Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

‘Sut ydyn ni fel teulu’n dathlu’r Nadolig’

26 Rhagfyr 2016 | gan Bethan Davies| gan Iwan Davies

Iwan

Fe ddes i ar draws hen lun yn ddiweddar yn nhŷ fy Mam a Nhad. Dyna ble roeddwn i a mop o wallt coch yn eistedd ar lawr tŷ Nain a Taid. Roedd anrhegion Nadolig o’m cwmpas (pob un yn gysylltiedig â chwaraeon yn rhyfedd iawn) a’m llygaid yn dangos yn eithaf clir mod i’n cael diwrnod da. A dyna atgofion plentyndod yn dechrau llifo nôl, busnesa o dan y goeden yn ceisio dyfalu beth oedd yn yr anrheg, rhedeg nôl dros eira Wrecsam i dŷ Nain a Taid i agor anrhegion, a bwyta fel nad oedd fory am ddod. Atgofion hefyd o wingo mewn rhwystredigaeth wrth i Mam a Dad siarad am hydoedd ar ôl capel yn lle gweld pwysigrwydd rhuthro nôl i’r tŷ i agor yr anrhegion!

Tua 6 oeddwn i yn y llun ac mae’r mop o wallt coch wedi hen ddiflannu, tra byddai eistedd ar y llawr i dynnu llun yn golygu ymweliadau cyson â’r ‘chiropractor!’ Wrth i mi ysgrifennu hwn mae yna ddyn bach ar y soffa a gwên plentyn sy’n dathlu ei benblwydd yn 6 oed yfory ar ei wyneb, felly mae’n deg dweud fod bywyd wedi newid. Felly, beth mae’r Nadolig yn ei olygu i fi nawr?

Rhyfeddod

Fel y mwyafrif ohonom dydw i ddim yn anghyfarwydd â manylion hanes y geni ond dyw hyn ddim yn lleihau ar ryfeddod beth ddigwyddodd. Mae meddwl am Dduw yn ein caru ni ddigon i anfon ei fab i fyd pechadurus, brwnt, llawn poen yn anodd iawn i’w ddeall a’i amgyffred ac yn hollol anhygoel. Rwy’ wrth fy modd gyda’r carolau plygain ac mae llinellau megis ‘Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio’ yn crynhoi’r rhyfeddod yn hyfryd.

Amser

Gan fod Beth a fi yn athrawon, mae’r Nadolig hefyd yn dod â gwyliau hir ddisgwyliedig i ni. Ar ôl prysurdeb y tymor, mae treulio amser go iawn gyda ffrindiau, teulu estynedig a’n teulu bach ni yn fendith. Mae gwneud hyn heb boeni am waith y diwrnod wedyn yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy melys.

Cariad

Wrth eistedd yn edrych ar y plant yn agor eu hanrhegion Nadolig mae wastad yn fy nharo i gymaint o gariad mae pobl yn dangos atyn nhw. Mae haelioni teulu a ffrindiau yn rhyfeddol ac yn destun diolchgarwch i Bethan a fi. Ers i’r bechgyn gael eu geni mae gweddïau, cefnogaeth a chariad ymarferol teulu’r ffydd yn ein cywilyddio ac yn esiampl arbennig i ni ei dilyn, nid dim ond ar ddydd Nadolig.

Gobaith

Wrth edrych eto ar y bachgen bach yn y llun, rwy hefyd yn cofio ar adegau siom y Nadolig. Roedd yr holl baratoi ac edrych mlaen yn dod i ben mor gyflym a blwyddyn gyfan arall i ddisgwyl tan y Nadolig nesaf. Does dim llawer ohonom nad ydym wedi cael ein siomi ar ryw ben dros y Nadolig. Dyw’r anrheg ddim bob tro yn bwrw’r nod a dyw beth sydd tu mewn i’r papur lliwgar ddim wastad yn cwrdd â’n disgwyliadau. A pha riant sydd heb gael y profiad o naill ai gweld wyneb yn disgyn wrth i blentyn agor anrheg, neu weld y bocs pacio yn cael mwy o ddefnydd na’r anrheg ddrud oedd ynddo. Felly, diolch byth fod mwy i’n bywydau ni fel Cristnogion nag un diwrnod o ddathlu. Diolch fod ein Duw ni’n gyson bob dydd, ac i grynhoi drwy ddefnyddio geiriau llawer iawn gwell nag y medra i feddwl amdanynt:

‘Diolch byth a chan mil diolch
Diolch tra bo ynof chwyth
Fod gwrthrych teilwng i’w addoli
A thestun cân i bara byth’

Bethan

Dwi wrth fy modd gyda’r Nadolig. Pan oeddwn i’n fach, roeddwn i’n arfer mynd yn sâl gydag asthma ar noswyl y Nadolig oherwydd fy mod mor gyffrous! Erbyn hyn mae prysurdeb bywyd a bod yn fam yn golygu nad oes gena i amser i fod mor gyffrous gan fod diwrnod Nadolig fel arfer yn golygu gwneud y cinio, adeiladu Lego neu chwilio am sgriwdreifer neu fatris ar gyfer agor a chwarae gyda’r teganau newydd! Ond mi rydw i’n dal i fwynhau.

Pan oeddwn i’n llai, beth oedd yn fy nghyffroi fwyaf oedd yr anrhegion, y bwyd, yr hwyl gyda’r teulu a’r amser i ymlacio ond dwi’n cofio un Nadolig pan ddes i adref o’r coleg lle doedd y pethau yna ddim mor bwysig ddim mwy. Yn ystod y flwyddyn yna roeddwn wedi bod ar goll braidd ac yn gwneud y pethau gwirion rydych yn ei wneud pan rydych chi ar goll ond yn ystod yr haf roeddwn wedi teimlo gwir argyhoeddiad o’m pechod ac wedi gwneud tro pedol go iawn yn fy mywyd diolch i ras Duw. Felly, pan ddes i nôl am wyliau’r Nadolig y flwyddyn honno, er fod popeth arall yn dal i’w fwynhau roedd yr oedfa’r bore Nadolig yn bwysicach. Roeddwn i’n cael fy modloni yn llwyr gan Air Duw ac yn rhyfeddu fod Duw wedi anfon ei fab i’r byd yn fabi bach er fy mwyn i. Doedd yr un Nadolig byth yr un peth wedyn.

Erbyn hyn mae’n dal yn anodd dal mlaen i’r un gwirionedd yna yn ystod y Nadolig gyda chymaint o bethau eraill yn llenwi fy amser, mae’n ‘rhaid’ cael anrhegion i bawb, mynd i gyngherddau Nadolig, prynu bwyd, pacio anrhegion, mynd i ymweld â hen ffrindiau a theulu, prynu’r anrhegion i’r plant, eu cuddio, pacio eu hanrhegion, ysgrifennu cardiau Nadolig, cyngerdd carolau’r capel, gwneud mins peis… Ond yr hyn sy’n wych am fod yn Gristion ydy nad y rhain yw’r pethau pwysicaf.

Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethon ni symud tŷ ychydig ddiwrnodau cyn diwrnod Nadolig ac mae’n deg dweud na chawson ni amser i roi’r addurniadau i fyny, doedd gennym ni’r un goeden Nadolig ac fe wnes i siopa bwyd ar noswyl Nadolig. Ond mi roedd popeth yn iawn! Beth ddysgodd hynny i mi oedd nad oedd angen y pethau allanol yna arnom ni nag ar y plant i fedru mwynhau’r wˆyl ac roedd y cysur o wybod nad oedd Duw yn disgwyl i mi wneud rhestr faith o bethau roedd pawb arall yn eu gwneud yn rhyddhad enfawr.

Mae wastad yn demtasiwn i mi eisiau’r Nadolig ‘perffaith’ ond y gwir ydi fod hynny wedi digwydd 2000 o flynyddoedd yn ôl. Diolch byth nad hysbyseb John Lewis oedd hynny ond gwaredwr y byd yn cael ei eni a gwir ddathliad gan yr angylion fod Mab Duw wedi dod i’n hachub. Beth mae Duw eisiau gennym ni fel teulu eleni ydi gwir addoliad a gwybod ein bod yn dal i ryfeddu ac i foli Duw am anfon ei Fab drosom ni. Nadolig Llawen iawn i chi.

Mae Iwan a Bethan Davies yn aelodau yn Eglwys Efengylaidd Caerdydd ac mae ganddynt ddau fab, Cai a Gruff.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
Dathlu Nadolig