Soniwyd y tro diwethaf am anesmwythyd Brian McLaren ynghylch credoau’r Eglwys. Byddai eraill yn mynd ymhellach: Honnodd y rhyddfrydwr Adolf von Harnack (1851-1930) bod y credoau cynnar yn tagu symlrwydd y Cristnogion cyntaf. Gellid disgwyl y fath ymateb gan bobl sy’n cael trafferth â Christnogaeth athrawiaethol, ond mae gwrthwynebiad nifer o Gristnogion efengylaidd yn fwy syfrdanol. Er enghraifft, un o nodweddion cynulliadau efengylaidd ‘Brodyr Plymouth’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd eu bod yn gwrthod pob credo, gan lynu wrth y Beibl yn unig, ac mae nifer o eglwysi wedi eu hefelychu yn hyn o beth. Wrth ymateb i’r duedd hon, efallai y byddai’n syniad bwrw golwg ar yr ail o gredoau mawr yr Eglwys, sef un Nicaea (325 O.C):
Credwn yn un Duw,
Y Tad hollalluog,
gwneuthurwr nef a daear,
a phob peth gweledig ac anweledig.Credwn yn un Arglwydd Iesu Grist,
unig Fab Duw,
a genhedlwyd gan y Tad cyn yr holl oesoedd,
Duw o Dduw,
Llewyrch o Lewyrch,
gwir Dduw o wir Dduw,
wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur,
yn un hanfod â’r Tad, a thrwyddo ef y gwnaed pob peth:
yr hwn er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth a ddisgynnodd o’r nefoedd,
ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontius Pilat.
Dioddefodd angau ac fe’i claddwyd.
Atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau,
ac esgynnodd i’r nef,
ac y mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad.
A daw drachefn mewn gogoniant i farnu’r byw a’r meirw:
ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.Credwn yn yr Ysbryd Glân,
yr Arglwydd, rhoddwr bywyd,
sy’n deillio o’r Tad a’r Mab,
yr hwn gyda’r Tad a’r Mab a gydaddolir ac a gydogoneddir,
ac a lefarodd trwy’r proffwydi.Credwn yn un Eglwys lân gatholig ac apostolig.
Cydnabyddwn un Bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliwn am atgyfodiad y meirw,
a bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.
Mae ffurf y credo yn adleisio ffurf Drindodaidd y credo apostolaidd. Eto mae iddi elfennau newydd, a llawer o’r rheini ynghlwm wrth hanes ei llunio. Nid cwympo o’r gofod a wnaeth, ond ymateb i gyfnod cynhyrfus yn hanes yr Eglwys. Wrth i’r erledigaeth lem ar yr Eglwys Fore ddod i ben gyda thröedigaeth Cystennin yn 312, dechreuodd gwahaniaethau athrawiaethol ymddangos oddi mewn i’r Eglwys. Un enghraifft oedd dysgeidiaeth Arius a greoddanghydfod yn eglwys Alexandria, trwy fynnu bod gan Iesu statws unigryw, ond nad oedd yn gydradd â’r Tad. Nid oedd yn dragwyddol. Fe’i gwrthwynebwyd gan Athanasiws a blediodd ddwyfoldeb llawn Iesu a’r safbwynt hwn aeth â hi a’i gorffori yng Nghredo Nicaea (325) a chredo Cystennin (381). Gwelir yn y gyffes bwyslais cryf ar gyflawn dduwdod Iesu Grist (‘Duw o Dduw, Llewyrch o Lewyrch, gwir Dduw o wir Dduw’), ei gydraddoldeb â’r Tad (‘yn un hanfod â’r Tad’ homoousios). Dywedir iddo gael ‘ei genhedlu’ gan y Tad, ond nid cenhedlu hanesyddol mo hwn, yn hytrach, un tragwyddol ydyw (‘cyn yr holl oesoedd’) sy’n cyfleu’r berthynas unigryw rhwng y Tad a’r Mab. Gwelir iddo gael dechreuad ‘hanesyddol’ yn ei fodolaeth ymgnawdoledig: roedd Crist yn bod cyn ei eni ond daeth yn ddyn (‘a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a wnaed yn gnawd trwy’r Ysbryd Glân o Fair Forwyn, ac a wnaethpwyd yn ddyn’). Eglurir pam y digwyddodd hyn: ‘er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth… ac a groeshoeliwyd hefyd drosom’. Sonnir hefyd am ei atgyfodiad a’i esgyniad at ddeheulaw y Tad, ac at ei ddyfodiad i farnu.
Y Credo a’r Beibl
Roedd y Diwygwyr Protestannaidd yn barod iawn i gadw credoau os oeddynt yn gyson â dysgeidiaeth y Beibl, fel y dywed yr wythfed o Erthyglau Eglwys Loegr (1562):
Y tair Credo, sef, Credo Nicaea, Credo Athanasius, a’r hon a elwir yn gyffredin Credo’r Apostolion, a ddylid yn gwbl eu derbyn a’u credu: oblegid fe ellir eu profi trwy warantrwydd di-ddadl yr Ysgrythur Lân.
Pan ddaeth y tri chant o esgobion ynghyd yn Nicaea, o dan gadeiryddiaeth yr Ymerawdwr Cystennin, adnodau o’r Beibl a lywiodd eu trafodaethau ynghylch person Crist. Canolbwyntiwyd ar y canlynol: Diar. 8:22; Math. 19:17, 20:23; Marc 13:32; Luc 2:52; Ioan 5:19, 10:30, 14:28; Act. 2:36; 1 Cor. 15:28; Phil. 2:7; Col. 1:15; Heb. 1:3.
Mae’r credoau cynnar yn ein helpu i ddeall y Beibl yn well, ac felly i addoli Duw yn fwy. Gwerth y credoau yw eu bod yn crynhoi rhai o brif elfennau dysgeidiaeth y Beibl am Grist, a hynny heb fod yn arwynebol. Nid ydynt yn tanseilio awdurdod y Beibl; modd i ddysgu’r athrawiaethau sylfaenol ydynt.
Crist y Credo
Neges fawr y gredo hon yw cyflawn dduwdod Iesu Grist. Nid yw’n ddyn cyffredin, na chwaith y mwyaf na’r cyntaf o’r creaduriaid, ond yn Dduw. Rhaid dechrau yma. Mae Mathew a Luc yn dechrau gyda hanes unigryw geni Iesu Grist, ‘Duw gyda ni’ (Math. 1:21), ‘Mab y Goruchaf’ (Luc 1:32). Mae Ioan yn gosod yr hanes yng ngoleuni tragwyddol: y Gair tragwyddol yn dod yn gnawd. Mae Marc yn ei dweud hi ar ychydig eiriau yn adnod gyntaf ei Efengyl: ‘Dechreuad Efengyl Iesu Grist, Mab Duw.’
Daeth yn boblogaidd dadlau bod rhaid deall Iesu yn bennaf yng nghyd-destun Iddewiaeth y ganrif gyntaf. Er mor ddiddorol y gall y cefndir hwn fod, ni fydd byth yn rhoi darlun cyflawn, am fod Iesu yn fwy na pherson hanesyddol.
Ehangder tragwyddol Crist
Mae llawer o sôn am gariad Crist a llawer o ganu, ac eto gall ein calonnau fod yn ddigon oeraidd ynghanol yr holl gyffro. Onid yw’r credo’n cynnig ateb i’r cyflwr hwn? I raddau bydd maint ein cariad Crist yn cyfateb i faint ein dealltwriaeth o’i berson.
Wrth feddwl am enedigaeth Iesu, y temtasiwn yw aros gyda’r preseb a chymeriadau’r Nadolig, ond mae Nicea yn ein cymell i ganfod y digwyddiad o safbwynt tragwyddoldeb: daeth y Gair tragwyddol yn ddyn (Ioan 1:1-14). Roedd yn bod cyn ei eni. Honnai Arius y bu amser pan na fuMab Duw. Cyhoeddai Credo Nicea na fu erioed amser pan na fu’r Mab. Dychmygwch y peth. Wrth i wyddonwyr mawr bentyrru damcaniaeth ar ben damcaniaeth ynghylch dechreuadau’r bydysawd, roedd Iesu Grist yno. Nid oes dim yn guddiedig rhagddo. Rydym yn canmol rhai am gyrraedd gwth o oedran ac am gyflawni llawer o bethau, ond maent yn dal yn gaeth i amser. Nid felly Iesu Grist. Nid yw ynghlwm wrth amser. Nid yw’n newid (Heb. 13:8) ac o’r herwydd hyn gall fod yn gefn i ni ynghanol ein bywydau ansicr. Yr un a fu yn y dechreuad yw awdur pob peth (Col. 1:15-17). Mae ganddo awdurdod dros y cyfan ac mae’n rheoli’r cyfan.
Her y credo
I beth mae hyn yn dda? Pa gymorth sydd i’w gael o’r credo hwn yn ein bywydau o ddydd i ddydd? Sylwer ar air cyntaf y credo: ‘Credwn’. Nid edrych yn ôl sydd yma, ond edrych i fyny gan gydnabod mawredd y person yr ydym yn credu ynddo. Hwn yw’r Crist a ddatguddir i ni yn y Beibl. Yr alwad fawr yw cynnal ein ffydd yn y Gwaedwr hwn. A sylwer ar y gyffes: ‘Credwn’. Os nad yw ein cyffes o Grist yn ein dwyn yn nes at ein gilydd, a oes lle i ni ein holi ein hunain a ydym wedi deall y credo o gwbl?
Mae Geraint Lloyd yn ddarpar-gyd-olygydd y Cylchgrawn Efengylaidd