Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwacáu Crist?

3 Rhagfyr 2014 | gan Geraint Lloyd

Pwy yw Iesu Grist? I raddau helaeth, mae holl lawenydd Cristnogion a’u holl sicrwydd yn pwyso ar yr ateb i’r cwestiwn hwn. Yn ôI y Beibl, mae dau wirionedd mawr i’w cofio am Grist: yn gyntaf, mae’n wir Dduw, yn gydradd â’r Tad (Mathew 11:27; Ioan 14:9, 10); yn ail, mae’n wir ddyn, a thra oedd ar y ddaear bu’n dysgu, yn cysgu, yn newynu ac wrth gwrs yn marw (Luc 1:80; Math. 8:24; Math. 4:2, 6; Marc 1:37, 44). O barchu’r naill wirionedd a’r llall, cawn lawnder y cysur sydd yn un o emynau mawr Ann Griffiths:

O! f’enaid, gwêl addasrwydd
Y Person rhyfedd hwn;
Dy fywyd mentra arno,
Ac arno rho dy bwn:
Mae’n ddyn i gydymdeimlo
Â’th holl wendidau i gyd;
Mae’n Dduw i gario’r orsedd
Ar ddiafol, cnawd a byd

Ac eto, sut y gall Iesu fod yn Dduw ac yn ddyn? Ateb y Beibl yw i Fab Duw ddod yn ddyn (Ioan 1:1-5, 18). Y cwestiwn, wedyn, yw: wrth ddod yn ddyn, a gollodd Crist ychydig o’i Dduwdod? Wele ni wedi cyrraedd damcaniaeth y cenôsis.

Datblygwyd y ddysgeidiaeth hon yn gyntaf gan y diwinydd Lwtheraidd Gottfried Thomasius (1802-73). Dadleuodd fod rhai priodoleddau’n hanfodol i Dduw (gwirionedd, sancteiddrwydd, cariad) ac eraill yn berthynol iddo wrth greu’r byd (hollalluogrwydd, hollwybodaeth, hollbresenoldeb). Wrth ddod i’r byd, cefnodd Crist ar y priodoleddau perthynol ond cadwodd y rhai hanfodol. Hyrwyddwyd y safbwynt hwn gan yr Uchel Eglwyswr Anglicanaidd Charles Gore (1853-1932), yr esboniwr efengylaidd o’r Swistir Frédéric Godet (1812-1900) a dyn a fu’n ddylanwad mawr ar Dr Martyn Lloyd-Jones ar ddechrau’i weinidogaeth, sef yr Albanwr P. T. Forsyth (1848-1921). Yn gymharol ddiweddar, mae’r hanesydd eglwysig efengylaidd Anthony Lane wedi dadlau o blaid cyfyngiadau ar wybodaeth Crist er mwyn amddiffyn ei ddynolrwydd llawn. Seilir y gred hon yn bennaf ar Phil. 2:6-8, sef dyfyniad o emyn Cristnogol cynnar yn ôl pob tebyg:

Ac yntau ar ffurf Duw, ni farnodd fod cydraddoldeb â Duw yn rhywbeth i ddal gafael ynddo, ond gwacaodd (ecenôsen o ble daw’r gair cenôsis) ei hun gan gymryd ffurf gwas, a’i wneud yn debyg i ddynion; a phan oedd ei ymddangosiad yr un peth â dyn, ymostyngodd a mynd yn ufudd hyd farwolaeth, yn wir, marwolaeth y groes.

Beth yw canlyniadau’r ddysgeidiaeth hon? Yr un mwyaf niweidiol yw tanseilio awdurdod geiriau Iesu Grist yn yr Efengylau. Os nad oedd Crist yn hollwybodus, a yw’n bosibl ei fod wedi rhannu elfen o anwybodaeth neu ragfarnau ei gyfoeswyr? Defnyddiwyd y ddadl hon mewn perthynas â’r Hen Destament: nid oedd y ffaith fod Crist yn dysgu bod yr Hen Destament yn ffeithiol gywir ond yn dangos bod Crist yn blentyn ei oes; gallai cyfnod gwyddonol, mwy goleuedig ei anwybddu yn hyn o beth. Fe’i defnyddid hefyd wrth amodi dysgeidiaeth Iesu Grist am nefoedd ac uffern. Yn wir, ar sail y gred hon mae unrhyw ddatganiad gan Grist am y dyfodol yn ansicr; dyna ddiwedd ar y cysur sydd wedi dod o eiriau Crist i Gristnogion ar hyd y canrifoedd.

Diolch, felly, fod atebion i’r dadleuon cenotaidd. Wele rai ohonynt.

Y Ddadl Esboniadol.

Yn gyntaf, ai bwriad Paul yn Philipiaid 2 yw trafod y priodoleddau a gollwyd gan Grist? Nid oes sôn yn y darn am unrhyw briodoleddau penodol a aberthir, megis hollwybodaeth. Dywedir, yn hytrach, i Grist ei wacáu ei hun, sy’n awgrymu rhywbeth llawer iawn mwy, os rhywbeth.

I’r Cenotiaid, wrth ddweud bod Crist ‘ar ffurf Duw’, cyfeirir at y priodoleddau dwyfol trosgynnol a oedd yn eiddo i Grist cyn ei ymgnawdoliad. Mewn geiriau eraill, wrth ddod yn ddyn, peidiodd Crist â bod yr hyn ydoedd yn y dechrau. Beth bynnag, ni ddywedir iddo gymryd ffurf (morffê) dyn ond ‘ffurf gwas’. Yr unig ystyr i’r gair ‘ffurf’ a fyddai’n gwneud synnwyr yn y ddau gyflwr (Duw a gwas) yw ‘statws’, sef syniad eraill am Grist. Bu’n mwynhau addoliad y nefoedd, ond daeth i’r byd ar ffurf gwas. Ystyr ffigurol, felly, yn hytrach nag un lythrennol sydd i’r gair ‘gwacáu’, fel yr awgryma’r hen gyfieithiad Cymraeg, ‘fe’i dibrisiodd ei hun’ (NIV: ‘made himself nothing’). Hon yw’r ystyr sy’n cyd-fynd orau â’r cyd-destun fel y dengys beibl.net sy’n cysylltu’r ‘gwacáu’ â’r gwasanaethu: ‘dewisodd ei roi hun yn llwyr i wasanaethu eraill’. Ystyr ffigurol sydd i’r ferf cenoô mewn mannau eraill gan Paul lle sonia am wneud ffydd, pregethu ac ymffrost yn ofer neu’n ddiwerth (Rhuf. 4:14; 1 Cor. 1:17; 9:15; 2 Cor. 9:3). Ni chyfeiria’r adnodau hyn at golli pethau penodol. Byddai’r dehongliad hwn hefyd yn gyson â 2 Cor. 8:9, daeth Crist yn dlawd trwy gefnu ar ei ogoniant nefol, nid trwy golli’i hollwybodaeth.

Beth, felly, am yr adnod lle mae Crist yn nodi ei anwybodaeth am ddyddiad y farn (Marc 13:32)? Rhaid troedio’n ofalus wrth drafod y dirgelwch hwn, ond yn yr adnod hon gwelir, nid duwdod cyfyngedig Crist, ond ei ddynolrwydd llawn. Wrth ddod yn ddyn a chymryd ffurf gwas, ymostyngodd Crist i fyw mewn ffydd ar y ddaear, ac mewn rhai pethau ni chafodd ei natur ddynol fanteisio ar holl adnoddau ei natur ddwyfol. Yn y cyswllt hwn rhaid deall y cyfeiriad at Grist yn dysgu ac yn y cynyddu mewn gwybodaeth (Luc 1:80). Ymostyngiad rhyfeddol a welir yn hytrach nag anwybodaeth hanfodol.

Y Ddadl Ddiwinyddol.

Mae cysyniad cenôsis yn groes i undod y Duwdod. Honnir bod gwahanol briodoleddau’n perthyn i Dduw, rhai ohonynt yn hanfodol ac eraill yn berthynol. Ond nid casgliad o briodoleddau i’w hepgor neu’u cadw yw Duw’r Beibl (Es. 40:12-27). Pe bai Crist wedi colli rhai o’i briodoleddau dwyfol, buasai’r Drindod yn anghyflawn tra oedd Crist ar y ddaear, ni fyddai’n cynnal pob peth (Heb. 1:3; Col. 1:17). Hwn yw’r darlun a rydd Crist ohono’i hun yn yr Efengylau (Math. 11:27; Ioan 14:1-14). Wrth i Grist ymostwng a dod yn ddyn, nid colli rhywbeth a wnaeth ond ychwanegu natur ddynol (‘gwacaodd ei hun gan gymryd ffurf gwas’). Er anodded yw i’n meddyliau ni, rhaid ceisio gwerthfawrogi orau ag y gallwn y Gwaredwr gogoneddus a ddatguddir i ni yn y Beibl.

Y Ddadl Fugeiliol.

Wrth ddod yn ddyn a mynd yn was, nid colli rhan o’i hanfod dwyfol a wnaeth Crist ond gadael y gogoniant lle cydnabuwyd y dwyfoldeb hwn. Nod Paul yn yr adran hon o’i lythyr at y Philipiaid yw meithrin gostyngeiddrwydd, nid disgrifio pob manylyn ynghylch ymgnawdoliad Mab Duw, na gwneud dysgeidiaeth Iesu Grist yn fwy neu’n llai derbyniol i oes wyddonol. Gwae ni os craffwn ar Philipiaid 2 heb ddysgu’r wers hon!

Pe bai Iesu yn ddim ond dyn, gallai fod yn esiampl o ostyngeiddrwydd yn yr un modd â’r unigolion diymhongar hynny y mae wedi bod yn fraint i ni ddod ar eu traws. Ond ni fyddai’n esiampl unigryw. Pe bai Iesu wedi colli’i hollwybodaeth, byddai hynny eto yn ostyngeiddrwydd mawr, ond efallai ychydig yn llai am na fyddai’n gwbl ymwybodol o’r hyn a olygai i Fab Duw ddod yn ddyn. Ond os oedd gan Iesu Grist holl ymwybyddiaeth y duwdod, ac eto’n ymostwng bob dydd ar ddull gwas, dyna ergyd farwol i’n hymchwyddo a’n hymgecru. Rhag ein cywilydd os parhawn i ddymuno bod yn geffylau blaen. Onid hwn yw gwir fesur ein hadnabyddiaeth o Grist? Nid ein gafael ar y gwahanol dermau neu’r gwahanol ddadleuon sy’n gysylltiedig â Pherson Crist nac ychwaith uniongrededd ein proffes, ond faint o ysbryd Crist sydd gennym? Faint o barodrwydd i dorchi llewys i wasanaethu eraill? I fod yn ddim yng ngolwg eraill.

O! na bawn yn fwy tebyg
I Iesu Grist yn byw,
Yn llwyr gysegru mywyd
I wasanaethu Duw.
Nid er ei fwyn ei hunan
Y daeth i lawr o’r nef
Ei roi ei hun yn aberth
Dros eraill wnaeth efe.
O! na bawn ni fel efe.

Tagiau
Diwinyddiaeth
Adnodd diwethaf