Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Y Beibl Canllaw

13 Tachwedd 2015

Beibl Canllaw

  • 1720tud.
  • Clawr Caled.
  • Cyfieithiad y Beibl Cymraeg Diwygiedig Argraffiad Newydd
  • ISBN 978-1-85049-250-4

Mae’n bleser gennym gyflwyno Y Beibl Canllaw, gan fawr obeithio y bydd yn gymorth i ddeall a gwerthfawrogi Gair Duw yn well. Nid llyfr am y Beibl yw hwn, ond y Beibl ei hun gyda ‘chanllawiau’ syml sy’n esbonio’r ystyr ac yn egluro’r neges.

Dyma rai o’r ‘canllawiau’ pennaf:
Rhagarweiniad i bob llyfr yn y Beibl, yn cynnig cip cyffredinol ar y cefndir, y cynnwys, a’r cysylltiad â llyfrau eraill.
Cyflwyniad syml i’r penodau neu’r adrannau yn y Beibl.
Nodiadau ar waelod y ddalen sy’n rhoi goleuni ar ystyr ac arwyddocâd testun y Beibl.
Cyfeiriadau ar ymyl y ddalen, i ddangos adnodau neu ddarnau cysylltiedig.
Cyfraniadau ychwanegol, gan gynnwys

  • cyflwyniadau i gynnwys y Beibl a rhai o’i nodweddion pwysicaf
  • geirfa sy’n egluro pwy yw pwy a beth yw beth
  • ystyr geiriau Cymraeg anghyfarwydd yn y Beibl
  • llinellau amser i ddangos beth ddigwyddodd pryd
  • goleuni ar grefydd Israel yn yr Hen Destament
  • rhestri o wyrthiau a damhegion Iesu Grist
  • mynegair o lawer o’r geiriau a’r enwau pwysicaf yn y Beibl
  • mapiau a lluniau i roi cymorth gweledol.

Pris – £25 (Pecyn o 5 am £100)

Prynu

Y nod yw gadael i’r Beibl siarad drosto’i hun, gan gynnig cymorth lle bo angen i hwyluso ei ddarllen a’i ddeall.

Dyma rai enghreifftiau o’r adranau: