Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Nawr mod i’n Gristion

13 Tachwedd 2015 | gan Jonathan Thomas

Nawr mod i’n Gristion – Llyfr i feithrin Cristnogion ifanc

  • gan Jonathan Thomas.
  • 50tud.
  • Clawr Meddal.
  • ISBN 978-1-85049-251-1
  • RRP £3.99

Cynlluniwyd y llyfr ar gyfer Cristnogion ifainc sydd am wybod mwy am eu ffydd, ac fe’i hysgrifennwyd gyda thair sefyllfa
mewn golwg:

    • Un person yn mynd trwy’r llyfr ar ei ben ei hun;
    • Un i un (One to One), sef dau berson yn cwrdd yn rheolaidd i fynd trwy’r llyfr;
    • Grŵp bychan, ar gyfer Cristnogion newydd efallai.

Nid llyfr sydd yma yn wir, ond cwrs, a nod y cwrs yw annog Cristnogion i dyfu yn Nuw.
Y bwriad yw astudio’r Beibl a’i ddeall. Byddwch yn cwrdd er mwyn dysgu, i dyfu ac i droi at Dduw ac fe’ch anogir i gael amser o rannu a gweddïo yn ystod yr astudiaeth, a bod yn bersonol ac onest wrth gymhwyso’r Beibl.
Cofiwch mai nid cwrs academaidd yw hwn, ond yn hytrach cyfle i ddysgu am y neges Gristnogol mewn ffordd ymarferol a real.

Prynu

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf