Her
Mae’n siŵr ei bod yn deg dweud nad oes llawer yng Nghymru yn poeni am gyflwr eu heneidiau heddiw. Mae’r prif reswm dros hyn yn eglur iawn – nid yw’r mwyafrif yn sylweddoli fod ganddynt enaid. Yn yr ysgolion ac ar y cyfryngau, mae esblygiad a secwlariaeth anffyddiol yn ennill y dydd. Yn gynyddol mae gwyddoniaeth gyfoes yn fwriadol yn cau allan unrhyw bosibilrwydd o atebion nad ydyn nhw’n hollol fecanistig a materol. Mae damcaniaethau posibl sy’n groes i esblygiad yn cael eu gwahardd a’u diystyru’n syth, a does neb yn cael crybwyll Duw. Ac os yw esblygiad ac anffyddiaeth yn wir, mae’n dilyn nad oes enaid, ac felly nad oes bywyd ar ôl marwolaeth, ac na all Crist fod wedi marw dros bechaduriaid chwaith. Prin y gellir meddwl am athrawiaeth fwy peryglus a damniol. Mae angen i’r Eglwys ddihuno i’r perygl.
Serch hyn, mae arwyddion bod y rhod yn dechrau troi a bod lle i obeithio.
Yn ffilm Kubrick a Clarke 2001: A Space Odyssey’ (1968), un o brif ‘gymeriadau’ y stori yw cyfrifiadur y llong ofod, ‘HAL 9000’. Dywedir ei fod yn ‘foolproof and incapable of error.’
Yn anffodus i HAL mae’n rhaid iddo geisio cuddio cyfrinachau oddi wrth y dynion ar y llong (e.e. gwir natur eu menter). Daw hyn yn straen cynyddol ac annioddefol iddo. I ddechrau mae’n ceisio atal y dynion rhag cyfathrebu â’r Ddaear (a realiti) ond yn y pen draw mae’n methu â gwadu’r gwirionedd rhagor, ac mae’n colli ei limpyn – ceisia ddinistrio’r dynion ar y llong yn lle cyfaddef ei gelwydd.
Byddai nifer o bobl, mae’n siŵr, yn defnyddio hyn yn ddarlun o sefyllfa’r sawl sy‘n credu mewn Duw, sef ein bod, fel HAL, yn ceisio osgoi realiti. Ond mewn gwirionedd, mae’r darlun yn adlewyrchu sefyllfa’r ‘anffyddwyr newydd’ heddiw yn well.
Yn eu hisymwybod mae’n rhaid bod yr anffyddwyr newydd yn sylweddoli bod eu hanffyddiaeth yn sigledig a ffug. Yn gyntaf, mae pob un ohonynt wedi eu creu ar lun a delw Duw, gydag ymwybyddiaeth o’i bresenoldeb (Rhuf. 1:18-21), a hefyd, gam wrth gam mae gwyddoniaeth yn herio eu daliadau anghrediniol.
Mae’r dystiolaeth sy’n tanseilio a herio damcaniaeth esblygiad yn cynyddu. Sylweddola llawer fod y dystiolaeth yn fregus yn eu meysydd arbenigol hwy, felly maent yn troi i feysydd eraill am gymorth. Er enghraifft, bydd y daearegwr sydd am weld tystiolaeth gadarnach bod y ddaear yn ifanc, yn troi am gymorth at y biolegydd. Ond fe fydd y biolegydd, sydd wedi’i orlethu â chymhlethdodau DNA, yn edrych tuag at y cosmolegydd am gymorth, ac felly ymlaen ac ymlaen. Drwy’r cyfan daw ‘gwadu realiti’ yn fwyfwy anodd.
Tair enghraifft syml
Yn 1862 gwrthbrofodd Louis Pasteur gonsensws gwyddonol blaenorol, sef y ddamcaniaeth fod bywyd wedi’i genhedlu yn ddigymell (biogenesis). Fel yr ysgrifennodd Pasteur: ‘Nid oes unrhyw amgylchiad lle y gellir cadarnhau fod bodau microsgopig wedi dod i mewn i’r byd heb germau, heb rienitebyg i’w hunain.’ Mae darganfyddiad Pasteur yn parhau i fod o fudd mawr i’r ddynoliaeth. Heb ddamcaniaeth Pasteur byddai llawdriniaethau meddygol yn amhosibl; a diwydiant caws a gwin Ffrainc yn llawer tlotach!
Mae gwyddoniaeth wedi symud ymlaen eto ers hynny, wrth gwrs. Heddiw, rydym yn gwybod bod y gell, a ymddangosodd ym microsgop Pasteur a Darwin fel swigen sebon, yn beiriant cywrain a chymhleth tu hwnt. Gwelodd Pasteur nad oedd modd i gelloedd byw ymdebygu i fater anorganig – gwyddom pam nawr. Gŵyr pob gwyddonydd hefyd, mewn gwirionedd, nad yw bywyd yn dod o ddim byd – mae angen elfen wahanol ac yn wir, cynllunydd. Mae gwyddonwyr yn parhau i weithio ac arbrofi yn y maes hwn, ac efallai’n llwyddo i arddangos digon o ddyfeisgarwch dynol i ‘greu’ (copi) o fywyd yn y labordy –ond fe ddigwydd hyn eto drwy efelychu cynllun; nid trwy hap a damwain.
Yn ail, gallwn feddwl am y cofnod ffosil. Roedd Darwin ei hun yn boenus o ymwybodol nad oedd y cofnod ffosil yn cefnogi damcaniaeth esblygiad, am nad oedd ffosiliau trosiannol (transitional) yn bodoli. Ers hynny mae cannoedd o filoedd o ffosiliau wedi’u casglu, ac mae’r cofnod ffosiliau yn dal i amlygu’r un nodwedd, sef rhywogaethau sefydlog, heb arwydd o drosiant o un rhywogaeth i’r llall. Er mwyn i ddamcaniaeth esblygiad fod yn wir, byddai’n angenrheidiol i’r rhan fwyaf o’r ffosiliau arddangos nodweddion trosiannol, ond nid ydynt yn gwneud hynny. Yn groes i’r syniad poblogaidd, felly, nid yw’r cofnod ffosil yn dilysu damcaniaeth esblygiad. I’r gwrthwyneb, mae’n ei gwrthbrofi.
Yna yn drydydd, ‘edrychwch ar adar y nefoedd’. Sut y gwnaethant hwy esblygu? Fel y mae Stuart Burgess yn nodi yn ei lyfr ardderchog Hallmarks of Design, mae dyn wedi ceisio efelychu’r adar ers canrifoedd, ac mae’r dasg o ddylunio, adeiladu, ac yna hyfforddi peilot i reoli awyren bron yn amhosibl ac wedi cymryd cannoedd o flynyddoedd –̶ a hyd yn oed wedyn, dyw ein hefelychiad ni o’r adar ddim hanner mor llwyddiannus. Pryd tybed y gwelsoch chi aderyn yn colli rheolaeth neu’n cwympo o’r awyr? Rhagdybia esblygiad aderyn amherffaithar y cychwyn, tebyg i’r peilot hollol ddibrofiad, yn trio hedfan, ac yna, yn ddiweddarach, ei fod wedi medru gwneud ‘addasiadau’. A yw hyn yn debygol neu’n gredadwy? O safbwynt peiriannydd megis Stuart Burgess, mae esblygiad adar yn amhosibl.
Ymateb yr Anffyddiwr
Ni ddylem synnu at ddicter yr ‘anffyddwyr newydd’. Maent yn brwydro yn erbyn y gwirionedd sydd yn eu calonnau ac yn y greadigaeth. Mae brwydr ysbrydol fwy sylfaenol yn eu calonnau hefyd. Ystyriwch hyn: Os oes angen cynllunydd, ac os Duw yw’r cynllunydd hwnnw (fel y mae ein calonnau, y greadigaeth a’r Gair yn tystio), mae pawb yn gyfrifol iddo. Ac os ydyn ni’n gyfrifol i Dduw, ni allwn ni fyw heb ganlyniadau. Ni all llywodraethwyr elitaidd y Gorllewin basio deddfau anfeiblaidd neu ddathlu ymddygiad annuwiol, heb fod goblygiadau difrifol i hynny. Ni all llywodraeth ailddiffinio moesoldeb a gwerthoedd sylfaenol yn ȏl eu mympwy.
Gwelir ein harweinwyr diwylliannol yr un mor daer i barhau ein caethwasiaeth i bechod, yn gwadu rhesymeg, synnwyr, ac yn gwrthod ymostwng i Dduw. Heddiw fe hyrwyddir nihiliaeth anobeithiol yn lle adnabod Duw, er bod hwnnw’n diffodd pob gobaith am gyflawniad a hapusrwydd ym mywydau miliynau – gwallgofrwydd yn wir.
Anogaeth
Mae gennym reswm i lawenhau. Mae gennym air Duw yn ein meddiant – datguddiad anffaeledig y Creawdwr ei hun –̶ a cham wrth gam, mae Duw ar waith yn prysur danseilio sylfeini esblygiad atheistaidd. Er gwaetha’r argraff a geir ar lefel boblogaidd, mae Duw yn dechrau disodli’r bydolwg anghrediniol sy’n gosod gwyddoniaeth ei hun ar yr orsedd. Gweddïwn y caiff y Creawdwr tragwyddol, y Drindod fendigaid, y clod a’r mawl unwaith eto yn ein gwlad a’n diwylliant,
Mae Tony Eastwood yn aelod yn Eglwys Efengylaidd Talsarnau