Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Haf gerllaw – Hanes ‘O Deued Pob Cristion’

26 Rhagfyr 2016 | gan Cynan Llwyd

Yng nghanol y gaeaf, rwyf am drafod yr haf. Yn 1840 cyhoeddwyd trydydd argraffiad ‘Casgliad o hymnau, carolau, a marwnadau, a gyfansoddwyd ar amrywiol achosion’. Jane Elis oedd awdures y casgliad, un o’r criw bychan iawn o ferched a gyhoeddodd gyfrol lenyddol Gymraeg cyn canol y 19eg. Ceir pedair carol blygain yn y gyfrol hon gan Jane Elis, gyda ‘O deued pob Cristion’, ei charol enwocaf, yn eu plith.

Recordiwyd y garol am y tro gyntaf ym 1910 gan Ruth Herbert Lewis, gwraig John Herbert Lewis, ac fe’i cofnodwyd yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1919. Y cantor y tro hwn oedd Mr Robert Jones, Croes-wian, Caerwys. Nid oedd prinder pobl i berfformio’r gân, gan fod cymaint o drigolion Caerwys yn cofio’u rhieni’n canu’r garol. (Roedd Mr Jones y cantor yn briod â Lucy Jones, un o forwynion Ruth Herbert Lewis).

Wrth ystyried y recordiad hwn fe wynebwn broblem. Roedd y fersiwn a recordiodd Mr Jones yn 1919 yn wahanol i fersiwn Jane Elis o’i chasgliad (a fersiwn Ruth Herbert Lewis yn 1910 sy’n debyg i’r gwreiddiol). Mae’n debyg mai anghofio geiriau a threfn llinellau a wnaeth Mr Jones. Ond sut gallwn esbonio’r ffaith fod ein fersiwn ni o’r garol (fel y’i chyhoeddwyd yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd,1921; Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd,1927; a Caneuon Ffydd, 2001, yn gwbl wahanol?

Dyma bennill cyntaf fersiwn 1840 (y gwreiddiol):

O deued pob Cristion, cewch gennyf gysuron,
Cydganwn o galon i gyd
O glod i’r Mab bychan fu ar liniau Mair wiwlan,
Daeth Duwdod mewn baban i’r byd;
O ddyfnder rhyfeddod! O drefen y Duwdod!
Tragwyddol gyfamod a fu!
I agor ffordd rasol i achub ei bobl
‘Mostyngodd Duw freiniol oedd fry:
‘Mostyngodd mor isel dan wreiddyn ein llygredd
Nes dyfod a’i agwedd fel gwas;
Er llwyted y llety, er gwaeled y gwely,
Fe anwyd yr Iesu trwy ras.

Mae carol Jane Elis yn dilyn traddodiad y Methodistiaid. Roedd Jane wedi eistedd o dan weinidogaeth Thomas Charles rhwng 1805 a’i farwolaeth yn 1814 ac o dan sêl bendith y ‘brodyr’ yn y Bala cyhoeddodd Jane yr argraffiad cyntaf yn 1816. Iesu Grist fel Gwaredwr y Byd yw canolbwynt y canu. Iesu Grist yw testun mawl y Methodist ac yma canolbwyntir ar ryfeddod y geni gwyrthiol, sef fod Duw wedi dod i’r byd a’r ffurf baban. Yn dilyn traddodiad carolau plygain, yr hyn a wna Jane Elis wedi hynny yw adrodd hanes bywyd Iesu Grist, gan gynnwys ei wyrthiau, ei Groeshoelio a’i Atgyfodiad gan orffen â galwad i addoli Iesu Grist am iddo ein gwaredu o’n heuogrwydd ac ennill heddwch tragwyddol inni:

Rhown glod yn dragywydd, daeth hanes ein Harglwydd
Mewn Testament Newydd i ni;
Mae seintiau, angylion, ceriwbiaid ‘run moddion,
Yn moli’r Iôr cyfion, Dduw Tri;
Dymunwn o galon gael meddu’r un moddion
I foli Duw’n ffyddlon drwy ffydd.
O dyro inni adnabod, er camwedd, fod cymod
Trwy’n Priod cyn darfod ein dydd,
I glirio ein heuogrwydd sy’n boen inni beunydd;
Ein Llywydd o tu draw i’r llen,
Mae hedd yn ei haeddiant, rhoi iddo’r gogoniant
Mae miloedd mewn moliant. Amen.

Pregeth ar ffurf penillion yw carolau plygain a gweithredant yn gyffesion ffydd a gwersi y gall yr anllythrennog a’r annysgedig eu dysgu ar y cof oherwydd y rhythm a’r odlau.

Er mor arbennig yw geiriau Jane Elis, mae’r geiriau uchod yn anghyfarwydd iawn i ni heddiw. Y geiriau cyfarwydd yw’r canlynol:

O deued pob Cristion i Fethlem yr awron
I weled mor dirion yw’n Duw;
O ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod
Dragwyddol gyfamod i fyw:
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
Er symud ein penyd a’n pwn;
Heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd hwn,
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,
Daeth Duwdod mewn baban i’n byd:
Ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn
A throsto ef gweithiwn i gyd.

Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
Yn aelwyd gyfannedd i fyw;
Ni fegir cenfigen, na chynnwrf na chynnen,
Dan goron bydd diben ein Duw.
Yn frodyr i’n gilydd, drigolion y gwledydd,
Cawn rodio yn hafddydd y nef;
Ein disgwyl yn Salem i ganu yr anthem
Ddechreuwyd ym Methlem, mae Ef.
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,
Daeth Duwdod mewn baban i’n byd:
Ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn
A throsto ef gweithiwn i gyd.

Mae’r gwahaniaeth yn syfrdanol, ac mae penderfyniad y llyfrau emynau i nodi Jane Elis yn awdur y geiriau uchod yn rhyfedd. Ni wn pwy oedd awdur y geiriau ardderchog uchod. Maent wedi dod yn annwyl i ni adeg y Nadolig, ac mae’r neges yn fendigedig – ond nid geiriau Jane Elis ydynt! Mae geiriau’r pennill cyntaf yn lled debyg i garol Jane Elis ond mae geiriau’r ail bennill yn wahanol iawn – a’r pennill hwnnw rwyf am ei drafod yn yr erthygl hon.

Pwy bynnag oedd yr awdur, roedd yn arddel y gred mai rhywbeth i’w ddisgwyl yn yr oes bresennol oedd y Milflwyddiant (Datguddiad 20:1-6), sef Oes Aur heddychlon neu Baradwys daearol, cyn ailddyfodiad Iesu (hynny yw, athrawiaeth ôl-filenaraidd). Dyma ‘hafddydd y nef’ yr awdur (nid sôn am y nefoedd a daear newydd a wna yma, er bod modd dehongli’r geiriau fel hynny). Roedd yr awdur o’r farn fod hanes dynoliaeth a’r greadigaeth yn symud tuag at uchafbwynt gogoneddus pan fydd yr efengyl Gristnogol yn teyrnasu ledled y byd gan arwain at fyd o heddwch, cyfiawnder a rhyddid ble ‘Ni fegir cenfigen, na chynnwrf na chynnen’.

Dyma farn a oedd yn boblogaidd yn Lloegr adeg y Piwritaniaid, ers y 1640au, ond ni ddaeth yn gred boblogaidd yng Nghymru nes diwedd y 1740au pan obeithiodd William Williams weld sefydlu’r Milflwyddiant yn yr oes bresennol. Soniai mewn llythyr at Howell Harris yn 1745, yn Pantheologia (1762-1778) ac yn 1774 wrth fyfyrio ar yr Aurora Borealis am ddyfodiad buan y Milflwyddiant:

Nid allaf lai nag edrych arno megis un o’r rhyfeddodau mwyaf ac a welwyd ar wybr Duw erioed; ac yn rhyw arwydd arbennig o ryw bethau mawrion ag sydd i ddyfod; nid o flaen triadau yn y byd naturiol, megis terfysgiadau rhwng brenhinoedd y ddaear, rhyfeloedd, a dinystr dinasoedd a gwledydd mawrion; ond yn rhyw arwydd neilltuol o helaethu terfynau Efengyl Crist, ac o lwyddiant y gair yn y dyddiau diwethaf; cwymp anghrist, galwad yr Iuddewon, dinistr hollol Paganiaeth, a Mahometaniaeth; a gosodiad i fynu o deyrnas Crist tros wyneb yr holl fyd (tt. 4-5).

Geiriau Iesu Grist yn Mathew 24 sydd gan Williams mewn cof yma. Dylid disgwyl gweld cyflawni pethau arbennig cyn ailddyfodiad Iesu Grist, ac i Williams, ac awdur y garol dan sylw, mae sefydlu’r Milflwyddiant yn un ohonynt a law yn llaw â’r milflwyddiant dylid disgwyl gweld llwyddiant rhyngwladol i’r efengyl a fydd yn cynnwys tröedigaeth yr Iddewon a dinistr paganiaeth ac Islam. Roedd Williams ac awdur ‘O deued pob Cristion’ yn hyderus y cânt weld sefydlu’r Milflwyddiant. O ganlyniad i lwyddiant anhygoel yr efengyl ceir newidiadau sylfaenol yn y byd pan fydd ‘trigolion y gwledydd’ yn ‘frodyr i’w gilydd’.

Pa ddaliadau bynnag sydd gennym am y Milflwyddiant, mae neges y garol yn blaen. Mewn oes ble mae casineb ar sail tras a chrefydd ar gynnydd a phleidiau gwleidyddol yn manteisio ar ofnau pobl, mae’n bwysig cofio neges syml yr efengyl: nid oes neb yn waeth na’r llall, rydym oll yn bechaduriaid. Serch hynny, rydym oll yn werthfawr, bu Iesu Grist farw drosom. O fyw allan yr efengyl gan garu cymydog gallwn dystio i gariad Duw a sefydlu heddwch a chyfiawnder yn ein cymdeithas yn lle rhyfel a chasineb. A ydym y Nadolig hwn yn barod, gyda Williams i ‘gredu bod haf gerllaw. Ac am i’r haul frysio nesáu attom’ (1744, t. 24)?

Mae Cynan Llwyd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn addoli yn Ebeneser, Caerdydd

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF