Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Edrych yn ôl: Crist a Chredo’r Apostolion

26 Rhagfyr 2016 | gan Geraint Lloyd

Mewn cyfweliad ar raglen Radio Wales**, All Things Considered, gwnaeth yr awdur a’r siaradwyr Americanaidd poblogaidd, Brian McLaren, a fagwyd yn Gristion efengylaidd, y sylw bod angen i’r Eglwys symud ymlaen o gredoau’r gorffennol, rhag ofn iddi fynd yn debyg i rywun sy’n gyrru car a’i lygaid yn gaeth ar y drych ôl.1 Tybed a oes unrhyw un sy’n darllen y geiriau hyn sy’n teimlo’r un peth? Os felly, gall y Nadolig deimlo braidd yn chwithig. Onid edrych yn ôl a wnawn ni, yn rhannol o leiaf, dros yr Ŵyl?

Wrth ystyried geiriau Brian McLaren, cawn wers am gyfyngiadau eglurebau. I ba raddau mae’r bywyd Cristnogol yn debyg i yrru car? Mae gyrrwr yn edrych yn y drych ôl i osgoi damweiniau. Edrycha’r Cristion yn ôl am fod ganddo Waredwr sy’n berson hanesyddol, a ddaeth ar amser arbennig, i le arbennig, mewn ffordd arbennig (Gal. 4:4). Rhaid edrych arno’n gyson (Heb. 12:2). Diolch am y gwahanol ffyrdd sydd gennym o wneud hynny, yn enwedig dros y Nadolig, trwy ddarlleniadau penodol, carolau plygain, ac ati. Fodd bynnag, efallai taw un ffordd lai cyffredin mewn cylchoedd efengylaidd yw credoau hanesyddol yr Eglwys a ddaeth i amlygrwydd o’r bedwaredd ganrif ymlaen. A’r hynaf o’r rhain yw Credo’r Apostolion:

Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoethog, Creawdwr nef a daear:

Ac yn Iesu Grist, ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; yr hwn a gaed trwy’r Yspryd Glân, a aned o Fair Forwyn, a ddioddefodd dan Pontius Pilatus, a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; a ddisgynnodd i uffern; y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a esgynnodd i’r nefoedd. Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad Hollgyfoethog; oddi yno y daw i farnu’r byw a’r meirw.

Credaf yn yr Ysbryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymun y Saint; maddeuant pechodau; atgyfodiad y cnawd, a’r bywyd tragwyddol. Amen.

Hen gyffes

Er na ellid honni taw gwaith yr apostolion yw’r credo, yn bennaf am nad oes tystiolaeth ohono cyn y bedwaredd ganrif, camsyniad fyddai ystyried mai datganiad cymharol hwyr yw’r credo. Gellid olrhain cryn dipyn ohono yn ôl i’r credo Rhufeinig mwy hynafol ac i dadau’r ail ganrif, yn enwedig Irenaeus (c. 120/140 – 200/203), yntau’n ddisgybl i Polycarp a oedd yn ei dro yn ddisgybl i’r apostol Ioan. Yn ei waith mawr Yn Erbyn Heresïau(tua 175-185 OC) eglurodd Irenaeus reol y ffydd:

Er bod yr Eglwys wedi ei gwasgaru ledled yr holl fyd, hyd eithafoedd y ddaear, derbyniodd gan yr apostolion a’u disgyblion ffydd yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr y nefoedd a’r ddaear a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt; ac yn un Iesu Grist, Mab Duw, a ddaeth yn gnawd er ein hiachawdwriaeth; ac yn yr Ysbryd Glân, a gyhoeddodd drwy’r proffwydi oruchwyliaethau Duw, a’r dyfodiadau, a’r geni o forwyn, a’r dioddef a’r atgyfodiad o’r meirw, ac esgyniad i’r nefoedd yn y cnawd ein hannwyl Grist Iesu, ein Harglwydd, a’i ddatguddiad o’r nef trwy ogoniant y Tad i gasglu pob peth yn un ac i godi o’r newydd bob cnawd o blith dynoliaeth… (I. 10.1).

Fe’i clywir hefyd yn y siars genhadol ar ddiwedd yr Efengyl yn ôl Mathew (28:19) i ‘fedyddio yn enw’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân.’

Ffydd a chynnwys

Er bod y gyffes yn dechrau gyda datganiad personol (‘Credaf’) nid yw’n aros yma. Erbyn heddiw, daeth yn gyffredin sôn am bobl sy’n ‘credu’ heb fanylu ar gynnwys y gred honno. Nid felly’r credo: rhaid i’r ffydd hon bwyso ar rywbeth, ar Grist, fel y’i datguddiwyd yn hanes ei ddyfodiad i’r byd a’i ogoneddiad. Wrth geisio meithrin Cristnogion newydd adeg y Diwygiad Protestannaidd, sylweddolai’r Diwygwyr fod angen mwy na dadlau ein bod yn cael ein hachub trwy ffydd yn unig. Roedd angen deall rhagor am y ffydd honno, am y Duw yr oedd yn saint yn ymddiried ynddo am eu hiachawdwriaeth. Ceisiwyd gwneud hyn trwy gatecismau ac mae’n werth nodi i’r Diwygwyr Protestannaidd, o Luther ymlaen, neilltuo rhan bwysig o’u catecismau i egluro Credo’r Apostolion.

A oes angen y credo hwn arnom i ddysgu am gynnwys y ffydd? Nac oes, siawns, ond da yw gallu uno gyda saint y gorffennol sy’n ymddiried yn yr un Gwaredwr. Peidied neb â bod mor rhyfygus â thybio nad oes gan Gristnogion y gorffennol ddim i’w ddweud wrthym. ‘Snobyddiaeth gronolegol’, chwedl C.S.Lewis, yw’r agwedd hon a gall ein hamddifadu o gymorth y rhai a fu o’n blaen. Y perygl o hyd yw cyfyngu’n ffydd i’r hyn a glywn o’n cwmpas, i’r athrawiaethau ffasiynol neu’r pynciau llosg yn ein cylch bach ni. Mewn oes secwlar hawdd mynd yn amddiffynnol iawn a gadael i gynnwys ein ffydd grebachu. Os yw hynny wedi digwydd bydd y credo bach hwn yn awel o awyr iach.

Crist a’r Drindod

Nid oes amser yma i fanylu ar y credo fel y gwneir yng nghatecismau’r Diwygwyr, ond arhoswn am ychydig gyda’r hyn a ddysgwn am Grist. Diddorol nodi, yn y cyswllt hwn nad yw’r gyffes yn dechrau gyda Christ ond yn ei osod, yn hytrach, yng nghyd-destun y Drindod fendigaid. Oherwydd y pwyslais mawr a roddir ar waith Crist, mae’n hawdd iawn i Gristnogion efengylaidd lithro i Gristganologrwydd eithafol lle anwybyddir y Tad a’r Ysbryd, er mawr colled i ni. Amcan dyfodiad Crist yw ein cymodi ni â’r Tad a’n bywhau trwy’r Ysbryd. Heb yr elfennau hyn buan y dirywia ein ffydd yn brofiad myfïol diffrwyth.

Weithiau ceisir dadlau o blaid y Drindod ar sail eglurebau. Gwan ac aneffeithiol yw’r eglurebau hyn ar y gorau, ysywaeth, gan eu bod naill ai’n dueddol o bortreadu Duw yn dri pheth (triduwiaeth) neu’n un peth ar dair ffurf (sabelyddiaeth). Er mwyn darganfod rhyfeddod y Drindod rhaid dod trwy’r Mab a gadael iddo ef ein tywys at y Tad wrth iddo ein bywhau â’i Ysbryd. Ac er mwyn cwrdd â’r Iesu hwn rhaid troi unwaith eto at yr hanesion amdano: ei genhedlu o’r Ysbryd, ei eni o’r forwyn, ei gondemniad a’i farwolaeth, ei atgyfodiad a’i esgyniad. Trwy’r pethau hyn y down i adnabod y Tad a’r Mab a’r adnabod hwnnw yn fywyd tragwyddol (Ioan 17:3).

Crist a’r gobaith

Cred Brian Maclaren taw edrych yn ôl yr oedd yr Eglwys yn ei wneud wrth adrodd y credo. Nage. Wrth edrych yn ôl edrychir ymlaen. Wedi’r cenhedlu, y geni, y marw a’r atgyfodi, daw’r esgyn ond nid yw holl yrfa Crist yn gyflawn eto: ‘oddi yno daw i farnu’r byw a’r meirw’. Yr un a ddaeth yw’r un sy’n dod a’n lle ni yw paratoi ar gyfer hynny. Tybed a ydym wedi colli gobaith? A yw sinigaeth y byd wedi cydio ynom? Neu’n waeth, a yw gafael y byd presennol mor gryf arnom fel na allwn edrych ymlaen? O! tyred i’n gwaredu…

Crist sy’n fwy na’r credo

Clywir y gŵyn weithiau fod y credo yn caethiwo Crist, yn lleihau ei ddirgelwch a’i ryfeddod, ond anodd deall sut y gellir darllen datganiadau’r credo’n ofalus heb blygu mewn addoliad. Wedi dweud hynny, ni ddylai ein gwerthfawrogiad o gymorth y credo droi’n eilunaddolgar. Er ei werth, nid yw’n dweud y cyfan. Mae pobl megis N.T.Wright wedi beirniadu credoau’r Eglwys am anwybyddu cryn dipyn o’r deunydd a welir yn yr Efengylau a rhoi darlun unochrog o Grist sy’n dueddol o gymylu ei ddynolrwydd. Rhaid dweud bod rhywfaint o sail i’r pryderon hyn a bod pwyslais y credo ar fawredd Crist yn anwybyddu’r tynerwch a welwn yn yr Efengylau.

Nid yw credo’r apostolion yn gwneud cyfiawnder llawn â mawredd Iesu Grist, chwaith. Daeth hyn yn amlwg wrth i heresïau newydd ymddangos yn yr Eglwys. Un o’r rhain ar ddechrau’r bedwaredd ganrif oedd Ariaeth a honnai fod Crist yn Fab Duw ond ei fod ar ryw ystyr yn israddol i Dduw am iddo gael ei greu gan Dduw ac nad oedd yn dragwyddol yn yr un ystyr â’r Tad. Ni ddywed credo’r apostolion ddim byd penodol am y ddadl hon. Byddai angen rhagor o drafod a chredo pellach i egluro dwyfol fawredd Iesu yn well. Gallai’r Ariaid a’u gwrthwynebwyr adrodd credo’r apostolion. Roedd rhagor i’w ddweud, a bydd rhagor i’w ddweud o hyd. Pan fyddwn wedi gwneud y datganiadau mwyaf dyrchafedig am ein Gwaredwr annwyl, nid ydym ond megis dechrau.

** Darlledwyd 20 Medi 2015 Darlun o’r apostolion yn ysgrifennu’r Credo dan ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân. Tudalen o lawysgrif ‘Somme le Roy’ (13eg Ganrif)

Mae Geraint Lloyd yn aelod o’r Pwyllgor Golygyddol

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
Apostolion credo