Pam oedfa nos?
Rwy wedi mynychu’r cwrdd ar fore a nos Sul gydol fy mywyd. Pan oeddwn yn blentyn aem i’r cwrdd fel teulu yn y bore, wedyn i’r ysgol Sul, adref am gwpwl o oriau, ac yna’n ôl â ni i’r eglwys ar gyfer y cwrdd nos. Roedd y gynulleidfa wastad yn llai yn y nos, ond roedd pawb yn awyddus i fod yno.
Dros y blynyddoedd, dechreuodd y cyfarfod nos ymdebygu’n llai a llai i oedfa ‘go iawn’. Ar adegau byddem yn gwylio fideo; weithiau byddem yn ymuno ag eglwysi eraill; ar adegau eraill byddem yn cyfarfod mewn grwpiau bach. Does dim byd o’i le ar y pethau yma, ond rwy’n cofio teimlo mai ôl-ystyriaeth oedd y cyfarfod nos. Doedd dim llawer o bwrpas neu amcan iddo.
Pan oeddwn yn y coleg fe es i gapel y Bedyddwyr lle’r oedd y pregethu’n feiblaidd a chadarn bob Sul. Aem yn griw o ffrindiau i’r cwrdd bore ac unwaith yn rhagor ar gyfer y cwrdd nos (roedd cynulleidfa gref yn y ddau gyfarfod). Bant i’r Coleg Beiblaidd wedyn, a’r un patrwm yn parhau: cwrdd bore a chwrdd nos (er bod y niferoedd yn llai yn y nos yn yr eglwys hon).
Pan gefais yr alwad i fod yn weinidog ar ‘University Reformed Church’ yn 2004 roedd yr oedfa nos wedi hen ddiflannu. Wrth dderbyn yr alwad esboniais fy mod yn awyddus i atgyfodi’r cyfarfod nos, a thros y blynyddoedd tyfodd y niferoedd yn raddol i 125 (tua chwarter y nifer sy’n mynychu yn y bore).
Mae’r cwrdd nos wedi bod rhan o batrwm fy mywyd Cristnogol, yn rhan o’r ‘rhythm wythnosol’ fel petai, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hyn. Yn yr erthygl hon, hoffwn eich annog i wneud y cwrdd nos yn rhan ganolog o’ch bywyd ac addoliad Cristnogol.
Peidio â gorddweud
Cyn dechrau, rhaid dweud nad wy’n credu bod gorchymyn yn y Beibl i ni gynnal oedfa ar nos Sul, ac felly rwy’n awyddus i beidio â gorddweud yn hyn o beth. Dwi ddim eisiau gorchymyn yr hyn nad yw’r Gair yn ei orchymyn. Rwy’n ymwybodol bod rhai Cristnogion yn dadlau bod mynychu’r cwrdd nos yn fater o ufudd-dod i air Duw, ond ar sail fy nealltwriaeth innau o’r Beibl ni allaf gytuno â hyn. Dyw eglwysi nad ydynt yn cynnal cwrdd nos – neu aelodau nad ydynt yn mynychu un – ddim o reidrwydd yn anufuddhau i Dduw. Mewn rhai gwledydd mae mynychu’r oedfa nos yn amhosibl oherwydd yr awdurdodau. Mae’r oedfa bore mewn rhai cylchoedd Cristnogol yn ymestyn tan y prynhawn; mae rhai eglwysi’n gorfod ailadrodd oedfa’r bore yn y nos oherwydd y niferoedd mawr. Mewn eglwysi llai, gan brinned yr adnoddau gall cynnal ail oedfa fod yn ormod o faich. Mae rhesymau dilys dros beidio â chynnal oedfa nos. Yn ogystal, gall fod yn anodd i unigolion ddod i’r cwrdd nos. Efallai fod rhaid teithio awr i fynd i’r cwrdd. Efallai bod rhaid gweithio ar nos Sul neu’n gynnar ar fore Llun. Efallai fod angen cael plant i’r gwely.
Mae nifer o resymau pam mae cynnal, dechrau neu fynychu’r oedfa nos yn anodd i eglwysi ac unigolion, ac felly rwy’n ymochel rhag dweud gormod yn hyn o beth.
Gair o Gyngor
Wedi dweud hynny, mae nifer o resymau da dros gynnal oedfa nos. Dyma rai o’r rhesymau pam rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y fraint o fynychu a gweinidogaethu mewn eglwysi sy’n cynnal dwy oedfa.
- Mae dechrau a gorffen y Sul gydag addoliad cynulleidfaol yn cyd-fynd â phatrwm yr Hen Destament o gyflwyno aberth i Dduw yn y bore a’r hwyr. Mae hwn yn ymddangos yn batrwm da i sicrhau bod y dydd yn dechrau a gorffen gydag addoliad. Gwelir yr un patrwm yn y Salmau (e.e. Salm 92:1-2).
- Os ydym yn credu bod pregethu a’r sagrafennau yn foddion gras, oni ddylwn rhoi pob cyfle i’n gilydd i brofi’r gras hwn? Onid ydym eisiau cymryd pob cyfle i annog ein gilydd yn y Gair?
- Mae’r oedfa nos yn ein helpu i gofio mai dydd yr Arglwydd yw’r Sul, nid bore’r Arglwydd. Heb oedfa nos rwy’n fwy tebygol o ystyried addoliad yn rhywbeth i’w wasgu i ddechrau’r dydd, cyn troi at gyfrifoldebau a phleserau eraill y dydd.
- Os ydym yn sychedu i ddysgu a gwrando ar air Duw, oni fyddwn yn eiddgar i gael ail gyfle i wledda ar y Beibl? Dyma ddadl Dr Martyn Lloyd-Jones dros gynnal oedfa nos.
- Mae’n ffordd o roi cyfle i eraill yn yr eglwys ddysgu, gan gynnwys pregethwyr ifanc neu ddarpar weinidogion. Mae’n gorfodi’r gweinidog i dreulio mwy o amser yn y Gair hefyd, sy’n beth da.
- Rhesymau ymarferol. Pryd bydd athrawon ysgol Sul, gofalwyr y creche, gweithwyr ‘sifft’, ac ati, yn cael y cyfle i gydaddoli a gwrando ar bregethau? Mae’r newidiadau mewn patrymau byw a gwaith hefyd yn golygu y gall oedfa nos fod yn fwy ymarferol i rai anghredinwyr hefyd.
- Mae’r cwrdd nos yn gyfle gwerthfawr i dreulio mwy o amser mewn cymdeithas, i drafod ac i weddïo’n fwy, gan ddyfnhau’r berthynas a’r ymdeimlad o deulu’r ffydd.
- Annoeth yw diystyru’n ysgafn a difeddwl y patrwm sydd wedi bodoli yn yr eglwys ar hyd y canrifoedd. Dyma Eusebius o’r 4ydd ganrif -: ‘It is surely no small sign of God’s power that throughout the whole world in the churches of God at the morning rising of the sun and at evening hours, hymns, praises are offered to God” . Dyma’r patrwm a sefydlwyd gan y Diwygwyr hefyd, e.e. ‘Llyfr Gweddi Cyffredin’ Thomas Cranmer. Mae rhai traddodiadau yn dda a llesol.
Ga i bwysleisio eto, dwi ddim yn credu bod y Beibl yn ein gorchymyn ni i gynnal cyfarfod nos, ond wedi dweud hynny, mae nifer o resymau da a synhwyrol ysbrydol dros gynnal oedfa nos. Mae’r tueddiad diweddar i ddiystyru’r cwrdd nos yn fy nhristáu a hoffwn eich annog i weld gwerth a braint yr hyn a gollir.