Hwyrach mai’r gwaith a gysylltir â’r diafol amlaf yw ei waith yn temtio, yn arbennig wrth i ni feddwl am fywyd pob dydd y Cristion. Yn wir, yng Ngweddi’r Arglwydd, patrwm o weddi ar gyfer gweddïo beunyddiol i bob golwg, ceir y deisyfiad ‘a phaid â’n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg’ (Math.6:13 a Luc 11:4). Dyna a wneir wrth ein dwyn i brawf, ein dwyn i fan lle cawn ein temtio. Ac fe gysylltir y profi neu’r temtio hwn gan yr Arglwydd Iesu Grist â’r Un drwg.
Manteisio ar fan gwan – Jwdas
Un dacteg a ddefnyddia’r temtiwr yw manteisio ar wendidau pobl, yr hollt fechan yn eu harfogaeth, y man gwan. Clywsom am y brenin Dafydd a’i falchder, yn ymchwyddo gan faint ei fuddugoliaethau milwrol ac yn penderfynu trefnu cyfrifiad: Satan a fu’n ei annog (1 Cron. 21:1). Dyna hefyd hanes Jwdas Iscariot a fradychodd Iesu. Mae’n debyg mai ei fan gwan ef oedd ei ariangarwch. Ef oedd yr un yr ymddiriedwyd iddo ofalu am yr arian at anghenion Iesu a’i ddisgyblion. Ef oedd â’r ‘god arian’. Ac er ar yr wyneb yr edrychai’n berson digon dibynadwy ac atebol, arferai gymryd peth o’r arian at ei iws ei hun. Pan arllwysodd Mair, chwaer Martha, ennaint gwerthfawr ar draed Iesu, ef, Jwdas, oedd y cyntaf i gwyno:
‘“Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a’i roi i’r tlodion?” ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o’r cyfraniadau oedd yn y god arian oedd yn ei ofal.’ (Ioan 12:5-6).
Ond nid man gwan Jwdas, ei bechod parod, ei ariangarwch, oedd yr unig elfen yn yr hanes trist. Y diafol, mae’n debyg, a blannodd y syniad yn ei ben, a hynny ers peth amser cyn y bradychu. Sylwer, yn ystod y Swper Olaf roedd y diafol, ‘eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas… y bwriad i’w fradychu…’ (Ioan 13:2). Y cam nesaf oedd i’r diafol gyflawni’r bwriad. Dywedir ddwywaith i’r diafol fynd i mewn i Jwdas, i ddechrau rai dyddiau cyn dydd Iau y Swper Olaf: ‘ac aeth Satan i mewn i Jwdas… o ganlyniad aeth a thrafod gyda’r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu’r deml sut i fradychu Iesu iddynt. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i’w fradychu ef iddynt heb i’r dyrfa wybod’ ( Luc 22:3-6). Yna dywedir yr un peth eto am Jwdas, y tro hwn adeg y Swper: ‘ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw’ (Ioan 13:37). Erbyn hynny, druan, roedd yn rhy hwyr.
Pechodau’r tafod
Nid balchder fel yn achos y brenin Dafydd nac ariangarwch fel yn achos Jwdas yw’r unig feiau y gall y diafol eu megino i’w bwrpas ei hun. Sonnir yn Epistol Iago am bechodau’r tafod. Mae’r tafod meddai, ‘wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi’r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dân wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dân gan uffern’ (Iago 3:6). Cyfeiriad eto at y gelyn cudd. Y fath lanast y gellir ei wneud ym mherthynas Cristion a chyd-Gristion, ym mywyd yr eglwys leol ac i achos Duw yn gyffredinol, gan y tafod: beirniadu di-alw-amdano, ensynio peth drwg am frawd yn y ffydd, torri cyfrinach, cario clecs. A beth am y demtasiwn i siarad ofer, di-fudd a’r duedd at orysgafnder sy’n gallu tagu pob gwir ysbrydolrwydd? Mae’r diafol wrth ei fodd pan lwydda i greu hyn yn y saint. Yna, wrth y rhai a oedd ganddynt feddwl uchel o’u doethineb a’u deall, ond a oedd yn llawn uchelgais hunanol yr un pryd, dyma’r neges: ‘Nid dyma’r ddoethineb sy’n disgyn oddi uchod: peth daearol ydyw, peth bydol a chythreulig’ (Iago 3:15). Hynny yw, am y ddoethineb hon, nid peth o’r ddaear hon yn unig ydoedd, neu’n dilyn ffasiwn a syniadau’r byd hwn, ond hefyd rhywbeth oedd yn cael ei gynhyrchu a’i swcro gan bwerau cythreulig.
Ananias a Saffira
Enghraifft arall o’r Un drwg yn dal ar fan gwan yw’r modd y temtiwyd Ananias a Saffira ei wraig (Actau 5). Gwerthodd Ananias beth o’i eiddo a rhoi’r arian tuag at angen y tlodion ymysg aelodau’r eglwys yn ôl esiampl glodwiw llawer eraill, Barnabas yn eu plith (Actau 4:36-7). Gweithred ganmoladwy. Ond fe ddenwyd Ananias i dwyllo, rhoi ar ddeall i’r apostolion ei fod yn cyflwyno iddynt holl werth yr eiddo hwnnw, ond gan gadw iddo’i hun beth o’r tâl am y tir. Yn awr, nid gwendid dynol yn unig oedd y twyll hwn, ond penderfyniad oedd a wnelo’r diafol ag ef. Y diafol a roes rym i’r demtasiwn. Meddai Pedr wrtho:
‘Ananias, sut y bu i Satan lenwi dy galon i ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân… sut y rhoddaist le yn dy feddwl i’r fath weithred’ (Actau 5:3-4) ?
Ond mae peth gwaeth. Nid peth gweddol ddiniwed oedd i Ananias syrthio i’r demtasiwn hon, rhywbeth y cyfyngid ei effaith o fewn cylch bychan, personol, ond ymosodiad dieflig a allai gael effaith ar gylch mwy. Dyna ran o’r esboniad am y gosb, eithafol yn ein golwg ni, a ddaeth arno ef a’i wraig, sef eu taro’n farw yn y fan a’r lle. Fe allai’r drwg hwn fod wedi lledu fel cancr ym mywyd yr eglwys ifanc. Ond fe dorrwyd y drwg yn y bôn, rhoddwyd stop ar waith y diafol drwy’r cerydd llym. Bu’r digwyddiad o les mawr i’r holl frawdoliaeth: ‘Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn’ (Actau 5:11).
Gŵr dienw
Gellir dweud yn debyg am hanes trist arall, am un a demtiwyd i anfoesoldeb rhywiol gwaeth na’r cyffredin. Mae’n debyg bod un o aelodau eglwys Corinth yn ‘gorwedd gyda gwraig ei dad’, sef ei lysfam (1 Cor. 5:1). Fe fu’r credinwyr yn araf yn ei ddisgyblu drwy ei droi allan o gymdeithas yr eglwys, a hwyrach na fuasent wedi gwneud hynny o gwbl oni bai i’r apostol bwyso arnynt (1 Cor. 5:1-5). Unwaith eto, nid mater preifat yn ymwneud ag un neu ddau berson oedd hwn, ond drwg a fyddai’n sicr o gael effaith ar yr eglwys gyfan. Meddyliwch, cwmni o Gristnogion yn goddef anfoesoldeb o’r fath yn eu plith, yr eglwys leol yn colli ei henw da ac yn ymdebygu i’r gymdeithas lwgr o’i chwmpas. Gallai’r pydredd ledu i’r corff cyfan: ‘Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does’ (adnod 6).
Beth neu bwy oedd y tu ôl i’r bygythiad hwn ym mywyd yr eglwys, bygythiad a darddodd o gamymddwyn un dyn? Yn ôl 2 Corinthiaid 2:2-11, dichell Satanaidd oedd wrth wraidd yr holl sefyllfa: ‘rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef’ (2 Cor. 2:11). Ni allwn osgoi’r casgliad, fod y ddichell, y cynllwyn, wedi cychwyn trwy i’r diafol weithio ar awydd rhywiol yr aelod dan sylw. Nid y cnawd yw’r unig elyn yn aml. Yn wir, dylem weddïo’n feunyddiol ‘paid â’n dwyn i brawf, ond gwared ni rhag yr Un drwg’, a hynny nid er ein mwyn ein hunain ond hefyd gyda golwg ar yr achos mawr ac enw da’r efengyl. Gwyliwn rhag ei ddichellion ef.