Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Rhyfeddod yr ymgnawdoliad

26 Rhagfyr 2016 | gan Gwynn Williams

Mae’r Nadolig yn rhoi cyfle i ni fel Cristnogion ein hatgoffa ein hunain o un o ddigwyddiadau hanesyddol sylfaenol ein ffydd a’n cred, sef genedigaeth yr Arglwydd Iesu Grist.

Mae sawl ymateb yn bosibl i’r digwyddiad gwyrthiol yma. Mae rhai yn hollol anghrediniol, eraill yn gwawdio. I’r saint, geiriau fel diolchgarwch neu lawenydd sydd yn dod i’r meddwl, gan amlaf.  Ond credaf mai yr ymateb mwyaf cymwys i ddechrau o leiaf, yw rhyfeddod llwyr fod y fath beth â genedigaeth Iesu Grist, Mab Duw, ym Methlehem, wedi digwydd o gwbl.

Diddorol yw sylwi ar ba mor aml y trewir y nodyn yma yn ein carolau a’n hemynau Nadoligaidd. Yn nhrydydd pennill y garol ‘Mae gwahoddiad i ni heddiw i gadw gŵyl’ gan Eos Powys mae’r gair ‘rhyfedd’ yn ymddangos saith gwaith:

Gwelwn gariad rhad difesur; O! ryfedd ras!

Ganwyd Ceidwad i bechadur; O! ryfedd ras!

Cadd ei eni o Fari’r forwyn,  Rhoddes laeth ei bron i’w Brenin  Ac a’i daliodd ar ei deulin;

O! ryfedd ras!

Rhyfedd ydoedd ei gnawdoliaeth, Rhyfedd yn ei enedigaeth, Rhyfedd fywyd, a marwolaeth;

O! ryfedd ras!

Yna cofiwn linellau cyfarwydd Ann Griffiths:

Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,

Rhyfeddod mawr yng ngolwg ffydd.

Yna cawn Jane Ellis:

O ddyfnder rhyfeddod

Fe drefnodd y duwdod

Dragwyddol gyfamod i fyw.

A Gwilym Hiraethog:

O holl ryfeddodau’r nefoedd

Dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd.

Ac yna Williams gyda’i bennill:

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef

Hwn oedd y mwyaf  un –

Gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod

Yn gwisgo natur dyn.

Pam nad ydym yn rhyfeddu’n fwy?

Mae sawl rheswm yn bosibl. Yn gyntaf,  dyna’r ffaith ein bod yn orgyfarwydd bellach â’r hanes: clywsom ef droeon o’r  blaen. Ys dywed y Sais: ‘Familiarity breeds contempt’. Yn ail, mae’n bosibl i ni ganolbwyntio ar storïau’r geni – ymweliadau angylion â Mair a Joseff,  y geni mewn preseb ac ymweliad gan fugeiliaid, ymweliad â’r deml a chwrdd â Simeon ac Anna, ymweliad y doethion – yn hytrach na chanolbwyntio ar graidd y mater, sef yr ymgnawdoliad ei hun. Yn drydydd, mae gwasgedd secwlariaeth o’n cwmpas yn tueddu i beri i’n hamgyffred o’r goruwchnaturiol bylu.

Pam dylai geni Iesu Grist achosi cymaint o ryfeddod?

Cawn yr ateb mewn llinell o emyn cynnar a ddyfynnwyd gan Paul yn ei lythyr cyntaf  at Timotheus,  llinell sydd yn mynd â ni at graidd neges y Nadolig:   Ei amlygu ef mewn cnawd(1 Tim.3:16).

Ystyr y gair ‘amlygu’ yw rhywbeth a fu’n guddiedig sydd yn awr wedi dod i’r amlwg. Ond pwy yw  yr ‘ef’ sy’n cael ei ‘amlygu’? Mae’r gair yn amlwg yn cyfeirio at un oedd yn bodoli cyn ei ymddangosiad mewn cnawd. Cawn  wirionedd tebyg mewn ysgrythurau eraill. Yn Ioan 1:1 dywedir bod y Gair yn y dechreuad, ei fod gyda Duw ac mai ‘ Duw oedd y Gair’, ac yn Ioan 1:14 disgrifir y Gair yn dod ‘yn gnawd’. Mae Ioan 3:16 yn sôn am Dduw  yn danfon ei unig-anedig Fab. Pwy yw’r person hwn felly?   Ail berson y Drindod. Nid un sydd wedi ei greu ond un a genhedlwyd yn nhragwyddoldeb, Mab tragwyddol y Tad tragwyddol. Mae hyn yn mynd â ni yn syth i fyd y goruwchnaturiol. Nid byd Richard Dawkins mo hwn. Ac efallai fod ein diffyg rhyfeddu i’w briodoli i’r ffaith ein bod yn yr isymwybod yn gwthio hyn i’r cefndir.

Beth sy’n wir amdano felly, y Mab Duw yma?  Mae’n ysbryd tragwyddol: ysbryd yw Duw, ysbryd yw yr Ysbryd Glân ac ysbryd yw ail berson y Drindod hefyd. Gan ei fod yn meddu ar dduwdod mae felly yn hollalluog, yn hollwybodol ac yn hollbresennol. Mae wedi trigo ym mherffeithrwydd presenoldeb y Tad a’r Ysbryd Glan ers y dechrau. Fe’n dysgir hefyd mai trwyddo ef y crewyd pob peth ac mai ynddo ef  y cynhelir yr holl fydysawd yn ei le. Dyma Fab Duw oedd yn bodoli cyn Bethlehem. Beth sy’n atal ein rhyfeddod?  Ai am fod ein hamgyffred o ogoniant y Mab cyn Bethlehem wedi pylu rhywfaint?

Mae’r gair ‘cnawd’ yn cyfeirio at y natur ddynol sy’n cynnwys y corff a’r meddwl. Beth sydd yn digwydd felly yw bod yr un tragwyddol yn ymddangos mewn dyndod. Hynny yw, mae’n ychwanegu dyndod at ei dduwdod. O’r herwydd, ac yntau’n wir ddyn, gall rannu holl brofiadau dynolryw – cael ei genhedlu; profiadau yn y groth; genedigaeth; bod yn faban; plentyndod; arddegau ac yn  y blaen.

A yw hyn yn gwneud i ni ryfeddu?

Ystyrier am foment beth oedd hyn yn ei olygu i’r Mab. Beth oedd yn ei olygu i Fab Duw sydd, fel y gwelwyd, yn wir Dduw, ei gyfyngu ei hun i ffurf dyn. Mae’r cyferbyniadau yn llu onid ydynt? Ysbryd yn gaeth i gorff. Un sydd yn hollbresennol yn cael ei gyfyngu i un lle. Un sydd yn hollwybodol yn gorfod dysgu siarad, cyfrif a dysgu sut mae byw. Un sydd yn hollalluog â nerth corff  baban. Un yn cael ei amgylchu â byd o bechod a drygioni yn hytrach na pherffeithrwydd nefoedd.

Yn Philipiaid 2:6-8, disgrifir hyn fel darostyngiad – mae yn ei ddarostwng ei hun i’r cyflwr yma o ychwanegu dyndod at ei dduwdod. Hynny yw, roedd pris i’w dalu iddo ef yn hyn i gyd. Felly cawn y ddwy natur yma yn yr un person Iesu Grist, y Duw-ddyn. Nawr onid rhyfeddod yw hyn, sef  bod Mab Duw yn ei ddarostwng ei hun i’r cyflwr dynol o gwbl?

Rheswm arall dros ryfeddu

Pam y daeth ef yn y cnawd? Dywed Crist mai’r rheswm y daeth ef  i’r byd oedd ‘i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer’ (Marc 10:45).  Mae wedi dod i’r cyflwr dynol yma fel y gall, trwy farwolaeth, dalu pris pechodau llawer. A dyna pam, wrth gwrs, y mae’r carolau plygain yn symud ymlaen o ryfeddod yr ymgnawdoliad at ei farwolaeth. Pwrpas yr ymgnawdoliad, sydd yn rhyfeddod ynddo ei hun, yw y rhyfeddod pellach mai dyma yw cynllun achubiaeth Duw, a hynny yn cael ei gyflawni trwy farwolaeth Crist ar groes.

Boed i Dduw ein helpu y Nadolig hwn i ryfeddu at beth ddigwyddodd a boed i’n rhyfeddod droi yn ddiolchgarwch, ac allan o’r diolchgarwach hwnnw fe gyfyd ein llawenydd.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF