Wrth feddwl am Dafydd y darlun a gawn ohono’n bennaf yw am un oedd yn fugail, cerddor a brenin. Ond yn duo’r darlun hwn mae un oedd hefyd yn gelwyddwr, godinebwr a llofruddiwr. Nid yw’r Beibl yn cuddio diffygion Dafydd. Eto fe’i cofir yn un oedd wrth fodd calon Duw (1 Samuel 13:14 cf. Actau 13:22).
Yn fwy na dim yr oedd gan Dafydd ymddiriedaeth lwyr yn ffyddlondeb Duw i faddau iddo. Pechodd sawl gwaith ond yr oedd yn ofalus i gyffesu ei bechod. Ni chymerodd faddeuant Duw yn ganiataol ond gorfoleddodd yn ei bardwn.
Er i Dafydd bechu’n fawr eto ni wnaeth y pechodau hynny eto. Dysgodd i’w hosgoi trwy’r dioddefaint a ddaeth yn eu sgil. Mae Duw yn maddau pechod ond gall y canlyniadau niweidio ein bywyd.
O ran gwaith gwaredigol Duw fe welwn fod pobl Israel erbyn hyn wedi setlo yng ngwlad Canaan yn ôl addewid y cyfamod a wnaeth Duw ag Abraham (Gen. 12:1-3), Isaac (Gen. 26:2-5) a Jacob (Gen. 28:13-5). Gwnaeth Duw gyfamod â Dafydd i sicrhau teyrnasiad ei linach ar frenhiniaeth Israel yn dragwyddol (1 Samuel 7:16). Yn ei fab Solomon fe wireddwyd y cyfamod a wnaeth Duw â’r patriarchiaid (1 Brenhinoedd 4:20-1) ac fe barhawyd â’r cyfamod a wnaeth Duw â Dafydd. Daeth y cyfamodau hyn i’w pen llanw yn Iesu Grist, Mab Dafydd (Luc 1:32/55). Cryfderau
Cryfderau
- Brenin mwyaf Israel
- Cyndad i Iesu Grist
- Dyn yn ôl calon Duw
Gwendidau
- Cyflawnodd odineb â Bathseba
- Trefnodd lofruddiaeth Ureia, gŵr Bathseba
- Anufuddhaodd i Dduw trwy gymryd cyfrifiad o’r boblogaeth
- Ni ddeliodd yn gadarn â phechodau’i blant
Gwersi
- Mae angen cydnabod ein camgymeriadau cyn delio â nhw
- Nid yw maddeuant yn hepgor canlyniadau pechod
- Mae Duw yn dymuno ein hymddiriedaeth lwyr ynddo
Ffeithiau
- Lleoliad:Bethlehem a Jerwsalem
- Gwaith: Bugail, cerddor, bardd, milwr a brenin
- Perthnasau: Tad – Jesse; brodyr – saith ohonynt nhw; gwragedd – Michal, Ahinoam, Bathseba, Abigail ac eraill; meibion – Amnon, Absalom, Solomon, Adoneia ac eraill; merched – Tamar ac eraill
- Cyfoeswyr: Saul, Jonathan, Samuel a Nathan
- Mae’r enw Dafydd o bosibl yn golygu pennaeth
Adnodau:
- 2 Samuel 7:18-29;
- Mathew 1:1 a 22:41-6;
- Hebreaid 11:32;
- Datguddiad 22:16