Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwyliwch yr Adar!

3 Rhagfyr 2014 | gan Edmund Owen

Pwy yw’r cyntaf yn ei sêt yn y capel fore Sul? Pwy sydd bob amser yn bresennol ble bynnag y cyhoeddir yr efengyl, boed yn yr oedfa arferol, mewn cynhadledd lle ceir gweinidogaeth y Gair, mewn ymgyrch efengylu neu pryd bynnag y bydd dyn yn mynd ati i ddarllen y Beibl? Yr ateb, wrth gwrs, yw’r diafol neu Satan.

Mae sôn amdano yn Nameg yr Heuwr (Math.13; Marc 4; Luc 8). Darllenwn yno fod peth o’r had wedi syrthio ar hyd y llwybr, ar ddaear galed, a bod yr adar wedi disgyn a’i fwyta. Yn yr esboniad dywedir mai ‘yr Un drwg’ yn ôl Mathew, ‘Satan’ yn ôl Marc, a’r ‘diafol’ chwedl Luc – tri enw ar yr un person – oedd yn gyfrifol am gipio’r gair o galonnau’r gwrandawyr. A hynny ‘ar unwaith’ meddai Marc, ‘as soon as they hear it’ (NIV).

Luc yn unig sy’n cofnodi pam y mae’r diafol yn gwneud hyn: ‘rhag iddynt gredu a chael eu hachub’ (Luc 8:12). Dylem gofio bob amser bod Satan wrthi o hyd yn ceisio rhwystro pobl rhag dod i ffydd, a thrwy hynny fod yn gadwedig. Tybed i ba raddau yr ydym yn effro i’r gweithgarwch dieflig hwn, wrth dystio, wrth efengylu neu wrth gyflwyno’r gwirionedd trwy ddulliau eraill? Pryd bynnag y bydd hau gallwch fentro bod yr adar wrth law.

Wedi dweud hyn, camgymeriad fuasai gosod y bai i gyd ar yr adar. Wedi’r cwbl, go brin y byddent wedi sylwi ar yr had oni bai ei fod mor amlwg ar y llwybr. Ar y gwrandäwr y mae peth o’r bai; nid yw wedi rhoi clust i’r neges fel y dylai, a thrwy’r diffyg hwn mae’r diafol yn gweld ei gyfle. Beth sydd i gyfrif am ymateb y gwrandawyr hyn a gyffelybir i’r llwybr, na chaiff y genadwri ddim dylanwad arnynt? Mae yna ryw galedwch yn rhywle. Hwyrach bod yna wrthwynebiad i’r neges benodol sy’n cael ei thraddodi, neu awydd am beidio â chael eu haflonyddu. Dyna Ffelix yn gwrando ar Paul: ‘Ond wrth iddo drafod cyfiawnder a hunan-ddisgyblaeth a’r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix a dywedodd, “Dyna ddigon am y tro; anfonaf amdanat eto pan gaf gyfle”’ (Actau 24:25). Neu gall yr arferiad cyson o wrando heb ganolbwyntio, gan adael i’r meddwl grwydro’n braf i bobman, fagu plisgyn trwchus o ddifaterwch. Nid yw’n syndod wedyn bod yr had yn diflannu cyn y gall fwrw gwraidd.

Ond arhoswch! Gall peth o’r bai hefyd fod ar y pregethwr. Crwydro oddi wrth eiriau’r testun; dod â sylwadau da ond amherthnasol neu led amherthnasol i mewn i’r ymdriniaeth; llacrwydd yn yr adeiladwaith, y strwythur. Y canlyniad yw cymylu’r meddwl, aneglurder, niwl – a’r gwrandäwr, druan, ar dro yn ei chael hi’n anodd cadw llygad ar agor. Trafferth wedyn i gofio rhediad y bregeth, a gallu dweud beth oedd sylwedd y neges pe bai rhywun yn holi. Mae’r cyfan wedi bod mor wlanog. Mae Mathew yn sôn am yr un ‘yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall’. Does dim dwywaith bod yr un sy’n traethu yn rhannol gyfrifol weithiau am y diffyg dealltwriaeth hwn.

Bid a fo am hynny, yn y diwedd Satan sydd bennaf gyfrifol bod yr un sy’n gwrando’r gair ‘heb ei ddeall’. Y gwir amdani, mae’r di-gred – hyd yn oed y mwyaf deallus yn eu plith – yn gwbl ddall i neges yr efengyl. A ydym yn sylweddoli pa mor drist o wir yw geiriau Paul pan ddywed bod ‘duw’r oes bresennol’ wedi dallu meddyliau anghredinwyr ‘rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist’ (2 Cor. 4:4)?

Ac ni fedr neb eu dwyn o’r tywyllwch i’r goleuni ond Duw ei hun. Gall y traethu fod yn lân o’r brychau a nodwyd, yn hynod fywiog a diddorol, y pregethwr neu’r siaradwr mor huawdl â Spurgeon, a chamau rhesymegol yr ymdriniaeth mor eglur a gloyw â dŵr y nant, ofer yw’r cyfan heb eglurhad yr Ysbryd a’r arddeliad oddi fry. Dim ond Ysbryd Duw a all beri llwyddiant, er y caledwch, a gwneud yn siŵr fod yr adar drwg, Satan a’i griw, yn cadw draw.

Tagiau
Y Gair Olaf