Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Addoliad Teuluol

26 Rhagfyr 2016 | gan Branwen Rhys

Mae un pwnc wedi bod ar flaen fy meddwl ers rhai misoedd bellach a hoffwn rannu’r hyn rwyf wedi bod yn myfyrio arno gyda chi. Teulu Duw yw’r Eglwys, ac rydym yn ymgynnull ar y Sul i gydaddoli ein Tad nefol. Ond, beth am addoli Duw ar ddyddiau eraill yr wythnos? A beth am ein teulu cig a gwaed? Oni ddylem ni hefyd addoli fel teulu yn ein cartrefi?

Rwyf wedi bod yn darllen y llyfr, A Neglected Grace –Family worship in the Christian Home gan Jason Helopoulos, yn ddiweddar. Yma, ceir pwyslais ar greu teuluoedd Cristganolog; meithrin cartrefi sy’n rhoi Duw yn y canol. Mae’r llyfr wedi gwneud i mi feddwl ac ystyried o ddifrif ein cyfrifoldeb fel rhieni i addysgu ac arwain ein plant trwy’r efengyl. Mae bywyd mor brysur, ac rydym yn aml yn cael ein cario o un dydd i’r llall gan brysurdeb plant, ysgol, gwaith, ffrindiau, gweithgareddau capel a’r gymuned ac ati heb gael munud i feddwl am Dduw yn unigol heb son am fel teulu.

Dywed Helopoulos fod 3 math o addoliad i’w cael, sef addoliad cyfrinachol ac unigol, addoliad corfforaethol (sef ymgynnull fel eglwys) ac addoliad teuluol. Gellir eu hystyried yn stôl deircoes, os ydi un goes yn torri, bydd y stôl yn dal yn weithredol, er yn sigledig, am ryw amser, ond yn y pen draw bydd yn disgyn. Nid yw’ngallu cynnal pwysau gyda dwy goes yn unig. Yn yr un modd, i’r Cristion mae angen i’r tri math o addoliad gydredeg er mwyn iddynt gynnal a bwydo ei gilydd.

Mae Cristnogion yn arfer mynychu cyfarfodydd ar y Sul a chael addoliad personol gyda Duw ond ydi addoliad teulu yn cael yr un flaenoriaeth?

Beth yw addoliad teulu?

Addoliad teulu yw pan fo pob aelod o’r cartref yn cydaddoli Duw. Teulu yn gosod o’r neilltu amser penodol bob dydd i eistedd gyda’i gilydd i addoli Duw. Gall hyn olygu gŵr a gwraig, teulu o rieni a phlant, neu deulu gyda Nain neu Dad-cu yn aros am gyfnod.

Beth mae’r Beibl yn dweud am addoliad teulu?

Nid wyf wedi gweld unrhyw orchymyn uniongyrchol gan Dduw yn y Beibl i ymgymryd ag addoliad teuluol dyddiol, ond mae’r egwyddor o addoliad teuluol yn ymddangos yn aml trwy’r Gair, mae dros 100 o gyfeiriadau yn Numeri yn unig at deuluoedd yn addoli Duw. Dyma rai cyfeiriadau eraill:

  • Joshua 24: 14-15.Ceir Joshua yn cyfarch yr Israeliaid wedi cyrraedd Gwlad yr Addewid, ac mae’n rhoi sialens iddynt addoli y gwir Dduw yn hytrach na duwiau’r Canaaneaid gan gyhoeddi, ‘Ond byddaf i a’m teulu yn gwasanaethu’r Arglwydd.’ Wedi’r holl rwystrau a’r anawsterau sydd wedi dod i ran Joshua, ac yntau’n hen ddyn, cofiwch, mae’n dal i flaenoriaethu addoliad teuluol.
  • Deutoronomium 6: 5-7.Yma daw’r gorchymyn adnabyddus ‘Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth. Y mae’r geiriau hyn yr wyf yn gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.’ Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r geiriau hyn ond sylwch ar beth sy’n dilyn. ‘Yr wyt i’w hadrodd i’th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi’n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi.’ Mae’r rhain yn weithgareddau dyddiol, eistedd, mynd am dro, cysgu, deffro, ac mae Duw yn dweud wrthym am rannu ei Air gyda’n plant mor aml ag yr ydym yn gwneud y pethau uchod.
  • Actau 10:2 Dyma ddisgrifiad o Cornelius y milwr o fyddin Eidalaidd. ‘gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a’i holl deulu.’ Roedd Cornelius yn arweinydd ysbrydol yn ei deulu, ac felly yn eisiampl da i dadau a gwŷr Cristnogol.
  • Effesiaid 6:4 ‘Chwi dadau, peidiwch â chythruddo’ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd.’ Yma, mae’r gair yn rhoi cyfarwyddyd clir i dadau ar sut i fod yn arweinwyr ysbrydol i’w plant, i’w dysgu mewn ffordd dyner a chariadus nid mewn ffordd sy’n eu gwylltio neu sy’n achosi iddynt ddigio wrth Dduw. Ond sylwch ar y gair ‘hyfforddi’. Nid rhywbeth achlysurol yw hyn ond arfer cyson a disgybledig. Dywed hefyd yn Colosiaid 3:21o dan y pennawd ‘Dyletswyddau cymdeithasol y bywyd newydd’ –‘Chwi dadau, peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigaloni.’ Rhaid bod yn ddeallusol ymwybodol o allu ac aeddfedrwydd plentyn a pheidio â disgwyl gormod.

Mae mwy o gyfeiriadau’n trafod y pwnc megis, Salm 78:5-7 aGenesis 18:19 ond nid wyf am nodi pob un fan hyn.

Cyhoeddwyd yr adroddiad Millennial Faith Participation and Retentionfis Awst 2013 gan Focus on the Familylle holwyd pobl ifanc a oedd wedi gadael capeli a oedd ganddynt ffydd yn Nuw yn blant. Dim ond 11% o bobl ifanc gyda ffydd yn Nuw yn blentyn oedd wedi troi eu cefn ar Dduw yn oedolyn. Nid oedd gan yr 89% arall ffydd gadarn yn y lle cyntaf i’w cholli. Dywed yr Athro Cymdeithaseg, Christiain Smith:

‘Religious outcomes in emerging adulthood…flow quite predictably from formative religious influences that shape persons’ lives in early years…religious commitments, practices and investments made during childhood and the teenage years, by parents and others in families matter – they make a difference…without question, the most important pastor a child will ever have in their life is a parent.’

Mae gan pob mam gariad a gofal greddfol at ei phlant, ac o ganlyniad, mae’n paratoi bwyd iach, sicrhau eu bod wedi’u dilladu yn drwsiadus a chyfforddus, yn ymddiddan â’i gilydd, ac yn eu gwarchod rhag peryglon yn ddyddiol. Pa faint pwysicach na’r gofalon dyddiol hyn ydi gofalu am eneidiau ein plant? Peidiwch â’m camddeall, gwaith yr Ysbryd Glan yw achub eneidiau ac ef yn unig, ond beth am i ni fel rhieni roi’r cyfle gorau i’n plant gan gyflwyno gwirioneddau’r ffydd a’u harwain yn gariadus at Dduw trwy addoliad teuluol cyson?

Mae Branwen Rhys yn addoli yn Eglwys Efengylaidd Aberystwyth ac yn fam i ddau o blant.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
Addoliad Teulu