffeithiau pwysicaf
- Geni yn Cefn-coed, Llanfair ar-y-bryn, Llanymddyfri 1717
- Tröedigaeth yn Nhalgarth 1737 (neu 1738)
- Ei ordeinio’n ddiacon yn Eglwys Loegr 1740
- Curad yn ardal Llanwrtyd 1740–3
- Ymroi i’r mudiad Methodistaidd 1743
- Priodi Mary Francis, Llansawel, 1748
- Symud i ffermdy Pantycelyn, hen gartref ei fam, 1748
- Marw 1791
- Ei gladdu ym mynwent Eglwys Llanfair-ar-y-bryn
Williams Pantycelyn: rhai o’i weithiau pwysicaf
Rhyddiaith
- Pantheologia: Neu, Hanes Holl Grefyddau’r Byd 1762–79
- Llythyr Martha Philopur 1762
- Atteb Philo-Evangelius 1763
- Crocodil Afon yr Aifft 1767
- Tri Wŷr o Sodom a’r Aifft 1768
- Liber Miscellaneorum 1773
- Aurora Borealis 1774
- Ductor Nuptiarum: Neu, Gyfarwyddwr Priodas 1777
- Templum Experientiae Apertum 1777
- Drws y Society Profiad 1777
Barddoniaeth
- Golwg ar Deyrnas Crist 1756
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus 1764
- Tua 30 o farwnadau er cof am Fethodistiaid eraill
Casgliadau o emynau Cymraeg
- Aleluia 1744–7; un gyfrol, 1749
- Hosanna i Fab Dafydd 1751–4
- Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol 1759
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr 1762
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau 1763–9
- Gloria in Excelsis 1771–2
- Ychydig Hymnau 1774
- Rhai Hymnau Newyddion 1781–7
Casgliadau o emynau Saesneg
- Hosannah to the Son of David 1759
- Gloria in Excelsis 1772
Mae Gwyn Davies yn henuriad yn Eglwys Efengylaidd Aberystwyth