Ar 23 Ebrill 2014, yn 87 oed, bu farw Tegai Roberts, Curadur yr Amgueddfa yn y Gaiman, Dyffryn Camwy.
Roedd Tegai yn wraig nodedig a bu’n ddiwyd ar hyd ei hoes mewn sawl maes, ond yn arbennig fel lladmerydd hanes y Wladfa. Meddai ar bersonoliaeth hawddgar, ac roedd yn wraig ddeallus a chymwynasgar. Gwelir ei heisiau yn fawr nid yn unig ar aelwyd Plas y Graig ond hefyd yn y gymuned Gymreig yn Nyffryn Camwy.
Pan aethom i’r Wladfa am chwe wythnos yn 1975 i galonogi’r genhades Eluned Mair Davies, roeddem yn addoli yng nghapel Bethel, y Gaiman, lle yr addolai Tegai Roberts a’i chwaer Luned Roberts de González. Yno, yn y capel ar y bore Sul, mewn dosbarth Ysgol Sul, y cyfarfûm â’r ddwy chwaer gyntaf.
Roedd personoliaethau’r ddwy chwaer yn gwbl wahanol, ond yr un oedd eu croeso diffuant yn y capel ac yn eu cartref ym Mhlas y Graig. Roedd Michael D. Jones a Lewis Jones yn hen deidiau iddynt. Yn wahanol i’w chwaer, roedd Tegai yn ddibriod. Fferm fechan oedd ei chartref ac ar dir y fferm honno cadwai wartheg a gofalai am y ffosydd gwerthfawr. System y ffosydd a ddefnyddiai’r gwladfawyr i ddyfrio eu tir sych, a chofiaf Tegai yn mynd un min nos i gau’r ffosydd gyda’i rhaw. Deellais iddi ennill sawl gwobr mewn sioeau amaethyddol gyda’i hanifeiliaid. Y bore Sul cynnes hwnnw yn y capel, oedd mor debyg i gapeli Cymru (ond gyda lampau olew yn hongian o’r nenfwd), y gwelsom faint gwerthfawrogiad a chefnogaeth y ddwy chwaer i Mair.
Cryfder nodedig Tegai oedd ei doniau fel hanesydd a chofiadur. Hi oedd yn gyfrifol am y ‘Museo’ sef archifdy’r Wladfa. Cawsom aseiniad i ddod â llythyrau’r Parch. Nantlais Williams at y llenor Eluned Morgan yn ôl gyda ni i Dafydd Ifans yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac arweiniodd hyn yn y man at gyhoeddi’r ohebiaeth rhyngddynt dan y teitl Tyred Drosodd. Yr atgof byw sydd gennyf oedd gweld Tegai yn dod i gartref Mair y bore Llun canlynol gyda bocs esgidiau eithaf hir yn dal llawer o ohebiaeth gan Gymry enwog y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Yn y bocs cyffredin hwnnw roedd llythyrau unigryw a ddiogelwyd gan un oedd â’r wybodaeth a’r craffter i sylweddoli eu gwerth.
Yn hen orsaf reilffordd y Gaiman roedd arddangosfa fach wedi ei threfnu gan Tegai, a gofynnodd a allem ni fynd yno ryw ddiwrnod yn ystod ein hymweliad i labelu’r trysorau hyn yn Gymraeg dan ei chyfarwyddyd (ochr yn ochr â’r Sbaeneg). Prisiem y fraint yn fawr, a daethom oddi yno wedi gweld y creiriau o gyfnod cychwynnol y Wladfa, yn ymwybodol iawn bod yr arloeswyr cyntaf wedi bod o fewn dim o gael gwireddu eu breuddwyd o gael byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Deallaf mai nai Tegai, sef Fabio, sy’n gofalu am yr Amgueddfa erbyn hyn.
Roedd y ddwy chwaer yn ymwybodol bod caredigion y Mudiad Efengylaidd – Herbert Evans a Geraint Morgan – wedi anfon copïau o’r Cylchgrawn Efengylaidd i’r Wladfa ers dechrau ei gyhoeddi. Roedd y ddau hefyd wedi gohebu’n ffyddlon â’u cyfoedion yn y Wladfa adeg dechrau’r Mudiad. Roedd gan y ddwy chwaer ddiddordeb byw yng ngwaith Mair Davies yn y Siop Gristnogol yn Nhrelew ac wedyn yn Mendosa. Roedd Suliau Mair yn gallu bod yn eithaf caled, a chyda’r nos, ambell Sul, byddai wrth ei bodd yn ymlacio ar aelwyd groesawgar Tegai a Luned.
Wrth edrych yn ôl a chofio’r ymweliad â’r Wladfa, daw golygfeydd y Dyffryn a Chwm Hyfryd i’r meddwl. Mwy hynod na’r golygfeydd, fodd bynnag, oedd y bobl y bu inni eu cyfarfod. Yn sicr, mae’r cof am Tegai Roberts, pendefigaidd ei hosgo, addfwyn ei hymarweddiad, gyda’r gwerthfawrocaf o’r atgofion a erys. ‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.’ Cydymdeimlwn yn ddwfn â Luned a’r teulu i gyd, a phobl y Wladfa y bu Tegai fyw yn eu plith a’u gwasanaethu mor ffyddlon ac unplyg.