Anodd credu bod bron i ddeuddeg mis wedi pasio ers Christmas Special Strictly Come Dancing 2015… mae’r Nadolig yma! Cyfnod y sanau, siocled a Siôn Corn; y celyn, y coginio a’r canu. A’r adeg o’r flwyddyn pan fydd y wlad yn cymryd seibiant (am ddiwrnod) er mwyn dathlu, mwynhau a threulio amser gyda’r teulu. Mae hefyd yn gyfnod pan fydd miloedd o bobl yn mynd ar eu pererindod flynyddol i’r capel neu eglwys. Ydi, mae’r Nadolig yn parhau i fod yn gyfle gwych i ddenu pobl i mewn i’n heglwysi.
Ein gwaith ni, wrth gwrs, yw dangos nad traddodiad neu ddathliad direswm yw’r Nadolig. Dylem wneud pob dim yn ein gallu i ddangos realiti geni’r Gwaredwr: Duw yn dod yn ddyn i achub ac adfer dynoliaeth wrthryfelgar a drygionus.
Wrth ystyried cyrraedd pobl gyda newyddion da Iesu, un o’r breintiau mawr o weithio i’r Mudiad yw’r cyfle i weld a dysgu gan gymaint o bobl a sefyllfaoedd gwahanol.
Dyma felly geisio rhannu rhai pethau sydd wedi fy nharo i yn ddiweddar yn y gobaith y byddan nhw yn gymorth i chi yn y sefyllfa y mae Duw wedi eich rhoi chi ynddi.
Rhaid sicrhau nad ydym yn cael ein dallu i’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas.
Yng nghanol y fateroliaeth a’r dathlu, mae’n hawdd colli golwg ar anghenion pobl. Yn ei lyfr diweddar nododd David Ollerton fod eglwysi’r efengyl sy’n helpu pobl yn eu cymdeithas drwy fanciau bwyd ac ati, yn gweld mwy o dyfiant (efallai am fod pobl yn gweld realiti’r efengyl ar waith?).
Rhaid bod yn ofalus rhag cymryd yn ganiataol fod pobl a phlant yn gwrando yn ein gwasanaethau Nadolig.
Ym meddwl cymaint o Gymry mae’r Nadolig yn rhywbeth traddodiadol hudolus, ac maen nhw’n disgwyl clywed am hanes y geni a chanu’r hen garolau mewn gwasanaeth Nadolig. Mae gwir bosibilrwydd y bydd mynychwyr yn eistedd mewn gwasanaeth, yn mwynhau’r cyfan wrth gael eu mwytho yn eu hanghrediniaeth a thraddodiad heb wir ystyried na gwrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud. Mae gwaith yr Ysbryd, ac o’r herwydd gweddi, yn amlwg yn hanfodol, ond rhaid i ni hefyd fod yn bwrpasol a chlir yn ein neges. Rhaid peidio â defnyddio jargon Gristnogol na rhoi i bobl yr hyn maen nhw’n ei ddisgwyl! Beth yn hytrach am chwilio am ffyrdd ffres o gyflwyno’r neges y Nadolig a gwneud ein gorau i ddangos realiti Duw drwy gysylltu’r cyfan gyda bywyd heddiw?
Rhaid bod yn onest a real.
Hanfod y ffydd Gristnogol yw perthynas â Duw, ac mae’n rhywbeth personol sy’n delio â’n hanghenion dyfnaf. Does dim un rhan o fywyd y Cristion nad yw Duw yn cael effaith wirioneddol arni; boed yn talu’r biliau, ansicrwydd am swydd, gobaith am flwyddyn arall neu angen am gyfeillgarwch. Ein tystiolaeth yw bod yr efengyl, ac yn fwy arbennig Iesu, wedi ateb a diwallu’n holl anghenion a rhoi gobaith yn wyneb pob problem – mae’n wir wedi rhoi bywyd newydd i ni. A dyma beth mae pobl angen ei glywed gan mai’r un anghenion sydd gan bawb – fel mae Yws Gwynedd yn dweud yn ei gân ‘Sebona fi’: ‘A cofia’r un hen betha sydd yn poeni pawb, Ond pridd yn y pendraw yda ni’. Rhaid gwneud pob ymdrech i gyfathrebu gwirioneddau’r ffydd fel realiti yn hytrach na mewn darluniau haniaethol a thraddodiadol. Yn ein dyddiau ni pan mae cymaint wedi cefnu ar Gristnogaeth mae angen i bobl weld pŵer yr efengyl ar waith ac mae’r Nadolig yn gyfle gwych i wneud hynny. Boed yn ychwanegu tystiolaeth fel rhan o wasanaeth carolau, cynnig cymorth ymarferol yn lle rhoi gwahoddiad neu fod yn onest gyda chymydog am bwysau pethau dros gyfnod yr ‘Wŷl’.
Dyma’r sialens felly i ni. Ac wrth i ni felly baratoi am y Nadolig, gadewch i ni gymryd pob cyfle i dynnu sylw at ein Gwaredwr a ddaeth yn berson real i ddelio â realiti ein bywyd ni.