Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Lefiticus a Numeri

13 Tachwedd 2016 | gan Gwyn Davies | Lefiticus | Numeri

Bara’r Bywyd Lefiticus a Numeri

  • gan GWYN DAVIES.
  • 63tud.
  • Clawr Meddal.
  • ISBN 978-1-85049-246-7
  • RRP £4.50

Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres sy’n rhannu llyfrau’r Beibl yn unedau hwylus ar gyfer darlleniadau dyddiol, ac yn cynnig nodiadau esboniadol a defosiynol ar bob darn. Mae defnydd posibl y llyfrynnau hyn yn helaeth iawn. Er enghraifft, gellir defnyddio’r nodiadau:

  • fel arweiniad ar gyfer myfyrdod personol cyson neu achlysurol. (Ymhob llyfryn, ceir digon o ddarlleniadau dyddiol ar gyfer deufis llawn.)
  • fel darlleniadau ar gyfer defosiwn teuluaidd.
  • fel esboniad syml a darllenadwy ar un o lyfrau’r Beibl.
  • fel canllawiau ar gyfer dosbarthiadau Beiblaidd neu ddosbarthiadau Ysgol Sul.

Ac ar ben hyn oll, fe dyf y gyfres o lyfryn i lyfryn i fod yn esboniad syml, clir a defosiynol, ar y Beibl cyfan.
Dyma fuddsoddiad ysbrydol gwerthfawr i’r holl deulu.

Prynu

Adnodd diwethaf