Ym mis Medi eleni bu Eglwysi Efengylaidd Heol Malpas ac Emmanuel, Casnewydd yn dathlu blwyddyn o gydweithio a phartneriaeth â ‘Christians against poverty’ (CAP)
Neil Jenkins yw ein gweithiwr rhan-amser a bu’n ddiwyd yn ystod y flwyddyn yn cynllunio, cysylltu a chydweithio â CAP ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol wrth sefydlu canolfan CAP yma yn y ddinas. Cafwyd cyfarfodydd gweddi i arweinwyr ac aelodau’r ddwy eglwys a rhoddion ariannol yn flaenoriaeth er mwyn dechrau’r fenter a’i chynnal gydol y flwyddyn. Trwy hysbysu gwahanol asiantaethau yn y gymuned am fodolaeth a gwasanaeth CAP mae Neil wedi medru cysylltu â nifer o bobl ar draws y ddinas sy’n wynebu trafferthion ariannol a baich dyled, a hynny’n esgor ar broblemau lu eraill.
O’r ymweliad cyntaf mae pob person sy’n ymwneud â CAP yn gwybod am natur Gristnogol yr elusen ac maent yn derbyn llenyddiaeth sy’n cynnwys cymorth ymarferol ac ysbrydol. Mae Neil yn cynnig gweddïo gyda phob person ac mae ganddo’r rhyddid i sôn am yr eglwysi a’u gweinidogaethau. Mae nifer wedi ymateb i groeso y naill eglwys neu’r llall ac mae perthynas wedi ei chreu â rhai. Gweddïwn am fwy o ymateb i’r Un a dalodd holl swm ein dyled ar groes Calfaria. Mae’n cymryd amser ac egni i godi pontydd cyfeillgarwch wrth symud ymlaen i gynorthwyo, cynghori penodol ynglŷn â dyled a chynnig cefnogaeth i unigolion a theuluoedd.
Dechreuadau
Dechreuwyd y broses i ni yn eglwys ym Malpas gyda chyfres fer o bregethau ac astudiaethau ar y thema ‘Datgan a Dangos Trugaredd Duw.’ Cawsom gipolwg ar un o briodoleddau mwyaf ysblennydd ein Duw wrth iddo ef ei hun ddangos ei drugaredd anhygoel i’w bobl annheilwng yn yr Hen Destament. Wedyn yn y cyfamod newydd i genhedloedd a phobloedd ledled y byd yn a thrwy yr Arglwydd Iesu. Clywsom, trwy’r Efengylau, anogaeth Iesu ei hun i ni fod yn drugarog a thosturiol wrth gyd-ddyn a gelyn. Daeth yr her yn glir wrth fyfyrio ar ddameg y Samariad Trugarog: ‘Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”’ (Luc 10:37). Buom yn meddwl am y naw rheswm a roddir gan y Piwritan Thomas Watson i ni fod yn drugarog, ac ymdriniaeth fanwl a Beiblaidd Tim Keller yn ei lyfr cynhwysfawr, Mercy Ministries: The call of the Jericho Road.
Partneriaeth â CAP oedd y cam ymarferol nesaf. Roedd profiad, arbenigedd a strwythurau cydnabyddedig CAP yn eu lle yn barod, ac mae cydweithio ag eglwys leol arall yn y ddinas wedi dyfnhau ein cymdeithas a’n hundeb gweledol yn yr efengyl.
Christians Against Poverty
Eleni mae CAP yn dathlu 20 mlynedd o wasanaeth yn y maes anghenus hwn. Wrth galon gweledigaeth CAP mae’r baich dros wasanaethu’r tlawd a rhannu’r newyddion da sy’n achub pobl. Mae CAP yn anelu at agor canolfannau mewn eglwysi lleol i gynorthwyo rhai mewn dyled, ond mae’r weledigaeth yn ehangach na hyn; maent hefyd cynnal clybiau gwaith, grwpiau cynghori a Sgiliau Bywyd a Chwrs Rheoli Arian yn y canolfannau. Y nod yw bod pob aelod o’r tîm yn Gristion ac yn aelod mewn eglwys leol. Mae’r cwrs Rheoli Arian yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion, colegau, carchardai a grwpiau capel, ac mae hefyd yn gwrs da i barau wrth baratoi am briodas.
Mae 19 o ganolfannau CAP yng Nghymru (305 trwy Brydain). Caernarfon, Cas-gwent, Casnewydd, Risga, Torfaen, Y Fenni, Merthyr Tudful, Cwm Rhymni, Pontypridd, Dwyrain Caerdydd, De Caerdydd, Y Fro, Pen-y-bont, Abercynffig, Port Talbot, Abertawe, Dwyrain Caerfyrddin, De Penfro a Wrecsam.
Meddai Nathan Davies, cyfarwyddwr CAP yma yng Nghymru –
‘Mae’r Arglwydd Iesu ar waith yng Nghymru yn adeiladu ei Eglwys. Yma yn CAP Cymru rydym yn clywed am rai sy’n cael eu rhyddhau o ddyled, yn dod o hyd i waith a rhyddhad o gaethiwed cyffuriau ac alcohol. Mae nifer yn dysgu sgiliau bywyd a gwaith. Daeth rhai i brofiad o ras achubol yn yr Iesu ac maen nhw’n ymaelodi mewn eglwysi. Rwy’n gobeithio gweld gweinidogaeth CAP yn cynyddu ledled Cymru lle mae cymaint o alar a loes yn ein cymunedau. Rwy’n dyheu am weld llawer mwy yn dod i glyw’r efengyl yn sgil cysylltiad ag eglwys leol ac yn elwa o gymorth ymarferol CAP.’
Mae gan Nathan weledigaeth o weld eglwysi yn cydweithio â CAP er mwyn sefydlu canolfannau yn y mannau canlynol –Caerffili, Cwm Cynon, Cwm Rhondda, De Rhondda Cynon Taf, Penarth, Maesteg, Caerfyrddin, Canol Powys, Gogledd Powys, Aberteifi, Gogledd Penfro, Aberystwyth, Penllyn, Sir Fôn, Fflint, Conwy, Dinbych; ail ganolfannau posibl yng Nghasnewydd, Abertawe; a thrydydd yng Nghaerdydd, oherwydd maint y boblogaeth yn y dinasoedd.
Gweddïwn am wireddu’r freuddwyd yn un ffordd o ymateb yn ymarferol a bwriadol Gristnogol wrth ddangos tosturi a thrugaredd ein Harglwydd a’n Gwaredwr.
9 rheswm pam y dylai’r eglwys ymwneud â’r gymdeithas yn drugarog
(o lyfr Thomas Watson, The Beatitudes, Banner of Truth )
- 1. Rydym wedi ein creu i weithredoedd da. Mae trugarhau yn weithred dda.
- 2. Ymdebygu i Dduw: ‘fel y mae eich Tad yn drugarog’.
- 3. Mae gwaith elusennol yn aberthol ac yn wasanaeth cymeradwy.
- 4. Mae pawb ohonom yn dibynnu ar haelioni eraill – ac un arall – Duw.
- 5. Rhannu am ein bod yn aelodau i’n gilydd –perthyn
- 6. Rydym i fod yn stiwardiaid da a bydd rhaid rhoi cyfrif yn y diwedd.
- 7. Esiampl eraill yn ysgogiad…yn arbennig esiampl Crist.
- 8. Mae peidio â thrugarhau yn bechod.
- 9. Ystyriwch y wobr… ‘Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd’ (Mathew 5:7). Mae cysylltiad annatod rhwng bod yn drugarog a derbyn trugaredd.