Mae ymroddiad llwyr Eleias i Dduw yn ein herio’n fawr. Anfonwyd ef nid i gysuro ond i geryddu. Ac fe ddioddefodd unigrwydd mawr oherwydd hyn.
Cyflawnodd Duw sawl gwyrth trwy weinidogaeth Eleias.Y mwyaf dramatig o bosibl oedd honno ar ben mynydd Carmel. Ond yn dilyn y wyrth fawr hon gwnaeth Jesebel ddial arno trwy fygwth ei fywyd. Digalonnodd yntau’n llwyr gan ffoi i’r anialwch. Dymunodd farw yno, ond nid dyna ewyllys Duw ar ei gyfer.
Ar ôl buddugoliaeth fawr y mynydd profodd Eleias unigrwydd dwfn y glyn. Brwydrodd â theimladau llethol oedd yn gwasgu’n drwm arno. Er iddo feddwl mai ef yn unig oedd yn weddill o bobl yr Arglwydd, eto yr oedd gan Dduw ‘weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na’i gusanu’ (1 Bren. 19:18).
Mae Duw yn gweithio’n bennaf trwy’r cyfarwydd yn hytrach na’r anghyfarwydd. Mae wedi darparu moddion gras ar ein cyfer yn ddyddiol. Gofalwn rhag gorbwysleisio profiad crefyddol ar draul crefydd brofiadol.
Ynglŷn â gwaith gwaredigol Duw fe welwn fod teyrnas Israel erbyn hyn wedi’i rhwygo’n ddwy ran. Anufuddhaodd y brenhinoedd i Gyfraith Dduw gan arwain y bobl i eilunaddoliaeth. O ganlyniad i hyn anfonodd Duw broffwydi atynt i’w galw nhw’n ôl ato. Diwedda’r Hen Destament gyda chyfeiriad at y Gyfraith a roddwyd trwy law Moses (Malachi 4:4) ynghyd â’r addewid am ddyfodiad Eleias y proffwyd (Malachi 4:5). Cyfeiriad symbolaidd yw hwn at un fel Eleias a fyddai’n dod i gyhoeddi dyfodiad Crist. Ioan Fedyddiwr oedd hwnnw a ddaeth i baratoi calonnau’r bobl ar gyfer Iesu trwy edifeirwch (Luc 1:17). Yn y Gweddnewidiad gwelwyd Moses ac Eleias yn ymddangos gyda’r Iesu (Mathew 17:3-13), y naill yn cynrychioli’r Gyfraith a’r llall y Proffwydi, ac felly’n cymeradwyo Ei swyddogaeth Feseianaidd.
Cryfderau
- Proffwyd enwocaf Israel
- Cynrychiolodd Dduw yn erbyn Baal ar fynydd Carmel
- Ymddangosodd gyda Moses a Iesu yn y Gweddnewidiad
Gwendidau
- Profodd unigrwydd mawr wrth weithio ar ei ben ei hun
- Ffodd mewn ofn mawr oddi wrth fygythiad Jesebel i’w fywyd
Gwersi
- Gall buddugoliaeth fynd yn drech na dyn
- Nid ydym mor unig fel nad yw Duw wrth law
- Mae Duw yn sibrwd wrthym yn amlach nag y mae’n gweiddi arnom
Ffeithiau
- Lleoliad:Gilead
- Gwaith:Proffwyd
- Perthnasau:Anhysbys
- Cyfoeswyr: Ahab, Jesebel, Ahaseia, Obadeia, Hasael, Jehu ac Eliseus
- Mae’r enw Eleiasyn golygu Yahweh sydd Dduw
Adnodau:
- 1 Bren. 18:16-40;
- Malachi 4:5-6;
- Mathew 11:14, 16:14, 17:3-13 a 27:47-9;
- Luc 4:25-6;
- Iago 5:17-18