Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

William Williams yr Emynydd

23 Ionawr 2017 | gan Nathan Munday

Hoffwn ddechrau gyda dyfyniad o bregeth ddiweddar gan Iain. D. Campbell:

In the womb of the Old Testament the Saviour is carried until he is born in the New. Sometimes we feel him kicking or hear him speaking. Sometimes he makes his presence known. Sometimes the womb of the Old Testament is straining to contain Him.

Er mai sôn am y teipiau o Iesu yn yr Hen Destament a wna Campbell, mae’r darlun yn addas ar gyfer emynau Pantycelyn hefyd. Yr Arglwydd yw canolbwynt ac awen y bardd; mae’n rhaid i’r emynau sôn amdano.

Cefais y fraint o ddilyn cwrs MA ym mhrifysgol Caerdydd, ac roedd y testun yn syndod i nifer: y berthynas rhwng emynau Pantycelyn a barddoniaeth R.S. Thomas. Gwrthgyferbyniad llwyr! I Pantycelyn, Iesu oedd y ‘marchog llwyddiannus’ a’r ‘croeshoeliedig Oen’. Yn gyfaill, brawd, gwaredwr, creawdwr, a ffrind i bechadur. Nid felly i Thomas. Fel nifer o gyfrinwyr, ceisiodd Thomas gael cymundeb digyfrwng ȃ Duw; heb Iesu’r Cyfryngwr (yn groes i eiriau Iesu ei hun wrth gwrs –‘Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi’ –Ioan 14:6)

Wrth ymchwilio yn archifau Prifysgol Bangor, darganfyddais nodyn trist gan Thomas mewn copi o Penséesgan Pascal. Wrth y frawddeg ‘We know God only by Jesus Christ’,roedd Thomas wedi ychwanegu ‘No! No! No!’.Teimlais fel ateb:‘Yes! Yes! Yes!’. A dyma pam:

Ffrind Pechadur

Iesu’n unig sydd wedi fy nghodi o’r pwll lleidiog, a gosod fy nhraed ar garreg (Salm 40). I mi, dyma un o’r syniadau pwysicaf yng ngwaith Pantycelyn. Mae Iesu yn waredwr personol ac yn ffrind i bechaduriaid:

Dros bechadur buost farw,
Dros bechadur, ar y pren.

Mae’n syniad syml; yn rhywbeth y deallais yn blentyn. Gallaf gofio hyd heddiw yr union le yr anadlwyd tawel wynt y nef ar fy enaid. Yn sicr, profais heddwch ar ôl tröedigaeth:

Dedwyddwch ddaeth o’r diwedd, y fath ddedwyddwch yw
Nas cair mewn un creadur ag sydd tan nefoedd Duw;
Maddeuant rhad o bechod, pob rhyw bechodau ’nghyd,
Rhai ffiaidd, mwya’ aflan a glywad yn y byd.

Ond, rwy’n dal i fod yn bechadur, yn syrthio dro ar ôl tro:

Dwed i mi, a wyt yn maddau
Cwympo ganwaith i’r un bai?

‘Ydw!’ yw yr ateb (1 Ioan 2:1). Cofiaf mai pechadur wedi fy achub wyf fi nawr. Yn Efengyl Luc, mae Iesu yn ein hatgoffa ei fod wedi dod i alw pechaduriaid; pobl fel chi, fi a Pantycelyn, nid y cyfiawn (Luc 5:32).

Mae’r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo fyth i’r lan;
Mae yma ddigon, digon byth,
I’r truan ac i’r gwan.

Diolch byth! Yn aml, rwy’n teimlo fel Theomemphus. ‘Ffyn baglau’ sy’n fy nghynnal ond mae gen i waredwr sy’n gryf; rhoddodd wisgoedd iachawdwriaeth amdanaf a thaenodd fantell cyfiawnder drosof (Eseia 61:10). Beth yw’r rhain? Ei gyfiawnder pur.

Y Groes

Iesu’n unig sydd wedi marw ar y groes. Ar ôl i Dduw ddarparu hwrdd i offrymu’n boethoffrwm yn lle Isaac ei fab, galwodd Abraham y man yn Jehofa-Jire – ‘Mae’r Arglwydd yn darparu’ (Genesis 22:14). Mae aberth Iesu’n hollbwysig yn emynau Pantycelyn. Rhoddodd Duw yr Oen, ei unig fab, ac fe’i offrymwyd ar y mynydd drosom:

Fe roes ei ddwylo pur ar led,
Fe wisgodd goron ddrain,
Er mwyn i’r brwnt gael bod yn wyn
Fel hyfryd liain main.

Rhoddwyd Iawn! Gorffennwyd! (Ioan 19:30). Atgyfododd! Pa galon mor galed na thodd?

‘Gwaith dy fysedd’

Iesu’n unig sy’n medru creu allan o ddim (Ioan 1:1-3, Col. 1:16). Dywedodd fy nhad mai’r peth cyntaf a sylwodd ar ôl dod i’r bywyd oedd y sêr. Roedd Pantycelyn yr un peth. Ysgrifennodd y gerdd hir Golwg ar Deyrnas Crist yn ymateb i batripasiaeth (patripassianismy gred bod Duw’r Tad wedi marw ar y groes). Mewn un rhan, mae’r bardd yn ein harwain ni nôl at ‘yr enw mwyaf mawr’ gan edrych i fyny:

‘R un peth i’r Iah tragwyddol sy ȃ’r gallu yn ei law,
I roddi bod mewn munud (a ddywedo fe a ddaw)
I ugain mil o fydoedd sy’n cerdded yn eu rhod,
Neu i un o’r tywod mana’ a welodd neb erio’d.

Dyma ddelwedd y sbienddrych. Dychmygwch edrych trwy un ochr a gweld y sêr yn fawr. Yna edrychwch trwy’r ochr arall: y tywod sy’n edrych yn bell i ffwrdd. Ydych chi’n gweld y darlun? Mae’r bardd yn myfyrio ar yr Un a greodd y sêr, ond hefyd, wrth edrych trwy’r ochr arall mae’n sylweddoli bod yr un Person wedi ‘cofleidio llwch y llawr’ (Genesis 3:17)! Ie, ni:

O! gariad heb ei gymar! gras yn ymgrymu ‘lawr,
Er creu [y] sȇr difesur, cofleidio llwch y llawr!
Yn marw tros blant Adda ac eto oedd yn byw
Yn wrthryfelwyr eon ymlaen yn erbyn Duw.

Mae’r gofod felly’n adlewyrchu cynllun mawr o brynedigaeth. Ond mae yna fwy i’w ddweud. Edrychodd y bardd i fyny yn 1770 a gwelodd liwiau’r Aurora Borealis.Iddo ef, dyna oedd yr arwydd bod yr efengyl yn ennill a bod y Jiwbilî yn agosáu.

Fy Nghariad

Iesu’n unig sy’n fy ngharu gyda chariad tragwyddol. Yng Nghaerdydd, mae fy ngweinidog, Wyn Hughes, yn ein harwain trwy Ganiad Solomon. Roedd hwn yn llyfr pwysig i Bantycelyn:

Mae ei law aswy fawr ei grym,
O dan fy mhen, nid ofna i ddim;
Ei ddeheu sydd yn fy mawrhau,
A phob cysuron pur di-drai.
Ei bresenoldeb sydd yn d’od
I mi ȃ’r pleser mwya’ erio’d

Roedd y Salmydd yn awchu am yr un agosrwydd yma yn Salm 84. Fel Dafydd, sy’n hiraethu am gael bod fel y gwenoliaid sydd wedi nythu wrth yr allor, mae’r Pêr Ganiedydd yn awchu:

P’am, Arglwydd, caiff yr adar mȃn
I wneud ei trigfan dawel
O fewn dy dŷ, a minnau’n mhell
O’th sanctaidd babell araul?

I Bantycelyn, presenoldeb Duw oedd y pleser mwyaf. Roedd yr Ysbryd yn llenwi’r bobl ac yn cynhesu’r praidd gyda chariad Duw. Mae’r agosatrwydd hwn yn estron i ni heddiw. Ond fel Wesley, roedd Pantycelyn a’r Methodistiaid wedi profi gwres Duw yn eu calonnau, fel y cerddwyr i Emaus yn Luc 24.

Yn ei lythyr olaf at Thomas Charles, dywedodd Pantycelyn ei fod yn gallu dweud mai cyfaill i Dduw ydoedd. Fel Abraham, teimlodd ei fod ef a’r Iesu yn gallu cymdeithasu â’i gilydd a rhannu cyfrinachau. Mae’n anhygoel meddwl bod Duw yn gallu bod mor agos at bechadur.

O! na chawn ddifyrru ’nyddiau llwythog, dan dy ddwyfol gro’s,

A phob meddwl wedi’i glymu wrth dy berson ddydd a nos!’

Fy ngobaith

Iesu’n unig sy’n rhoi gobaith i’r pererin. Hon oedd un o themâu mwyaf ei ganeuon. Fel Abraham, rhaid cadw ein golwg tuag at y wlad lle mae’r torfeydd di-ri. Mae Iesu ei hun yn ein harwain drwy’r anialwch a phan fyddaf yn cyrraedd yr Iorddonen rwy’n gwybod y bydd gennyf obaith:

Pan b’wy’n myned trwy’r Iorddonen,
Angeu creulon yn ei rym,
Ti est trwyddi gynt dy Hunan,
P’am yr ofnaf bellach ddim?

Mae gan Eglwys yr Heath gysylltiad â Christnogion yn Moldofa sydd wedi profi diwygiad ers cwymp Comiwnyddiaeth. Mae’r sgwrsio, hyd yn oed heddiw, yn cylchdroi o gwmpas yr ailddyfodiad. Roedden nhw’n sylwi bod hyn ar goll yng Nghymru heddiw. Byddai’r Methodistiaid wedi bod yn debyg i’r Moldafiaid. Iesu oedd eu ffrind, bu farw ar y groes, atgyfododd ac mae’n dod eto. Does dim syndod mai’r thema fawr sy’n treiddio trwy holl waith Pantycelyn yw ‘Maranatha, Tyred, Iesu!’

Iesu’n unig yw testun fy nghariad a’m gobaith. Athrylith Pantycelyn oedd cyfleu’r ffydd aruchel hon mewn emynau mor afaelgar. Diolchwn i Dduw amdano.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf