Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hanes Cyfieithu Beibl.net

23 Ionawr 2017 | gan Arfon Jones

Mae syniad pobl o beth mae cyfieithu’r Beibl yn ei olygu yn gallu bod yn gamarweiniol iawn weithiau. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cyfieithu’r ysgrythurau bellach yn brosiect cydweithredol. Pwyllgorau sydd y tu ôl i lawer o gyfieithiadau – megis y Beibl Cymraeg Newydd, yr ESV, yr NIV, yr NLT ac yn y blaen. Er nad Pwyllgor oedd yn gyfrifol am beibl.net, dw i’n teimlo’n reit anghyfforddus pan fydd pobl yn sôn amdana i fely cyfieithydd. Er cydnabod fy mod yn bennaf gyfrifol am y gwaith, dw i’n tueddu gweld fy hun yn fwy fel ymchwilydd neu gydlynydd y prosiect. Y gwir ydy fod llawer iawn o bobl o wahanol rannau o’r byd wedi dylanwadu ar, a hyd yn oed gyfrannu at, y cyfieithiad. Dydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n siarad yr un gair o Gymraeg, ond gyda’r We Fyd-eang a’r holl adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i ni heddiw, roeddwn yn gallu elwa ar eu dealltwriaeth o’r testun gwreiddiol, eu harbenigedd yn y maes a’u hawgrymiadau.

Roedd nifer dda o Gymry wedi cyfrannu oriau lawer o waith i’r prosiect hefyd. Alla i ddim peidio â chyfeirio at un yn arbennig, sef Angharad Roberts, o Drefor a oedd yn gyfrifol am ddrafft cyntaf wyth o lyfrau’r Hen Destament – 1 a 2 Samuel, 1 a 2 Brenhinoedd, 1 a 2 Cronicl, Ruth a Seffaneia. Ac roedd eraill wedi bod yn darllen drafftiau, cynnig awgrymiadau a chywiro gwallau – rhai ohonyn nhw’n arbenigo yn y Gymraeg fel ail iaith, eraill yn hyddysg iawn yn y testun Beiblaidd, heb sôn am nifer o ddysgwyr a phobl ifanc. Un ffrind da wnaeth ddarllen drafftiau pob un o’r 66 llyfr oedd cyn-Ymgynghorydd Addysg Ddiwinyddol Tearfund, sef Dewi Arwel Hughes.

Ond sut dechreuodd y cwbl?

Yn ôl yn yr wythdegau rôn i’n gwasanaethu yn Swyddog Ieuenctid Undeb yr Annibynwyr, ac yn teithio ar hyd a lled Cymru. Un o brif ‘gwynion’ pobl ifanc bryd hynny oedd eu bod yn cael y Beibl yn anodd i’w ddeall. Dyna pryd yr eginodd y weledigaeth o baratoi cyfieithiad deinamig, llafar o’r Beibl. Dw i’n cofio sgwrsio gyda phobl oedd yn llawer mwy hyddysg na mi yn y Roeg a’r Hebraeg, a’u hannog i ystyried drafftio cyfieithiad o’r fath, ond ddaeth dim o hynny ar y pryd.

Ar ôl gadael y coleg rôn i fy hun wedi dechrau meithrin diddordeb eithaf brwd yn yr ieithoedd Beiblaidd, a’r diddordeb hwnnw wedi tyfu dros y blynyddoedd. Yna, yn y nawdegau pan o’n i’n gweithio yn Ysgrifennydd y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru, ces y fraint o gydlynu cyfraniad y ‘Gweithgor Efengylaidd’ i’r broses o ddiwygio’r Beibl Cymraeg Newydd. A dyna pryd yr aildaniodd y weledigaeth o greu cyfieithiad mwy llafar.

Y bwriad gwreiddiol gen i oedd drafftio ‘cyfieithiad’ o lyfrau’r Testament Newydd, yna ei osod ar y We yn y gobaith o hybu trafodaeth ar-lein am y ffordd orau i gyfieithu’r testun Beiblaidd i iaith bob dydd. Er i mi dderbyn llawer awgrym gan unigolion, wnaeth y drafodaeth oeddwn i’n dyheu amdani ddim datblygu. Trodd y prosiect yn ymgais i ysgrifennu rhywbeth fyddai’n cael ei ystyried yn ‘bont’ i helpu pobl ifanc i ddeall neges y Beibl yn well. Er fy mod yn gweithio o’r Roeg wreiddiol roeddwn wedi dewis galw beibl.net yn ‘aralleiriad’.

Roeddwn mewn cysylltiad agos â Chymdeithas y Beibl ers dechrau’r prosiect o ddiwygio’r Beibl Cymraeg Newydd. A dyna pryd y dois yn ymwybodol o’r adnoddau cyfrifiadurol oedd ar gael i helpu cyfieithwyr y Beibl ar hyd a lled y byd. Dechreuais gyda rhaglen o’r enw Translator’s Workplace, ac yna’n ddiweddarach cefais y rhaglen gyfrifiadurol Paratext (adnodd cyfrifiadurol a ddatblygwyd gan yr United Bible Societies). Tua’r adeg yna, dan arolygaeth Ymgynghorydd Cyfieithu yr UBS dros Ewrop, perswadiwyd fi fod y gair ‘cyfieithiad’ yn fwy priodol nag ‘aralleiriad’.

Beth am y broses o gyfieithu?

Gan ddefnyddio’r rhaglen Paratext, rôn i’n drafftio’r hyn fyddwn i’n ei alw yn gyfieithiad bras o lyfr; yna sawl mis yn ddiweddarach byddwn yn ailymweld â’r llyfr a gwneud gwaith mwy manwl ar faterion fel cysondeb a chywirdeb. Roedd llawer o’r gwaith yma yn ffrwyth ymchwil a chyngor academyddion a phobl eraill o wahanol rannau o’r byd oedd yn cyfieithu’r Beibl – drwy flogiau, trafodaethau ar-lein, papurau, erthyglau ac esboniadau Beiblaidd manwl. Wedi hynny roeddwn i’nanfon ail ddrafft at ddarllenwyr, a’u sylwadau a’u hymateb nhw yn arwain wedyn at ddrafft pellach oedd yn cael ei osod ar wefan www.beibl.net. Roedd ymwelwyr â’r wefan yn cael eu gwahodd i gynnig sylwadau ar y cyfieithiad hefyd, a chafodd llawer iawn o newidiadau pellach eu gwneud dros gyfnod o amser.

Ar ôl cwblhau’r Testament Newydd a chreu gwefanwww.beibl.netyn 2002, roedd pobl yn gofyn dau gwestiwn yn gyson. Yn gyntaf, ‘Wyt ti’n bwriadu gwneud yr Hen Destament?’ ac yn ail, ‘Pryd gawn ni lyfr?’ Rôn i’n ansicr iawn o’r syniad o’i gyhoeddi ar ffurf llyfr; ond derbyniais fod galw gwirioneddol am fersiwn tebyg o’r Hen Destament. Es ati i geisio dod o hyd i bobl a allai helpu, a mynd ati fy hun i astudio Hebraeg am dair blynedd.

Cyfieithu heb ddehongli?

Un peth dw i wedi dod yn argyhoeddedig ohono wrth wneud y gwaith ydy fod elfen o ddehongli yn hanfodol i unrhyw gyfieithu. Mae’n rhaid i’r cyfieithydd benderfynu beth sy’n cael ei ddweud yn yr iaith wreiddiol, ac ar sail y ddealltwriaeth honno, ceisio cyfleu’r ystyr mor ffyddlon ac mor glir ag sy’n bosib yn yr iaith y mae’n cyfieithu iddi. Mae beibl.netyn gyfieithiad eithaf llythrennol weithiau, ond ar adegau eraill mae’n llawer mwy rhydd a deinamig. Pam? Oherwydd weithiau mae cyfieithiad llythrennol yn gallu bod yn ddryslyd, a hyd yn oed yn gamarweiniol. Dewisais beidio â chyfieithu idiomau Hebraeg yn rhy llythrennol, a phenderfynais osgoi unrhyw amwysedd. Wrth wneud hynny roeddwn yn ceisio cyfleu beth oeddwn i’n ei gredu oedd ystyr mwyaf tebygol y testun gwreiddiol yn ei gyd-destun. Rôn i hefyd yn ceisio osgoi defnyddio gormod o ‘jargon’ Cristnogol ac yn mynnu gofyn y cwestiwn, ‘Fydd hwn yn gwneud unrhyw sens i bobl y tu allan i’n heglwysi?’

Un broblem ddiddorol y bu’n rhaid ei hwynebu oedd bod yr iaith lafar yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Felly, penderfynais anelu at ryw fath o gyfaddawd rhwng y Gogledd a’r De. Roedd y penderfyniad hwn yn adlewyrchu’r bwriad gwreiddiol, sef mai adnodd ‘ar-lein’ oedd beibl.net, ac y dylai darllenwyr lawrlwytho penodau a newid rhywfaint ar yr iaith a’r eirfa i weddu i’w hardal nhw.

Mae’r Rhagarweiniad Cyffredinol i’r Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) (2004) yn cydnabod ‘… yr angen dybryd am fersiwn o’r Beibl â’i iaith a’i arddull yn nes at yr hyn a arferir ar lafar, ac a fyddai felly’n fwy rhydd a phoblogaidd ei naws…’ Dw i’n gobeithio fod beibl.net yn un ymdrech i ddiwallu’r angen hwnnw, ac y gall Duw ei ddefnyddio i arwain pobl newydd i berthynas real ag ef ei hun. Dw i’n dyheu am gael gweld pobl Cymru a’r iaith Gymraeg yn moli Duw unwaith eto ac yn dathlu ei gariad anhygoel tuag aton ni yn Iesu ei Fab.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
beibl cyfieithu
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf