Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r term Arachnophobia(ac yn gallu cydymdeimlo â phobl sy’n dioddef ohono!). Ond beth am Xanthophobia(ofn pethau melyn), Turophobia(ofn caws) neu Alektorophobia(ofn ieir) … ? Efallai fod gennych chi ryw phobia arall, rhywbeth sy’n codi ofn afresymol arnoch chi. Hyd yn oed os nad ydych chi’n dioddef o un o’r phobias hyn, rydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ofn. Ofn methu, ofn cael ein brifo, ofn siomi eraill, ofn marw, ofn yr hyn sy’n ein disgwyl ar ôl marwolaeth. Mae ofnau – bach a mawr – yn ein hwynebu ni bob dydd.
Dydy ofn ddim yn beth newydd, wrth gwrs. Un o’r teimladau cyntaf i’r ddynoliaeth eu profia r ôl syrthio i bechod oedd ofn. YnG enesis 3:10, ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela yn erbyn Duw ac anufuddhau i’w orchymyn, mae Adda yn dweud hyn:
‘Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.’
Ar unwaith, mae’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng pobl a Duw – perthynas o ddiogelwch, sicrwydd a hyder – wedi ei rhwygo. Byth oddi ar hynny mae ofn wedi bod yn rhan annatod o fywyd pob un ohonom. Pob un, heblaw am Iesu Grist.
Un o’r pethau trawiadol am fywyd Iesu Grist oedd nad oedd dim byd yn ei ddychryn. Roedd e’n hollol ddewr, yn gwbl eofn. Wrth wynebu sefyllfaoedd a fyddai’n achosi i’r mwyafrif ohonom redeg am ein bywyd, roedd Iesu bob amser mewn rheolaeth lwyr. Pan oedd torf o bobl yn ceisio gafael ynddo er mwyn ei ladd, cerddodd Iesu trwy eu canol (Luc 4:28–30). Mewn storm ar ganol y môr, a’r cwch ar fin suddo, roedd Iesu’n cysgu (Luc 8:22–4). Pan oedd dyn gwyllt ym meddiant cythreuliaid yn rhedeg ato, siaradodd Iesu yn rhesymol (Luc 8:27–35).
Gyda hynny mewn cof, mae’r hyn rydym yn ei gofio adeg y Pasg hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth i ni weld yr Arglwydd Iesu Grist yn profi arswyd. Yn Efengyl Marc 14:32–42 rydym yn darllen y geiriau hyn:
Daethant i le o’r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, ‘Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.’ Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys, ac meddai wrthynt, ‘Y mae f’enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.’ Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i’r awr, petai’n bosibl, fynd heibio iddo. ‘Abba! Dad!’ meddai, ‘y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.’ Daeth yn ôl a’u cael hwy’n cysgu, ac meddai wrth Pedr, ‘Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae’r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.’ Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru’r un geiriau. A phan ddaeth yn ôl fe’u cafodd hwy’n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i’w ddweud wrtho. Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, ‘A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.’
Ystyriwch yr hyn sy’n cael ei ddweud yma. Yn ôl Efengyl Luc roedd Iesu dan gymaint o straen nes iddo ddechrau chwysu dafnau o waed (Luc 22:44). Beth allai fod wedi achosi’r fath ddychryn iddo? Beth yw’r ‘cwpan’ mae Iesu Grist yn arswydo rhagddo? Cael ei fradychu, ei adael a’i wadu gan ei ffrindiau? Cael ei arestio? Cael ei gamgyhuddo? Cael ei wawdio, a’i daro, a’i boeri arno? Cael coron o ddrain wedi ei gwasgu am ei ben, ei ddinoethi, ei chwipio, ei arwain trwy’r strydoedd ac yna’i osod i hongian ar groes?
Wel ie, yn rhannol. Ac eto, roedd rhywbeth llawer mwy dychrynllyd am y groes na’r boen gorfforol ac emosiynol yn unig. Na, yr hyn a godai’r fath ofn ar Iesu Grist oedd y boen ysbrydol y byddai’n ei hwynebu. Y cwpan roedd Iesu Grist yn mynd i yfed ohono oedd cwpan llid Duw, casineb Duw yn erbyn pechod. Er bod Iesu’n gwbl berffaith, er ei fod yn haeddu dim ond cariad y Tad, er na ddylai fod rheswm iddo boeni o gwbl, roedd Iesu yn mynd i dderbyn cosb ein pechod ni arno ef ei hun.
Pan gafodd Iesu ei arestio, dyma fe’n atgoffa ei ddisgyblion,‘A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion?’Nid oedd unrhyw angen i Iesu Grist fod mewn perygl, dim unrhyw reswm pam y dylai deimlo ofn. Ac eto roedd e’n barod i wynebu’r ofn yna, yn barod i wynebu’r groes, er ein mwyn ni. Dyna faint cariad Duw tuag atom.
Mae’r Pasg yn ein hatgoffa fod gennym ni Dduw sy’n gallu uniaethu â ni hyd yn oed yn ein hofnau. Ac eto mae’r Pasg yn golygu rhywbeth llawer mwy na hynny hefyd. Do, fe wnaeth yr Arglwydd Iesu Grist wynebu ei ofn – fe wnaeth e ddioddef cosb pechod ar y groes, fe wnaeth e ddioddef canlyniadau pechod, marw a chael ei gladdu. Ac yna fe atgyfododd! Mewn buddugoliaeth lwyr dros bechod, y diafol, marwolaeth ac ofn, fe ddaeth ef yn ôl yn fyw! Ac felly nawr, oherwydd hynny, does dim angen i ni ofni. Os ydym ni’n bobl i’r Arglwydd, os ydi ein ffydd ni yng Nghrist, wedyn mae ofn wedi colli ei afael arnom ni.
Cyn iddo wynebu’r groes, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion,
‘Yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd’ (Ioan 16:33).
Beth sy’n codi ofn arnoch chi? Oherwydd y Pasg, does dim angen i chi ofni mwyach. Gallwch fod yn sicr fod Duw yn eich caru, fod eich pechodau wedi eu maddau, fod Duw gyda chi ym mhob sefyllfa, a beth bynnag a ddaw does dim byd yn gallu eich gwahanu oddi wrth ei gariad ef.
Mae Emyr James yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd