Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

William Williams y Bugail

23 Ionawr 2017 | gan Andras Iago

Yn ei farwnad i Pantycelyn, rhestra Thomas Jones o Ddinbych rai o’r ‘doniau ar ei ben ei hunan’ oedd yn perthyn i’w wrthrych. Mae ei eiriau’n werth eu dyfynnu, oherwydd maent yn dweud rhywbeth am Williams a ddwedwyd gan sawl un wedyn:

Medrus, manwl mewn athrawiaeth,
Egwyddorion, a disgyblaeth;
Ca’dd ei ddysgu i drin, yn gymmwys,
Bob rhyw gyflwr yn yr Eglwys:
Cryf a gwan, ymmhob man, a wyddan’, lle teithiai,
Llwybrau ceimion [h.y. cam] a ddangosai;
Cysur, maeth i’r gwan a roddai.

Gwelai Jones ym mywyd Williams briodas fendigedig rhwng athrawiaeth uniongred a dirnadaeth fugeiliol. Eleni, wrth i ni ddathlu trichanmlwyddiant ei eni, gallwn wneud mwy na pharhau i ‘ganu’r hen emynau pob cyfle rownd y rîl’, fel dwedodd Huw Chiswell – gallwn hefyd barhau i elwa ar ei ddoethineb.

Y ffordd orau i ni ddechrau gwneud hynny yw darllen ei weithiau. Fel y nododd C. S. Lewis unwaith, daw rhyw ostyngeiddrwydd drosom pan feddyliwn am ddarllen campweithiau hen awduron, ac awn ati i chwilio am gymorth gan bobl sy’n fwy abl na ni i’w dehongli. Ond nid oes angen i ni gael ein caethiwo yn y modd hwn, medd Lewis. A dweud y gwir, mae’n dda o beth i ni weld y byd trwy lygaid rhai o fawrion yr oesoedd trosom ein hunain, a thrwy hynny gael golwg ar y byd a’i bethau o safbwynt wahanol i bwysleisiau ein hoes.

Un o’r ffyrdd gorau i’r Cristion ddechrau darllen Pantycelyn yw troi at y gyfrol Templum Experientiæ apertum; neu, Ddrws y Society Profiad Wedi ei agor o Led y Pen. Cyhoeddwyd y gwaith byr hwn ym 1777. Roedd Williams erbyn hyn yn drigain oed, ac wedi treulio’r deugain mlynedd cynt yn bugeilio Cristnogion trwy ‘bob rhyw gyflwr’ yn seiadau’r mudiad Methodistaidd. Mae Drws y Society Profiad yn crynhoi’r ddoethineb a gasglodd drwy gydol ei oes, ac yn ei mynegi yn un o hoff ffurfiau llenyddol Cristnogion yr oes – y ddeialog rhwng gŵr profiadol a dyn ieuanc.

Ond beth yn union oedd seiat? Yn gryno, cyfarfod ydoedd o bobl oedd wedi ymrwymo’n wirfoddol i annog ei gilydd yn y ffydd Gristnogol. Gwnaent hynny trwy weddïo a moli, ond yn bennaf, byddent yn holi am brofiadau ysbrydol eu cyd-seiadwyr. Byddent yn cynnull dan arolygaeth stiward, a byddai hwnnw yn ei dro yn ateb i’r strwythur Methodistaidd ehangach.

Pam oedden nhw’n gwneud hyn? Credai Williams, fel ei gyd-Fethodistiaid, fod amrywiaeth o bethau’n gallu baglu’r Cristion ar ei daith tua’r nef: ‘aneirif yw eu temtasiynau, a rheiny o bob math; rhai at bob graddau, rhai at bob oedran, rhai o mewn, rhai o maes, rhai o mewn ac o maes ar unwaith’. Y moddion gorau i ateb hynny oedd casglu credinwyr yn grwpiau, er mwyn sicrhau na fyddai cariad pobl yn oeri. Rhaid oedd cael mwy na gwasanaeth eglwysig i gynnal y pererin ar ei daith.

Mae Drws y Society Profiad yn llawn cyngor gan Pantycelyn ar gynnal bywyd y seiat. Rhydd arweiniad ar ddewis a meithrin arweinwyr; ar y pethau sy’n rhwystro arweinwyr rhag arwain ei bobl yn effeithiol; ar wybod pryd i holi cwestiwn, a phryd i beidio, ymhlith pethau eraill. Daw’r cyngor hwn oddi wrth un a wyddai sut rai oedd pobl, ac a wyddai sut i’w cynorthwyo yn eu llawenydd a’u treialon.

Drws y Society Profiad heddiw

Er bod bron i ddau gant a hanner o flynyddoedd ers ysgrifennu’r gyfrol, rym ni’n cwrdd â chymeriadau a chyflyrau ysbrydol sydd yn ddigon cyfarwydd i ni o fewn yr eglwys heddiw ar dudalennau’rDrws. Oherwydd hynny, mae darllen y gwaith yn sialens i ninnau mewn sawl ffordd. Yn ddi-os mae yna her bersonol. Mae’n cymdeithas heddiw yn llawer mwy preifat na chymdeithas Cymry’r ddeunawfed ganrif. Gallwn guddio llawer mwy am ein hunain nag y gallen nhw, er pob cyfrwng cymdeithasol. Fe fyddai awdur y Drws yn ein hatgoffa ni fod ‘edrych a gwylio ar ôl bywydau ein gilydd’ trwy fod yn rhan o gymuned eglwysig glós yn rhan anhepgor o’n bywydau fel Cristnogion, a bod ein llawenydd yn yr Arglwydd a’n dyfalbarhad yn hynod simsan os nad ydym wedi ymrwymo i gymdeithas Gristnogol.

Un peth a all ein rhwystro rhag ymrwymo i’r fath gymdeithas yw’n hofn o bobl yn camddefnyddio awdurdod. Gall y fath gamddefnydd ddigwydd yn rhwydd. Ceir enghreifftiau yn hanes hwyrach y Methodistiaid o golli’r ffordd a bod yn annynol a chreulon wrth ddisgyblu. Ar un achlysur enwog, diarddelwyd gŵr o ardal Llansannan am deithio ar y Sul i fod gyda’i wraig pan oedd hi ar farw. Daw’n amlwg o ddarllenDrws y Society Profiad nad peth newydd oedd arweinwyr yn camddefnyddio’r awdurdod a roddwyd iddynt. Yr oedd rhai, medd Pantycelyn, yn ‘tramgwyddo gweiniaid yn aruthr’ trwy adrodd iddynt eu pechodau mewn modd angharedig ac ymosodol, ac mae llawer yn y gyfrol yn annog arafwch cyn symud i diarddel aelodau.

Fel y dywedwyd ar y cychwyn, dawn Pantycelyn oedd cyplysu diwinyddiaeth uniongred a gofal bugeiliol. Mae’r Drws, fel nifer o’i weithiau eraill, yn llwyddo i wneud hyn trwy sicrhau fod y seiat yn gweithredu yng ngoleuni ymwneud Duw â dyn. Pererinion yn cyd-gerdded tua’r gogoniant oedd seiadwyr Williams. Nid oes un ohonyn nhw sydd uwchlaw temtasiwn – mae’r diafol yn graff ac yn gyfrwys, a gall rwydo pob un i feiau sy’n dod yn rhwydd i’w radd a’i gyflwr. Lle i’r gwan orffwyso, cryfhau, a derbyn o nerth yr Ysbryd trwy weinidogaethu i’w gilydd oedd y seiat.

Cyd-fynd o hyd dan ganu ‘mlaen,
cyd-ddioddef yn y dŵr a’r tân,
cydgario’r groes, cydlawenhau,
a chydgystuddio dan bob gwae.

 

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf