Mae’n gas gan y diafol wirionedd, a’i hoff waith yw ymosod ar athrawiaethau’r ffydd Gristnogol. Dyna paham y tynnwyd sylw y tro diwethaf at yr anogaethau niferus i ddiogelu’r ffydd honno. Dyna paham hefyd y ceir llwyth o rybuddion yn y Testament Newydd rhag gau ddysgeidiaeth.
Athrawon gau
Yn y Bregeth ar y Mynydd daw’r rhybudd a ganlyn gan neb llai na’r Arglwydd Iesu ei hun: ‘Gochelwch rhag gau broffwydi, sy’n dod atoch yng ngwisg defaid’ (Math. 7:18), geiriau sy’n ein hatgoffa pa mor hynod debyg y gall y rhai gau fod i’r gwir broffwydi, tebygrwydd sy’n gwneud y twyll yn bosibl. Yn wir, yn ôl Iesu eto, gellir disgwyl y bydd bodolaeth gau broffwydi yn parhau ar hyd y canrifoedd hyd y diwedd: ‘Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer’, a hynny ochr yn ochr â chyhoeddi’r wir efengyl ‘drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd’ (Math. 24:11, 14). Dyna Ioan wedyn, ‘y disgybl annwyl’, sy’n sôn cymaint yn ei Efengyl ac yn ei Epistolau am garu ein gilydd, ef o bawb yn cyflwyno yn gwbl ddigyfaddawd y rhybudd hwn: ‘Gwyliwch eich hunain … Pob un sy’n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo … Os daw rhywun atoch heb ddod â’r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â’i dderbyn i’ch tŷ na’i gyfarch ef …’ (2 Ioan 9-11).
Gellir disgwyl y gau athrawon hyn nid yn unig o’r tu allan, ond hefyd i godi o blith aelodau’r eglwys ei hun. Dyna Paul ar draeth Miletus yn ffarwelio am y tro olaf â henuriaid eglwys Effesus, a’i air olaf iddynt: ‘Mi wn i y daw i’ch plith wedi fy ymadawiad i, fleiddiaid mileinig nad arbedant y praidd, ac y cyfyd o’ch plith chwi eich hunain rai yn llefaru pethau llygredig, i ddenu’r disgyblion ymaith ar eu hôl. Gan hynny, byddwch wyliadwrus …’ (Actau 20: 29-31). Mae’r apostol Pedr yn tanlinellu’r un perygl: ‘ Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau …’ (2 Pedr 2:1). Yr apostol Jwdas wedyn yn dweud bod y rhain ‘wedi llithro’n llechwraidd i’ch plith’ (Jwdas 4).
Mor wahanol yw hyn i osgo goddefgar ein dyddiau ni. Gwaetha’r modd, ni chlywir fawr neb heddiw yn rhybuddio rhag gau ddysgeidiaeth. Mae’r gwahaniaeth rhwng meddylfryd yr Eglwys Fore a syniadaeth nifer helaeth o grefyddwyr heddiw yn syfrdanol. Ers tro byd, nid oes y fath beth ag uniongrededd bellach; mae rhyddid i bawb ei farn yn enw goddefgarwch. Dechreuodd y malltod hwn yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond stori arall yw honno.
Angel goleuni
Fel y nodwyd yn barod, mae a fynno’r diafol â’r sefyllfa drist hon. Noda Paul wrth eglwys Corinth fod ‘ffug apostolion’ yn eu plith, rhai oedd ‘yn ymrithio fel apostolion i Grist’, yn union fel ‘y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.’ Dynion oedd y rhain oedd yn rhoi ar ddeall eu bod, fel y gwir apostolion, wedi eu hanfon gan Dduw i lefaru yn enw Crist, ond y gwir oedd mai gweision Satan oeddent, a oeddent yn sylweddoli hynny ai peidio’ (2 Cor. 11: 13-15). Yna wrth Timotheus sonia am rai yn yr eglwys a oedd yn tynnu’n groes i’r gwirionedd datguddiedig, ac fe briodola’r sefyllfa honno i weithgarwch llechwraidd y diafol. Nid eu bod yn fwriadol yn camarwain gan eu bod o dan y twyll eu hunain. Mae’n cynghori Timotheus i fod yn addfwyn wrth ddisgyblu’r cyfryw: ‘Oherwydd pwy a ŵyr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd, ac na ddônt i’w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a’u rhwydodd a’u caethiwo i’w ewyllys’ (2 Tim. 2:25). Ie, magl, rhwyd, caethiwed.
Mae’n werth sylwi ar 1 Ioan 4:1: ‘Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i’r byd.’ Mae’r cyfeiriad at gau broffwydi yma braidd yn annisgwyl; wedi sôn i gychwyn am brofi’r ysbrydion, byddai dyn yn disgwyl y darlleniad ‘oherwydd y mae gau ysbrydionlawer wedi mynd allan i’r byd’. Ond ‘gau broffwydi’ a enwir, sy’n dangos bod gweithgarwch gau ysbrydion y tu ôl i’r gau broffwydi ac yn eu cymell. Hynny yw, ni ellir esbonio bodolaeth gau broffwydi yn yr eglwys mewn termau dynol yn unig; wrth gefn pob un sy’n cyflwyno gau ddysgeidiaeth, boed bregethwr neu ddiwinydd neu ddarlithydd neu athro ysgol Sul, mae gweithgarwch cudd y diafol a’i ysbrydion.
Angen dirnadaeth
Mae’n dilyn y dylid bod yn effro i’r perygl hwn ac arfer dirnadaeth ysbrydol i ganfod y gwahaniaeth rhwng y gwir a’r gau. Cymeradwywyd eglwys Effesus am wneud hyn. Fe wnaeth yr eglwys honno brofi’r ysbrydion: ‘Gan na elli oddef y rhai drwg, gan dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy’n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy’n gelwyddog’ (Dat. 2:2). Dywed Paul eto ‘Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda.’ (1 Thes.5:21). Yn wir, mae gan bob gwir gredadun fesur helaeth o ddirnadaeth yn y mater hwn. Un o amcanion Ioan wrth ysgrifennu ei epistol oedd atgoffa ei ddarllenwyr fod ganddynt y gallu hwn i wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau: ‘Ysgrifennais hyn atoch ynglŷn â’r
rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn. A chwithau y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i’ch dysgu, ond mae’r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth’ (1 Ioan 2: 2627). ‘Ond amdanoch chwi y mae gennych eneiniad oddi wrth yr Un Sanctaidd, ac yr ydych bawb yn gwybod … yn gwybod hefyd am bob celwydd nad yw o’r gwirionedd’ (1 Ioan 2: 20-21).
Mae gan bob Cristion fesur o eneiniad yr Ysbryd Glan a elwir gan Grist yn ‘Ysbryd y Gwirionedd’, ysbryd a fydd yn arwain ei bobl ‘yn yr holl wirionedd’ (Ioan 16: 13). Eneiniad yw hwn sy’n goleuo’r meddwl ac yn rhoi iddo fesur o allu i synhwyro’n reddfol bron beth sydd o’r gwir a beth sydd yn sawru o heresi. Mae gan y Cristion feddwl a llygaid a chlust a thrwyn newydd !
Wrth gwrs,mae’n bwysig cofio peth arall: ochr yn ochr ag eneiniad yr Ysbryd y mae’r ymlyniad wrth ‘yr hyn a glywsoch o’r dechrau’ (ad. 24), sef pregethu’r apostolion a thystiolaeth yr Hen Destament. Megis y mae eneiniad yr Ysbryd yn oleuni mewnol, mae gair yr Ysgrythur yn sail allanol dros yr hyn a gredwn. A rhwng y ddeubeth hyn – nid un – gellir dirnad i raddau helaeth beth sydd wir a beth sydd gelwydd.