1. Sut dest ti’n Gristion?
Er i fi gael fy magu mewn teulu Cristnogol a chael fy magu yn Seion, Baker Street, Aberystwyth, fe wnes i benderfynu dilyn fy ffrindiau a gadael yr Ysgol Sul yn 13 mlwydd oed. Roedd hi’n 18 arna i’n mynd i’r capel yn rheolaidd, ar ôl symud i Abertawe. O dan weinidogaeth Derek Rees yng Nghapel Gomer y des i’n Gristion. Yn maes parcio Ysgol y Berwyn yn y Bala fe wnes i gyffesu fy mhechodau a chyffesu Iesu Grist yn Arglwydd a Gwaredwr.
2. Rwyt ti’n yn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth. Ers pryd wyt ti wedi teimlo galwad i’r gwaith?
Roedd yn broses araf iawn; doedd dim ‘un foment’ dwi’n gallu cofio pryd gwnes i deimlo galwad. Cyfres o bethau ddaeth â fi i bwynt lle roeddwn i’n teimlo fel nad oeddwn i’n gallu gwneud dim byd arall. O dan arweiniad Derek cefais y cyfle i agor y Gair mewn astudiaeth a rhannu’r efengyl mewn gwahanol glybiau plant a phregethu. Fe wnaeth hyn arwain at flwyddyn o hyfforddiant o dan gynllun DAWN Cymru ac ar ôl llawer o weddïo teimlais mai dyma oedd Duw wedi fy ngalw i’w wneud.
3. Pa gyngor fyddet ti’n rhoi i berson sy’n teimlo galwad i’r weinidogaeth?
Gweddïwch am sicrwydd gan Dduw am yr alwad a gwnewch yn siŵr mai galwad gan Dduw ydyw. Fe es i am gyfnod hir yn amau’r alwad ac wedyn ar ôl teimlo galwad, fe es i am gyfnod yn meddwl mai fi oedd wedi fy ngalw fy hunan. Doeddwn i ddim wedi gweddïo digon. Ewch i siarad â’ch gweinidog neu’r arweinwyr yn yr eglwys. Un o’r pethau sydd wedi helpu fi yw’r cadarnhad sydd wedi dod wrth Gristnogion sydd yn fwy aeddfed na fi.
4. Beth wyt ti’n ei wneud i ymlacio?
Dwi’n ffan mawr o bêl-droed, ac yn gwylio fy hoff dîm i (Chelsea) ar y teledu yn aml, boed yn gêm yn y Premier League neu Champions League. Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth ac yn aml yn gwrando ar wahanol genres yn y tŷ neu mewn gig.
5. Pwy yw dy arwr yn hanes yr eglwys?
Un dyn sydd wedi cael dylanwad mawr arna i yw Andrew Fuller. Roedd Fuller yn un o’r 12 gweinidog a ddechreuodd y BMS mewn cyfnod pan oedd amryw o ddadleuon diwinyddol. Mae’n dangos, drwy’r Beibl, sut mae cysoni Athrawiaeth a Chenhadaeth. ‘For the sake of the life of the church and the salvation of the nations, Fuller took up the battle for truth’ –John Piper. Roedd yn ddyn oedd yn gweithio yn galed yn ymarferol, ond doedd hyn byth ar draul astudio’r Gair yn ddwfn. Dyma mae Fuller yn ei ddweud mewn un weddi yn ei weithiau –‘Lord, thou hast given me a determination to take up no principle at second-hand; but to search for everything at the pure fountain of thy Word.’ A dyna un o’r rhesymau pwysicaf dros ddarllen Fuller –mae’n Feiblaidd.
6. Beth yw dy hoff emyn?
Dyrchafodd Crist o waelod bedd goruwch y nefoedd wen, lle’r eistedd ar orseddfainc hedd, a’i goron ar ei ben. ‘Yr Oen a laddwyd, teilwng yw!’ medd holl dafodau’r nef; ac uned pob creadur byw i’w foli ag uchel lef. Am iddo oddef marwol glwy’ a’n prynu drwy ei waed, caiff holl goronau’r nefoedd mwy eu bwrw wrth ei draed. Boed peraroglau’i enw drud yn llenwi daear lawr, a chladder enwau’r byd i gyd yn enw Iesu mawr. (Gwilym Hiraethog)
7. Sut gallwn ni weddïo amdanat ti?
Yn dilyn cwrs DAWN, dwi wedi teimlo Duw yn galw fi i fynd ymlaen gyda fy hyfforddiant yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd. Ga i ofyn i chi weddïo y bydda i’n ffyddlon i Iesu Grist ym mhopeth dwi’n ei wneud. Gofynnwch y bydd yr Ysbryd Glân yn rhoi doethineb i fi wybod beth sydd yn gywir a gras wrth drafod y ffydd gyda gwahanol bobl.