Yn gynt eleni bu farw’r cenhadwr David James Morse yn 87 oed. Yn 2007, ac yntau’n 80 oed, rhoddodd gyfres o anerchiadau yn sôn am ei brofiadau o waith Duw ym Mheriw. Dyma grynodeb o un o’r anerchiadau hynny.
Byddaf yn trafod ‘diwygiad’ yn yr anerchiad hwn yn nhermau adfywiad eang a chyffredinol sy’n lledu’n gyflym o’r naill ardal i’r llall ac sy’n cael effaith ddwys ar gymunedau cyfan.
Oherwydd natur y pwnc mae’n anodd peidio â siarad yn bersonol, ond nid rhoi clod i bobl yw fy mwriad yma. Offerynnau yn ei ddwylo ydym ni. Gwaith sofran Duw yw’r diwygiadau ym Mheriw ac ef biau’r clod a’r mawl.
Mae pob diwygiad yn wahanol, wrth gwrs. Gobeithio y cewch flas o hyn yn yr enghreifftiau canlynol o waith graslon Duw
Mewndir Periw
Yn 1960 fe’m galwyd innau a’m gwraig, Ann, i fod yn genhadon ym Mheriw. Ar ôl mordaith o fis, cyraeddasom y wlad gyda’n dau blentyn bach. Byddem yn gweithio ym mewndir Periw; ardal y coedwigoedd glaw.
Mae’r ail flwyddyn yn heriol i lawer o genhadon ac erbyn diwedd y flwyddyn honno roeddwn yn barod i godi pac a dychwelyd adref. Roeddwn wedi blino’n gorfforol ac ysbrydol ac roedd amheuaeth wedi datblygu yn fy nghalon. Awgrymodd Ann y dylwn dreulio amser yn y Gair ac mewn gweddi cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Dechreuais felly ddarllen y Beibl o’r dechrau, i adfywio fy enaid. Ar ôl peth amser roeddwn wedi cyrraedd 1 Samuel pan yn sydyn teimlais yr Arglwydd yn siarad drwy’r Gair:
‘Wedi iti gyrraedd y dref . . . bydd ysbryd yr Arglwydd yn disgyn arnat a byddi’n . . . ddyn gwahanol’ (I Sam 10:5).
Roeddem wedi trefnu ymweld â dinas Lima o fewn rhai diwrnodau, ac felly, meddyliais, dyma addewid y bydd Duw yn bendithio yno. Ond ni newidodd dim yn Lima. Ymlaen â ni felly i ddinas fechan yn yr Andes, heb feddwl ryw lawer am yr hyn oedd o’n blaenau. Ond yma, yn y ddinas hon, fe fyddai Duw’n anfon ei fendith.
Roeddwn wedi cael gwahoddiad gan bennaeth y Coleg Beiblaidd i annerch y myfyrwyr. Rwy’n cofio hyd heddiw yr ymdeimlad o annigonolrwydd. Doedd dim dewis ond troi at yr Arglwydd, ac wrth weddïo teimlais bresenoldeb Duw. Cafwyd cyfarfod arbennig.
Ddeufis yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 1963, a ninnau wedi bod yn astudio Eseia 64, teimlodd sawl person gymhelliad i weddïo’n daer. Gwyddom y byddai Duw yn bendithio yn ei amser ei hun; nid am ein bod ni’n sanctaidd, ond am ei fod ef yn raslon.
Mewn cwrdd gweddi un noson, llenwyd yr ystafell gan ymdeimlad rhyfedd o bresenoldeb Duw. Fe’n syfrdanwyd gan sancteiddrwydd Duw a’r ffaith ei fod yn Dduw mawr ac ofnadwy. Ni ddywedodd neb unrhyw beth, nes i ‘Pedro bach’ ddechrau gweddïo, ‘Arglwydd, yr wyt ti mor sanctaidd, ond am dy fod yn ein gweld ni yng nghyfiawnder Iesu Grist, gallwn ddod atat. Torrodd y naws a dechreuwyd llawenhau. Dyma ddechrau’r diwygiad ym mewndir Peru yn 1963.
Yn fuan wedi hyn anfonwyd un o fyfyrwyr y coleg i bentref cyfagos. Roedd pregethwyr wedi ymweld â’r pentref sawl gwaith, heb fawr o ymateb, ond y tro hwn daeth y pentref cyfan i’r cyfarfod. Bu’n rhaid symud i’r plaza yng nghanol y pentref am fod y dorf mor fawr. Gan grynu, rhannodd y myfyriwr ifanc ei dystiolaeth a daeth 43 o bobl at yr Arglwyd