Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Dysgu ein plant i Ddarllen y Beibl

26 Rhagfyr 2016 | gan Derrick Adams| gan Llio Adams

Dros y blynyddoedd rydym wedi defnyddio llawer o wahanol ffyrdd o ddarllen y Beibl wrth i’r plant dyfu i fyny. Roedd cysondeb yn anodd, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol, ac yn aml roedd rhaid dechrau eto ar ôl cyfnod o esgeuluso. Dyma rai o’r pethau a fu’n help i ni ar wahanol adegau.

Dechrau’r Dydd

Dechreuwn bob dydd gydag amser teuluol gyda’r Beibl er mwyn sefydlu’r arferiad o ddechrau pob dydd gyda’r Gair. Dros y blynyddoedd rydym wedi darllen trwy Y Beibl i Blant mewn 365 o storïau (MEC) a The Child’s Story Bible (Banner of Truth). Tynnwn wers o’r stori a’i chymhwyso i’n bywydau er mwyn iddynt ddod i ddeall fod y Beibl i gael effaith ar ein bywydau. Mae’n syniad da cael adnod yr wythnos i’w dysgu ar y cof ac roedd y plant yn mwynhau canu rhai adnodau. Cofiaf ryw hen gasét ag adnodau o lyfr y Diarhebion y byddem wrth ein bodd yn eu canu ac yn dal i’w cofio.

Diwedd y Dydd

Cyn mynd i gysgu roeddent yn cael hanes Beiblaidd yn ogystal â stori fel Tin Tin neu gyfres Narnia. Cyn iddynt allu darllen roedd llyfr â lluniau da yn ddefnyddiol, fel The Bible in Pictures for Little Eyes (Scripture Press). Daeth cyfnod wedyn o wrando arnynt yn darllen tudalen o Fy Meibl Cyntaf (Cyhoeddiadau’r Gair), Fy Meibl i (Cyhoeddiadau’r Gair) neu Beibl y Bobl Bach (Gwasg Bryntirion). Roedd cyfle ganddynt i holi a dysgu mwy gennym.

Er ein bod wedi blino ac yn dyheu am eu cael yn eu gwlâu roedd hi’n bwysig peidio â brysio! Dyma’r adeg y clywem am y cwestiynau oedd yn eu poeni ac roedd yn creu’r arferiad o drafod pethau ysbrydol mewn modd naturiol.

Pan aethant yn hŷn defnyddiwyd beibl.net a’r ffefryn oedd International Children’s Bible (Nelson Word Bibles), sef cyfieithiad Saesneg penodol i blant sy’n hawdd i’w ddeall. Roedd llyfrynnau darlleniadau dyddiol ar gyfer plant yn apelio atynt ac yn gwneud iddynt feddwl drostynt eu hunain.

Defnyddio’r Sul

Yn wythnosol, ar brynhawn Sul, byddem yn darllen llyfr fel Leading Little Ones to God (Banner of Truth) sy’n dysgu athrawiaeth, yn ogystal â’r hanesion.  Mae’n cynnwys 86 pennod fer wedi eu rhannu yn 14 adran sy’n ymwneud â dysgeidiaeth sylfaenol y Beibl am Dduw a’r bywyd Cristnogol.

Roeddent i gyd yn hoffi gludo a thorri allan a chyda help llyfrau fel Help! I Can’t Draw (Falcon Books) gallem wneud taflen i’w lliwio a fyddai’n darlunio ac yn atgyfnerthu gwers y bennod, e.e. deilen meillionen i ddysgu am y Drindod.

Mae’n syndod bod rhyw waith llaw gyda sequins neu ddefnyddiau gwahanol a split pins yn dal yn eu cof flynyddoedd yn ddiweddarach!

Casglwyd y taflenni hyn mewn llyfr sgrap ac wrth edrych trwyddynt caent eu hatgoffa o brif athrawiaethau’r Beibl mewn ffordd gofiadwy.

Syniadau Ychwanegol

Nid yw darllen at ddant pob plentyn ac yn ein tŷ ni roedd y Y Beibl Graffig (Cyhoeddiadau’r Gair), sydd ar ffurf strip cartŵns, yn ffordd wych o ddysgu hanesion y Beibl yn eu trefn. Ond yr un orau am fanylder yw’r gyfres The Great Bible Discovery (OM Publishing) sy’n cynnwys 24 cyfrol. Yn ogystal gwnaethom brynu CDs o’r Beibl yn cael ei ddarllen, ac roedd yn dda cael gwrando arnynt wrth deithio yn y car.

Roedd chwarae gemau yn seiliedig ar lyfrau’r Beibl yn help iddynt ddod yn gyfarwydd â chynllun y Beibl. Mae’n hwyl dyfalu o ba adran mae llyfr yn dod, neu pa lyfr sy’n dod o’i flaen neu ar ei ôl, faint o benodau sydd ynddo, neu’r cyntaf i ganfod rhyw gyfeiriad fel 2 Brenhinoedd 6 adnod 3! Roedd llinell amser y Beibl ar y landin, a hyn yn ffordd arall o’u helpu i gael rhediad y Beibl.

Dangos mai Beibl y Bobl Mawr yw’r Beibl hefyd

Un o’r pethau pwysicaf, dybiwn ninnau, er mwyn annog ein plant i ddarllen y Beibl yw ein bod ninnau’n ei ddarllen a’i astudio yn eu gŵydd, er mwyn iddynt hwythau’n sylweddoli ei fod yn rhywbeth rheolaidd y mae oedolyn yn ei wneud. Os gwelant fod darllen y Beibl yn rhan ganolog o’n bywydau ni, yna maent hwythau’n fwy tebygol o’i ddarllen eu hunain.

Mae gan Derrick a Llio bedwar o blant, Lois, Lydia, Lea ac Andreas

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf