‘Mae Cenhadon yn bobl hefyd’
Profiad Mam
‘Mam, dw i’n teimlo galwad i fod yn genhades!’ A fyddai’r geiriau hyn yn codi ofn yn eich calon? Pan ddywedodd fy merch Becca hyn wrthyf pan oedd tua 16 oed, roedd yn gadarnhad o’r hyn a ‘wyddwn’ yn barod. Ers iddi fod tua phedair oed, roedd gennyf ddealltwriaeth sicr a chynyddol y byddai Duw yn galw Becca i’r maes cenhadol yn y pen draw. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y sylweddoliad hwn o’i gynllun ef ar gyfer bywyd Becca. Roedd yn rhyddhad gallu gadael y cyfan yn ei ddwylo abl ef.
Hyffordda Blentyn
Gan nad oeddwn am achub y blaen ar alwad yr Arglwydd, wnes i ddim rhannu’r hyn a ‘wyddwn’ gyda Becca. Roedd rhaid iddi ei glywed drosti hi ei hun ac nid yn ail law gennyf fi. Fel ysgrifennydd cenhadol yr eglwys, roedd gennyf beth brofiad o weithio gyda chenhadon ac roeddwn yn benderfynol na fyddai Becca yn cael golwg ystrydebol a rhamantaidd ar genhadaeth. Gwyddwn nad oedd bron byth yn fywyd arwrol, ac roedd bob amser yn cynnwys bywyd o aberth, ymroddiad a gwaith caled, a’i fod yn fywyd oedd wedi ei blethu â llawenydd ac adfywiad gan yr Arglwydd. Anogais hi i ysgrifennu at genhadon ac i ddilyn eu llythyrau gweddi. Gwyliais ei diddordeb mewn gwaith cenhadol yn tyfu a bwydais y diddordeb hwn gymaint ag y gallwn.
Yr Alwad
Felly, fe ddaeth yr amser pan glywodd ac ymatebodd Becca i’r alwad. Roeddwn yn teimlo rhyddhad, a hefyd ofn drosti. Er y rhagrybudd, roeddwn yn dal i deimlo’r tyndra yn fy nghalon. Pa riant na fyddai? Roeddwn wedi darllen hanesion am galedi, amddifadedd, erledigaeth a hyd yn oed merthyrdod ymhlith cenhadon mewn gwahanol rannau o’r byd –a dyma fy merch fy hun yn paratoi i fynd i bellafoedd Affrica! Rwy’n gwybod bod Becca wedi ei hamgylchynu gan hollalluogrwydd a hollwybododaeth Duw. Mae’n gymaint o gysur gwybod ei bod yn union yng nghanol ewyllys Duw. Dyna’r unigle diogel i fod. Mae ef yn gwybod beth sydd o’i blaen a bydd ef gyda hi ym mhob sefyllfa.
Colli Merch
Pan ddaeth yr amser i Becca gychwyn am Uganda –fedra i ddim dweud celwydd –roedd gennyf deimladau cymysg. Roeddwn yn teimlo wrth fy modd yn meddwl am yr antur newydd yma iddi, ond wrth gwrs roedd tristwch hefyd. Mae sawl her wedi bod ers hynny. Roedd y tro cyntaf iddi gyfeirio at Uganda fel ‘cartref’ yn anodd, ac mae dydd Nadolig a phenblwyddi yn amseroedd teimladwy, ond a dweud y gwir, mae llawer mwy o bethau calonogol. Wnes i ddim colli merch, gymaint ag ennill cymuned gyfan! Yn 2011 cefais y fraint o ymweld ag Ysbyty Kiwoko, ble mae Becca yn gweithio, a chefais fy llethu gan eu cynhesrwydd a’u cyfeillgarwch. Does dim rhyfedd bod Becca yn ei alw’n gartref! Roeddwn yn gallu gweld sut roedd Becca yn rhyngweithio â phobl yna, gweld ble roedd yn byw a deall ei hanghenion hi ac anghenion y gymuned ehangach.
Cefnogwch eich cenhadwr
Mae’n bwysig sicrhau bod gan bob cenhadwr eglwys leol yn gefn iddynt, yn gweddïo drostynt, yn eu cefnogi yn ariannol ac yn ysgrifennu atynt i’w calonogi fel nad ydynt yn teimlo wedi eu hanghofio. Mae Becca wedi derbyn hyn i gyd a mwy oddi wrth yr eglwys sydd wedi ei hanfon sef Eglwys Bedyddwyr Llaneirwg, Caerdydd. Rydym yn ceisio gwneud hyn yn ein heglwys gyda’r cenhadon yr ydym wedi addo eu cefnogi. Am fraint cael ufuddhau iddo ym mha bynnag ffordd ac ym mhle bynnag mae’n ein galw i’w wasanaethu!
Profiad Becca
Ydych chi wedi darllen nifer o fywgraffiadau cenhadon? Neu wrando ar sgyrsiau am genhadon arloesol enwog? Maent yn gallu bod yn heriol, yn gyffrous ac yn gallu ein hysbrydoli, ond gall rhai ein gadael â’r argraff fod cenhadon yn fath arbennig o Gristnogion mwy sanctaidd na’r gweddill ohonom. Rhai sy’n gwisgo dillad od, yn bwyta bwyd gwahanol ac yn byw bywyd o antur a chynnwrf parhaus. Gan fod y rhan fwyaf ohonom yn bobl gyffredin iawn mewn gwirionedd, gallwn deimlo fod gwaith cenhadol ar gyfer y dethol rai ac nid i bobl fel ni.
Pan oeddwn yn blentyn, cwrddais â llawer o genhadon ‘normal’ ac felly nid golwg felly gefais i wrth dyfu i fyny. Deuai cenhadon i gael prydau bwyd a threuliem brynhawniau Sul yn ysgrifennu atynt. Byddem yn darllen eu llythyrau newyddion ac yn gwrando ar sgyrsiau wrth iddynt rannu eu hymdrechion, yr heriau oedd yn eu hwynebu a’r modd y cawsant eu hannog. Roedd yn glir mai pobl gyffredin oedd y rhain, gyda’u cryfderau a’u gwendidau fel y gweddill ohonom, ond yn cael eu defnyddio gan Dduw yng ngwaith ei Deyrnas. Roedd gwybod hyn o gymorth mawr i mi pan alwodd Duw fi i fod yn genhades yn Uganda. Pe bawn i’n meddwl na fyddai pobl gyffredin yn gallu bod yn genhadon, yna fyddwn i byth wedi gallu mynd. Rwyf eisiau tystio fod Duw bob amser yn gofalu dros ei bobl a dydy e byth yn ein siomi.
Mae cenhadon yn hiraethu am ffrindiau a theulu
Gadael teulu a ffrindiau, ynghyd â’r ffarwelio parhaus wrth i’r tîm yn Uganda newid, yw’r peth anoddaf am fod yn genhades. Rydym i gyd yn dyheu am sefydlogrwydd a chariad diamod.
Efallai mai’r cwestiwn y mae pobl wir eisiau ei ofyn i mi, ‘Pam byddech chi eisiau gadael hyn i gyd ar ôl?’ Mae geiriau Iesu yn Mathew 10:37 yn heriol ac yn gwneud inni edrych ar ein calonnau: Nid yw’r sawl sy’n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi, ac nid yw’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi. Pwy ydym yn ei garu fwyaf? O ble daw ein hymdeimlad o hunaniaeth a diogelwch? Ydyn ni’n fodlon cymryd y groes a dilyn Iesu? Mae Iesu yn dweud hefyd ym Marc 10:29-30:
Yn wir rwy’n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr efengyl, na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy’n dod fywyd tragwyddol.
Gallaf dystio i wirionedd yr adnodau hyn. Mae Duw wedi darparu teulu i mi a chymuned rwyf yn eu caru yn Ysbyty Kiwoko y byddaf yn gweld eu heisiau pan na fyddaf yna. Yn fwy na hynny, mae’n fy nysgu i bwyso arno ef yn unig fel ffynhonnell fy niogelwch, ac rwy’n ei brofi’n ffrind a brawd mwy ffyddlon nag y byddai unrhyw berson daearol yn gallu bod. Rwy’n ddiolchgar fy mod yn byw mewn cyfnod pan fo ebost a chyfryngau cymdeithasol yn gwneud cyfathrebu’n syml.
Rwy’n ddiolchgar am yr holl e-byst, llythyrau a pharseli a dderbyniaf pan wyf yn Uganda. Mae hyd yn oed rhestr o fy hoff siocledi yn yr eglwys, rhag ofn bod rhywun mewn penbleth ynglŷn â beth i’w anfon! Rwy’n gwybod bod yr anrhegion ymarferol hyn yn adlewyrchiad o’u gweddïau rheolaidd drosof ac yn ffynhonnell enfawr o gryfder a chysur imi yn yr amseroedd anodd.
Caiff cenhadon hiraeth am eu cartref
Rwy’n meddwl yn aml, ‘ble mae “cartref”?’ Fel arfer rwy’n ystyried mai ‘cartref’ yw’r lle nad ydw i ynddo ar y pryd! Ond mewn gwirionedd, mae gennyf sawl cartref wrth i bobl, o’u haelioni, fy nghroesawu i’w cartref hwy, ac mae gennyf gartref yn Uganda ar hyn o bryd. Yn y pen draw, rwy’n edrych ymlaen at y Nefoedd ble byddaf yn wirioneddol yn teimlo mod i gartref, ble na fydd unrhyw rwystrau ieithyddol neu ddiwylliannol, dim hiraeth, unigrwydd na theimlad o fod ar wahân a dim mwy o ddweud ffarwel!
Mae Denise Jones yn aelod o Eglwys Efengylaidd (Saesneg) Caerfyrddin. UFM yw’r mudiad cenhadol sy’n gefn i Becca. (Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Evangelical Magazine of Wales, rhifyn Tachwedd/Rhagfyr 2015)